Newyddion Cymuned Penygroes

Cofnodion 02 Mai 2007
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM

Pafiliwn Parc Penygroes Park Pavillion

Nos Fercher  Wednesday

2 Mai May 2 2007

COFNODION

Presennol

Mark Waygood, Eleri Davies, Vicky Thomas, Peter Roberts, Lynnette Reynolds, Nicola Davies, Llinos Hindley, Amanda Davies, Les Devaney, Yvonne Kelly, Phil Owen, Mair Griffiths, Julie Owen, Huw Evans (Menter Cwm Gwendraeth)

Ymddiheuriadau

Julian Tandy

Croeso

Esboniodd Mark Waygood nad oedd Julian Tandy yn gallu mynychu’r cyfarfod a’i fod wedi cytuno i gymryd y gadair yn ystod cyfnod ei absenoldeb.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cynigiwyd fod y cofnodion yn gywir gan Mair Griffiths; eiliwyd y cynnig gan Les Devaney.

Materion yn codi

Ni chodwyd unrhyw fater.

Adroddiad gan y Swyddog Datblygu

Rhoddodd Phil Owen adroddiad ar bedair wythnos gynhyrchiol iawn.  Mae wedi sefydlu swyddfa yn ystafell gyfrifiaduron yn y neuadd gymunedol.  Gellir canu cloch wrth y drws os ydyw ar glo ac arwydd i nodi pan fo Phil yn y swyddfa.  Bydd llinell ffôn a band-eang yn cael ei gosod.  Mae Phil hefyd wedi gosod dyddiadur ar-lein er mwyn i bobl  gadw golwg ar yr hyn y mae yn ei wneud, ac ar ben hyn, ac mae wrthi’n sefydlu dyddiadur ar gyfer lleoliadau cymunedol a’r gweithgareddau a rhedir ym mhob un.  Mae hefyd wedi;

•    ceisio am arian o B&Q ar gyfer twbeiau blodau ar gyfer y 3 phentref

•    cynorthwyo’r Eglwys Apostolaidd i ddod o hyd i arian i gyhoeddi llyfr ryseitiau

•    helpu busnes cymdeithasol i ddod o hyd i gartref newydd er mwyn ei alluogi i ehangu

•    cefnogi datblygiadau yn y parc

•    helpu grwp pensiynwyr i wneud cais am arian

•    gwneud ymholiadau yngly^n â’r posibilrwydd o adeiladu a chyllido estyniad i neuadd Penygroes.

•    Ymholi I’r syniad o adeiladu cyfleuster rhyngrwyd galw-i-mewn o bosibl yn hen adeilad Banc Lloyds ar y sgwâr.

Hysbysfwrdd ar-lein

Mae Mark Waygood wedi datblygu hysbysfwrdd ar-lein yn hytrach na chylchlythyr ar bapur.  Fe’i lluniwyd i fod yn gwbl ryngweithiol.  Gall unrhyw un sydd wedi ymaelodi’n ychwanegu gwybodaeth am ddigwyddiadau, lluniau, a.y.y.b i’r safle.  Arlwythwyd copïau o gofnodion o bob cyfarfod a gynhaliwyd yn 2006 i’r wefan ac mae yna adran ar gyfer digwyddiadau’r dyfodol.  Ymhlith yr eitemau eraill, bydd disgrifiad swydd y Swyddog Datblygu Cymunedol.

Unwaith y bydd y wefan wedi ei chwblhau, bydd fersiwn Cymraeg yn cael ei lansio.  £180 y flwyddyn yw’r gost o’i chynnal.

Y cyfeiriad yw www.crosshandslife.co.uk/penygroescommunitynews/

Mae’r wefan hefyd yn cynnig mynediad i ddyddiadur y Swyddog Datblygu a dyddiadur y lleoliadau cymunedol.

Diwrnod Ymgynghorol Parc Penygroes

Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghorol llwyddiannus iawn i drafod cynlluniau posibl ar gyfer y parc.  Ymatebodd 200 o bobl.  Mae Menter Cwm Gwendraeth wrthi ar hyn o bryd yn coledu’r ymatebion ac yn paratoi adroddiad yn seiliedig ar y canlyniadau.  Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal i gyhoeddi’r canfyddiadau.

Noson Gemau Traddodiadol

Cynhelir y noson gemau ar noson 4 Mai 2007 yn Neuadd Penygroes rhwng 5.30 ac 8.  Dylai unrhyw un sydd angen hyfforddiant ar un o’r gemau gyrraedd am 5 o’r gloch.  Mae posteri wedi eu dosbarthu.

Unrhyw Fater Arall

Gofynnodd Huw Evans o Menter Cwm Gwendraeth i’r Fforwm i adnabod prosiect posibl fel rhan o wythnos amgylcheddol ‘Wi’n Caru Cwm Gwendraeth’ sy’n dechrau ar 9fed o Orffennaf.

Mae ymweliad i weld menter gymunedol Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen yn ar 24 Mai, gyda’r bws mini yn gadael Pontyberem am 10 y.b.  Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod gysylltu â swyddfa’r Fenter.

Gwelwyd oedi ar waith ar yr ardd gymunedol tra i’r swyddogion ddatrys problemau ynglyn â thaliadau.  Disgwylwyd i’r planhigion a’r hadau gyrraedd yn ystod yr wythnos nesaf.

Mae’r Clwb Garddio yn trefnu taith i Sioe Flodau Malvern ar 12fed Gorffennaf 2007.  Mae yna ychydig o seddau ar gael o hyd.

Bydd y Sioe Flodau flynyddol yn cael ei chynnal ar 21ain Gorffennaf yn y Clwb Rygbi.  Bydd yna gystadleuaeth ar gyfer y fasged grog, a blwyddyn nesaf bydd yna un ar gyfer yr ardd flaen orau.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 6ed Mehefin 2007.

Cofnodion 04 Ebrill 2007
Fforwm Ward Penygroes Ward Forum

Meeting Cyfarfod April 4 Ebrill 2007

Pafiliwn Cymunedol Penygroes Community Pavilion

COFNODION

Yn bresennol

Julian Tandy (Cadeirydd), Eleri Davies (Is-Ygrifenyddes), Phil Owen, Mair Griffiths, Siân Thomas, John Davies, Julie Owen, Les Devaney, Sarah Davies, Vicky Thomas, Yvonne Kelly, Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth, Martin Davies, Cyfieithydd

Ymddiheuriadau

Mark Waygood, Derrick Rouke

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir o’r cyfarfod. Cynigiwyd gan Julie Owen ac eiliwyd gan John Davies

Materion yn Codi

Nid oes gan Yvonne Kelly y wybodaeth am gyllid ar gyfer swydd swyddog datblygu.

Prynwyd y pedair bord newydd ac maent yn y pafiliwn cymunedol.

Mae angen trefnu cyfarfod gyda’r Clwb Rygbi i drafod y defnydd ar y cyd o’r pafiliwn cymunedol.

Gweithredu: Phil Owen i drefnu cyfarfod.

Cyflwyno’r Swyddog Datblygu Cymunedol newydd

Cyfwelodd y Cynghorydd Siân Thomas, Julian Tandy a Peter Roberts 6 ymgeisydd ar gyfer y swydd 11 mis. Roedd y safon yn uchel iawn a rhoddwyd y swydd i Phil Owen.

Cyflwynodd Phil Owen, a gychwynnodd yn y swydd ar 2il  Ebrill 2007, ei hunan. Mae’n byw ym Mhenygroes, mae’n drysorydd ac yn ddiacon yng Nghapel Calfaria, mae wedi bod ynghlwm wrth y Fforwm a bu’n ysgrifennydd am rai blynyddoedd. Mae wedi gweithio’n flaenorol i Dwr Cymru ac Ynni Adnewyddol.

Yn ei ddiwrnodau cyntaf mewn swydd mae wedi bod yn edrych am ofod i sefydlu swyddfa a bydd yn cwrdd â pherchennog Banc Lloyd sydd hefyd yn berchen eiddo arall a thir yn yr ardal er mwyn trafod dewisiadau posib. Mae e hefyd wedi cwrdd â swyddogion y fforwm ac wedi mynychu cyfarfod datblyugu’r parc yn gynt heddiw. Yn yr ychydig ddiwrnodau nesaf fe fydd yn cwrdd â’r swyddogion ieuenctid a rhai o’r bobl ifanc eu hunain.

Nod Phil yw cael trwydded fydd yn caniatáu iddo yrru bws mini. Gellir llogi bws mini cymunedol drwy Fenter Cwm Gwendraeth am dâl rhesymol.

Ei flaenoriaethau tymor byr yw:

•    Datblygu taflen yn hyrwyddo teithiau cerdded a hawliau tramwy cyhoeddus o fewn y ward

•    Llunio dyddiadur o’r digwyddiadau sy’n ‘mynd ymlaen’ yn y gymuned

•    Clustnodi holl leoliadau’r gymuned a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial

•    Adnabod y bobl sydd â chrefft yn y ward a’u hannog i redeg cyrsiau

•    Helpu gyda threfnu digwyddiadau

•    Codi arian drwy grantiau ac edrych ar gyfleoedd i gynnal y swydd y tu hwnt i’r nawdd cyfredol

•    Cylchlythyr cymunedol yn gweithio gyda’r ieuenctid

Cyfarfod y Parc Hamdden

Cynhaliwyd cyfarfod yn gynt yn y dydd i drafod datblygiad llwybr gweithgarwch o gwmpas perimedr y caeau rygbi ac ardal chwarae/gweithgareddau/ campfa awyr agored wedi’i fwriadu ar gyfer oedolion ac ieuenctid hyn.  Mae £45,000 ar gael drwy gytundeb Adran 106 ar gyfer datblygiad Pendragon. Mae gweddill yr arian yn rhwym wrth gais Sportslot.

Cynhelir diwrnod ymgynghori ar gyfer y gymuned ar 17 Ebrill 2007 yn y neuadd gymuned o12 ganol dydd tan 7 o’r gloch. Mae Menter Cwm Gwendraeth yn trefnu’r cyhoeddusrwydd ac fe ofynnir i’r bobl ifanc ddosbarthu hysbysiadau o gwmpas y pentref. Fe fydd Mr Sutton a Menter Cwm Gwendraeth yn datblygu holiadur ar gyfer y diwrnod.

Gofynnwyd i aelodau’r fforwm fod yn bresennol. Paratoir pamffled byr yn hyrwyddo cynlluniau presennol y Fforwm a’r cynlluniau i’r dyfodol.

Gweithredu: Julian Tandy a Mark Waygood i baratoi’r pamffledi.

Gofynnir i Mark Waygood barhau fel cynrychiolydd y fforwm ar grwp datblygu’r prosiect.

Mae nifer o ddatblygiadau eraill o fewn Penygroes sydd hefyd yn rhwym wrth gytundebau Adran 106 allai gyfrannu at ddatblygiadau i’r dyfodol mewn un o’r pum parc arall o fewn y ward. Eto nid oes datblygiadau wedi’u cynllunio fyddai’n rhwym wrth ddatblygiad Adran 106 ym Mlaenau a Chae’r Bryn.

Gardd Gymunedol

Ni fu unrhyw waith ar y safle o ganlyniad i’r tywydd. Mae angen 2 wythnos o dywydd da ar y contractwr i gyflawni’r holl waith. Dylai’r gwaith fod wedi’i orffen erbyn diwedd Ebrill 2007.

Mae aelodau’r Clwb Garddio wedi trefnu’u gwibdaith wanwynol i Sioe Malvern ar Fai 12fed 2007.

Noson Gemau

Bwriedir cynnal y noson gemau ar Fai 4ydd 2007 yn Neuadd Penygroes fel rhan o Wyl y Gwendraeth.  Mae Menter Cwm Gwendraeth yn trefnu bod Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor Sir yn dod â naill ai’r ffrâm ddringo neu’r gêm pledu paent. Awgrymwyd eu bod hefyd yn dod â rhywbeth ar gyfer plant iau. Syniadau eraill ar gyfer y gemau yw:

•    Y Clwb Bowlio i redeg gemau bowlio mat byr

•    Tiddlywinks

•    Gemau Cardiau

•    Tipit

•    Ludo a Frustration

•    Snakes and Ladders

•    Bingo, gallai cyfarpar fod ar gael yn Neuadd y Gât.

•    Gwthio dimai a sgitls o’r Farmers

Cytunodd Mair Griffiths i gymryd gofal o’r lluniaeth. Darperir te, coffi, llaeth a bisgedi gan Fenter Cwm Gwendraeth.  Bydd staff o Fenter Cwm Gwendraeth a swyddogion ifainc yn bresennol yn y digwyddiad.

Y tâl mynediad fydd 50c i oedolion ac 20c i blant.

Cynhelir cyfarfod yn dilyn y Fforwm nesaf ar Fai 2il 2007 i gwblhau’r trefniadau.

Y newyddion diweddaraf yn gryno

Datblygiad Apostolaidd

Mae’r materion yn ymwneud â’r tir yn dal dan ystyriaeth gan Adran Gyfreithiol yr Awdurdod Lleol.

Mae cais cynllunio am ddatblygiad arall rhwng Awelon a Gerynant ar Heol  Caerbryn sydd gyferbyn â’r datblygiad Apostolaidd arall ar safle’r hen faes carafanau. Nid oes manylion ar gael hyd yn hyn. Ni roddwyd ystyriaeth i’r cais Apostolaidd gan y pwyllgor cynllunio gan ei bod yn ofynnol i’r adran briffyrdd ymgymryd ag ymchwiliad yn dilyn lefel uchel o wrthwynebiadau.

Safle’r Emlyn

Mae’r datblygwyr yn dal i aros i glywed oddi wrth y perchenogion tai ynghylch y lôn gefn. Fodd bynnag mae’r perchenogion wedi gwneud cais am gyfarfod gyda’r datblygwyr. Ymddengys mai Rhif 48 yn unig sydd â hawl gyfreithiol i’r tir.

Awgrymwyd bod Phil Owen yn cael ei gynnwys mewn trafodaethau.

Baw Ci

Mae Llinos Hindley a’r Cynghorydd Siân Thomas wedi llwyddo i gael erthyglau am y broblem barhaus hon yn y South Wales Guardian, Carmarthen Journal a’r Gwendraeth Star.

Bu newid yn y gyfraith sy’n caniatáu i berchenogion y cwn gaiff eu dal yn bawa gael eu dirwyo yn y fan a’r lle. Ni chaniateir cwn mewn ardaloedd chwarae nac ar feysydd chwarae ond nid oedd y Cynghorydd Thomas yn siwr a oedd caniatâd iddynt ar barcdir agored.

Mae nifer sylweddol o bobl yn defnyddio’r caeau rygbi ar fore Sadwrn i ymarfer eu cwn. Os cofnodir rhifau ceir gall y perchenogion gael eu holrhain drwy gyfrwng y DVLA

Unrhyw Fater Arall

8.    Mae Menter Cwm Gwendraeth yn trefnu wythnos o weithgarwch glanhau’n cymunedau ar draws y cwm yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar Orffennaf 9fed 2007.  Dyma brosiect partneriaeth rhwng Menter Cwm Gwendraeth, Cadwch Gymru’n Daclus ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Bydd amnest sbwriel yn Y Tymbl. Gofynnwyd i’r fforwm glustnodi prosiectau posib fyddai’n gwella’r ardal yn weledol ac yn cymell mwy o falchder yn yr ardal.

Yr awgrymiadau oedd;

•    Glanhau ochrau’r nant ar Heol Caerbryn

•    Cymryd agwedd fwy cadarnhaol i fod yn gysylltiedig â’r gystadleuaeth basgedi crog a’r Sioe Arddio

Gweithredu: Phil Owen i glustnodi 3 lleoliad ar draws y ward fyddai ar eu hennill o gael ymgyrch-lanhau  ac adrodd nôl i’r cyfarfod.

9.    Gofynnodd Yvonne Kelly am awgrymiadau ar gyfer prosiect er mwyn iddi allu ei roi gerbron Cyngor Cymuned Llandybie i’w ystyried yr wythnos nesaf. Mae arian ar gael oddi wrth ddatblygwyr y llinell bibell nwy.

Y syniadau a awgrymwyd oedd;

•    Agor y llwybrau ger y nant ar Heol Caerbryn.  Mae materion yn ymwneud â pherchenogaeth tir

•    Yr Ardal Bicnic yn y coetir oddi ar Heol Maesgwyn.  Nid yw hwn yn briodol am ei fod yn nwylo preifat

•    Cysgodfan bws yng Ngorsddu ac ar Heol Waterloo.  Mae’r rhain eisoes wedi cael eu rhoi gerbron am gysgodfannau yn eu lle

•    Cyfrifiadur ac argraffydd ym mhob neuadd

•    Yr ieuenctid i wneud cais am gyllid i ddatblygu’r pafiliwn

•    Nawdd ar gyfer y pamffled teithiau cerdded a hawliau tramwy

Gweithredu: Cynhelir cyfarfod yn y Farmers ar Ebrill 10fed 2007 i drafod syniadau.

10.    Cododd Julian Tandy broblem yn ymwneud â hawl tramwy na ellir ei defnyddio, a dynnodd i sylw’r Fforwm dros flwyddyn yn ôl. Mae rhan ganol yr hawl tramwy o waelod Heol  Waterloo i Saron yn dal yn gaeedig o ganlyniad i nifer o ffensys weiren.

Gweithredu: Julian Tandy i gwrdd ag Yvonne Kelly i ddynodi rhif y llwybr a hysbysu’r Cyngor Cymuned a’r Cynghorydd Sian Thomas all ysgogi hysbysiad gorfodi

11.    Daeth i sylw’r Fforwm fod meddygfa Meddygon Penygroes ar gyfnodau prysur yn gweithredu system lle mae meddygon yn rhoi galwad ffôn i gleifion fu mewn cysylltiad er mwyn trafod eu symptomau a’u cynghori ar y cwrs gweithredu mwyaf priodol ac a oes angen gwirioneddol iddynt ymweld â’r feddygfa.

Os nad yw cleifion yn teimlo bod y system hon yn gweithredu’n llwyddiannus dylent gwyno i’r Bwrdd Iechyd Lleol, Heol Cropin, Dafen, Llanelli.

12.    Hysbysodd Julian Tandy yr aelodau y cynhelir protest yn erbyn y Ganolfan Pledu Paent, drws nesaf i Ysgol Farchogaeth Dinefwr, yn Llandeilo ar 5 Ebrill 2007.

13.    Cynhelir diwrnodau ymgynghori y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch Gofal yn y Gymuned ym Mhontiets ar 17eg Ebrill 2007, 6pm i 8pm a 24ain Ebrill 2007, 2pm to 5pm.  Cynhelir cyfarfod arall ar Fai 11eg a’r lleoliad i’w gadarnhau. Mae croeso i unrhyw un fynychu.

14.    Mae Menter  Cwm Gwendraeth yn trefnu ymweliad â Llandysul a Phontweli. Ymlaen am Landysul i ymweld â’r dref a dysgu am y gwaith gyflawnwyd yno dros y 10 mlynedd diwethaf. Maent wedi sefydlu nifer o wahanol brosiectau o fewn y dref. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ymuno yn yr ymweliad gysylltu â  Huw Evans ym Menter Cwm Gwendraeth.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Neuadd Gymuned Penygroes ar Fai  2il 2007 am 7pm.

Cofnodion 14 Chwefror 2007
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM

Cyfarfod 14 Chwefror 2007

Pafiliwn Cymunedol Parc Penygroes

COFNODION

Presennol

Julian Tandy (Cadeirydd), Mark Waygood (Ysgrifennydd), Yvonne Kelly (Trysorydd), Llinos Hindley, Nicola Davies, Kevin Kelly, John Davies, Les Samuel, Roger Evans, Siân Thomas, Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth

Ymddiheuriadau

Marie Hughes-Jones, Lynette Reynolds, Alun Lewis, Mair Griffiths, Eleri Davies

Cofnodion o’r Cyfarfod Diwethaf

Cywiriad i gofnodion y cyfarfod diwethaf; roedd yna bump ennillydd i Gystadleuaeth y Golau Nadolig Gorau, sef teuluoedd Garrity, Heol Caerbryn, Morgan – Maesglas, Richards – Heol Waterloo, Smart – Blaen Emlyn, Smith – Pant-y-Blodau, Blaenau.

Cynigiwyd fod cofnodion y cyfarfod diwethaf  yn gywir gan Lliinos Hindley, eiliwyd gan Nicola Davies.

Materion yn codi

•    Oherwydd y tywydd gwael yn ddiweddar, bydd Julian yn cwrdd â Marie Anne Jones (Prosiect Cerdded i Iechyd) ar Ddydd Iau, 15fed Chwefror.

Cofnodion

Datblygiad yr tir yr Eglwys Apostolaidd

•    Mae yna ddau gais datblygu.  Daeth Peter Roberts o hyd i ddogfennau sy’n datgan mai at ddefnydd hamdden yn unig mae’r Parc.

•    Mae’r achos nawr yn cael ei ystyried gan Adran Ddatblygu’r Cyngor Sir, ond ychydig iawn o rybudd cawn ni os oes yna ymholiad cyhoeddus.

•    Mae yna hefyd gais i godi 31 ty ar Heol Caerbryn, er efallai y bydd rhaid iddynt ail-gyflwyno cais gyda llai o dai.  Cafwyd ymateb da gan drigolion Heol Caerbryn.

•    Efallai bydd rhaid cynnal cyfarfod cyhoeddus, ond cawn ond ychydig o rybudd i drefnu hyn.

•    Mae’r Fforwm yn gwrthwynebu’r datblygiad hwn, ac mae Siân yn ystyried hwn fel mandad cyhoeddus.

Diweddariad ar Safle’r Emlyn

•    Mynychodd Roger Evans y cyfarfod i gywiro ambell i ffaith yr oedd yn credu fod y Fforwm wedi ei gael yn anghywir.  Gwrthododd bron pob un o’r honiadau a oedd wedi eu gwneud yn erbyn datblygiad Protex.  Gweler cofnodion blaenorol am ddisgriad manylach o’r rhain.

•    Yn fyr, gwneithpwyd y sylwadau NEWYDD hyn:

1.    Nid oes angen tir i gael mynediad oddi wrth Capel Calfaria na’r Neuadd Goffa ac nid oes yna unrhyw fwriad i brynu’r Neuadd Les.

2.    Hyd yn hyn, mae £9 miliwn wedi ei wario ar y safle.

3.    Bydd yna Neuadd Chwaraeon y tu ôl i’r Clwb Rygbi.

4.    Awgrymwyd y gallai Menter Cwm Gwendraeth helpu i gynnal asesiad datblygiad safle’r Emlyn ar y Gymraeg gyda chynifer o bobl newydd yn dod i fyw yn y pentref yn sgil hynny.

5.    Nid yw Cymal 106 wedi ei gytuno ar gyfer safle Protex, gan y daeth i’r rym yn hwyrach.  Byddai’r cam cyntaf yn cynnwys ysgol.

6.    Mae rhwng £5/6 yn dod mewn grantiau i’r gymuned.

7.    Bydd tai fforddadwy yn cael eu codi ar gyfer pobl leol.  Holwyd pa mor lleol fyddai ‘lleol’’. Mae angen mwy o eglurhad ar hyn.

8.    Bwriedir cynnal arddangosfa.  Efallai byddai’r manylion yn barod erbyn y cyfarfod nesaf.

9.    Bydd tai newydd yn cronni dwr glaw.  Mae’r cyngor wedi cytuno i bedwar tanc cronni, ond mae Dwr Cymru ond wedi cytuno i un.

10.    Palwyd ffosydd o amgylch y safle’r Emlyn i gronni dwr oddi ar yr wyneb.  Erbyn hyn mae  85% of yn cael ei ddraenio’n llwyddiannus.

11.    Gwahoddwyd Roger i gyfarfodydd yr is-bwyllgor a dywedodd y dylai’r gymuned fynd ato ef os oes gan unrhyw un bryderon.

•    Dywedwyd fod Newyddion y Gymuned wedi dweud bod ysgol newydd  wedi ei chynllunio ar gyfer Penygroes yn ystod 2008/09 oherwydd cynnydd yn y nifer y tai ym Mhenygroes, Gorslas. Caerbryn a Blaenau.  Os bydd Ysgol Penygroes yn cael ei gadael yn wag, mae’n bosibl y bydd yn dylanwadu ar ddatblygiad y tir Apostolaidd.  Disgwylir i boblogaeth y cylch ddyblu mewn maint.

Baw Cwn

•    Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu unwaith yn rhagor, ac mae glanhawyr y strydoedd wedi gwrthod eu glanhau.  Gofynnwyd iddynt riportio’r broblem.

•    Rydym yn parhau i aros am arwyddion er eu bod wedi ei haddo ers sawl mis bellach.

•    Angen i’r gymuned ddarparu enwau / lluniau o’r troseddwyr.  Siân i wneud cwyn arall.

•    Gofyn swyddogion cymunedol yr heddlu i gadw golwg.  Bydd y Gwardeiniaid yn gweithio oriau hwyrach os ydynt yn gwybod ar bwy dylent gadw golwg.

Swyddog Datblygu Cymunedol

•    Mae’r grant ar gyfer y swydd hon wedi ei gymeradwyo a bydd y person sy’n cael ei benodi  yn gweithio o’r Neuadd Goffa unwaith y bydd yr offer swyddfa yn eu lle.

•    Bydd yn rhaid hysbysebu’r y swydd  mewn cynifer o lefydd â phosibl. Mae dau berson lleol eisoes wedi dangos diddordeb.  Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau  fydd hanner dydd 16eg Mawrth 2007.

•    Cynhelir y cyfweliadau mor fuan â phosibl ar ôl hynny.  Rhaid cael y dyddiad cau mor agos â phosibl i’r 1af Ebrill gan mai swydd ar gyfer blwyddyn yn unig ydyw.

•    Huw Evans i drefnu Manyleb Swydd sy’n ffafrio ymgeisydd dwyieithog.

•    Cyfwelwyr posibl:- Siân Thomas, Robert Quick, Huw Evans, Alun Lewis

•    Awgrymwyd creu Is-bwyllgor i oruchwilio’r Swyddog Datblygu Cymunedol.

Gardd Gymunedol

•    Mae’r grant ar gyfer y prosiect hwn hefyd wedi ei gymeradwyo.  Bydd yr aelodau yn cwrdd y mis hwn er mwyn lansio’r prosiect.  Bwriedir cynnal cyfarfod arall  rhai sy’n gyfrifol am roi’r grant.

•    Angen ysgrifennu hanes a lluniau o aelodau’r Clwb Garddio ar gyfer y wasg leol .

•    Mae yna grant arall o Gyngor Cymuned Llandybie ar gyfer yr ardd hon.

Asesiad Impact ar Iechyd

•    Gwnaethpwyd y cyswllt cyntaf a gobeithir y bydd yna ragor o fanylion i’w hadrodd yn ôl erbyn y cyfarfod nesaf.

Unrhyw Fater Arall

•    Mae angen gweld a oes modd i ni ddefnyddio festri leol arall ar gyfer cyfarfodydd y Fforwm ym Mhenygroes.

•    Cynhelir y cyfarfod nesaf i drafod ail-ddatblygu Parc Penygroes ar 27ain Chwefror yn y Pafiliwn.

•    Mae John Taylor wedi cynnig adeilad cymunedol  y gallai’r ieuenctid lleol ei ddefnyddio.

•    Archebwyd byrddau ar gyfer y Fforwm.

Cyfarfod nesaf y Fforwm, Dydd Mercher 7ed Mawrth

Caewyd y cyfarfod.

Noder: oherwydd y problemau a gafwyd yngly^n â’r offer cyfieithu, mae’n bosibl nad yw pob pwynt wedi ei esbonio’n llawn.–

Cofnodion 10 Hydref 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM

CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL

Neuadd Caerbryn, 10 Hydref 2006

COFNODION

Presennol

Sal Armstrong, Kevin Kelly, Marie Hughes Jones, Howard Watkins, Yvonne Watkins, Lynnette Reynolds, John Davies, Siân Thomas, Mair Griffiths, Yvonne Kelly, Julian Tandy, Mark Waygood, Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth,

Cyfieithu: Mrs Ann Thomas

Ymddiheuriadau

Alun Lewis, Peter Roberts

Adroddiadau Blynyddol

•    Dim adroddiad o’r Cadeirydd oherwydd salwch, ond mae’n trafod gwella cyfleusterau gyda’r cylch ti a fi.

•    Trysorydd – Yvonne Kelly.  Mae’n disgwyl datganiad o’r banc, ond gan na fu yna symudiadau ariannol.  £1,987.13, yw cyfanswm yr arian, gyda £500 ohono wedi ei neilltuo ar gyfer y Prosiect Ieuenctid.  Mae’r arian a godir mewn digwyddiadau’n dal i fynd tuag at Eisteddfod yr Urdd.

•    Angen gweithredu – diweddaru y cyfrif banc gan fod yr wybodaeth yn hen.

Etholiad Pwyllgor:

•    Ar gyfer eleni, bydd yna ddau gyd-gadeirydd, sef Alun Lewis, a enwebwyd gan Julian Tandy a eiliwyd gan Yvonne Watkins, a Julian Tandy, a enwebwyd gan Siân Thomas, ac eiliwyd gan Marie Hughes Jones. Ni chafwyd gwrthwynebiad.

•    Trysorydd; cynigiwyd Yvonne Kelly gan Julian Tandy, eiliwyd gan Howard Watkins.  Dim gwrthwynebiad.

•    Ysgrifennydd; cynigiwyd Mark Waygood gan Kevin Kelly, fe’i eiliwyd gan Yvonne Watkins.  Ni chynigiwyd neb i fod yn is-ysgrifennydd a felly gadawyd y swydd yn wag a bydd yna gais arall i’w llenwi yn y cyfarfod nesaf.

•    Phil Owen ac Alun Lewis i ymddiswyddo fel cyd-arwyddwyr, Mark Waygood i gymryd eu lle.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cynigiodd Lynnette Reynolds fod y cofnodion yn gywir, eiliwyd y cynnig gan Siân Thomas.

Materion yn Codi o’r Cofnodion

Prosiect y Pafiliwn

•    Mae Elwyn Roderick o’r Clwb Rygbi yn barod i gyd-fynd ag unrhyw beth rydym yn ei drefnu ar gyfer y seremoni agoriadol.

•    Rhoddwyd yr allweddau i un o’r hyfforddwyr  – Neil Armstrong, wythnos ddiwethaf, gan fod eu gemau’n cychwyn ar Ddydd Sadwrn

•    Mark Waygood i fynychu cyfarfod (ar ran y Fforwm) gydag Elwyn a’r Prosiect Ieuenctid ar Nos Lun 16eg Hydref yn y Clwb Rygbi.  A allwn ni trefnu’r agoriad i gyd-ddigwydd â gêm cartref?  Dylai amserlen y gemau fod ar gael erbyn Dydd Llun nesaf.

•    Dylwn geisio cael cymorth Radio Sir Gaerfyrddin a phapurau lleol i farchnata’r digwyddiad.  Efallai bod modd gwahodd chwaraewr o Lanelli i agor y prosiect.

•    Y Prif Weithredwr  oedd yn gyfrifol am wneud yn siwr ein bod yn cael y grant.

•    Mae yna bryderon y byddai gêm rygbi yn cymryd dros yr agoriad, ond rhaid i ni ei wneud yn ddigwyddiad ar y cyd.  Mae hwn yn ymgyrch a digwyddiad cymunedol.

•    A fyddai’n bosibl i’w drefnu o gwmpas Calan Gaeaf, neu ar Ddydd Sul, - efallai’r 5ed Tachwedd, ar ôl gêm ieuenctid?  Efallai byddai modd trefnu arddangosfa dân gwyllt?

Hysbysfwrdd

•    Mae Yvonne wedi derbyn llythyr gan Ysgrifennydd y Neuadd Goffa yn datgan fod ganddynt prydles 99 mlynedd o hyd ar y tir, a gellir ei gweld os oes angen prawf.

Datblygiad yr Apostolic

•    Mae Dwr Cymru yn gwrthwynebu cais gan yr Eglwys Apostolaidd gan fod yna broblem o ran dwr.   Eto i gyd, mae’r perchnogion wedi dweud na fyddant yn cysylltu’r tai i’r prif gyflenwad ddwr tan 2010-12. Mae Dwr Cymru’n ddigon hapus â’r cynllun, ar yr amod nad ydynt yn cysylltu unrhyw dai â’r prif gyflenwad cyn iddynt orffen y gwaith i gyd.

•    Mae Siân wedi cysylltu â Jonathan Fearn, Adran Rheoli Eiddo a darllenodd e-bost manwl oddi wrtho.

•    Yn fyr, mae’r Cyngor yn dal prydles 999 mlynedd ar y parc ar gyfer dibenion hamdden.  Ni chytunwyd ar delerau ar gyfer gwerthu na chaniatâd hawliau dros y tir, ac nid yw’r Eglwys Apostolaidd wedi cysylltu â’r Cyngor yngly^n â gwneud hyn.  Byddai’n rhaid iddynt hysbysebu am bythefnos o’r fron ac wedyn ystyried unrhyw wrthwynebiadau.

Os bydd yr Eglwys Apostolaidd yn methu â chael caniatâd cynllunio, bydd rhaid iddynt gysylltu â’r Adran Asedau.  Byddai’n rhaid iddynt hysbysebu’r cais.

•    Mae sôn fod  gan ddatblygwr lleol ddiddordeb ym Mhant-y-Blodau  a gyda datblygiad mawr, byddai angen cylchfan ar Heol Waterloo.

•    Mae’r swyddog cynllunio wedi dweud y bydd yn dweud y bydd yn sôn am ddatblygiad Pant-y-Blodau wrth yr Eglwys Apostolaidd, gan y byddai’n achosi llai o drafferthion iddynt.

•    Byddai gan John Protheroe Thomas wybodaeth ynglyn â wneud ‘rhodd’ o’r tir i’r Apostolics.  Efallai ei fod yn aros i weld a chaiff yr Eglwys Apostolaidd ganiatâd cynllunio, er mwyn iddo ei ddefnydd er dibenion ei hun.

•    Nid oes angen prawf o berchnogaeth arnoch i gyflwyno cais am gynllunio, ond mae cyfreithwyr yr Apostolics wedi penderfynu mai’r Eglwys sydd berchen y tir a bod ganddynt achos digon cryf

•    Nid oes yna unrhyw sicrwydd y bydd teulu John Protheroe Thomas yn herio’r cais am cynllunio fodd bynnag.

•    A fyddai modd gwneud rhywbeth â’r tir gan y Clwb Garddio, fel alotment?

•    Mae Adran 106 yn dweud fod rhaid i unrhyw un, sy’n datblygu tir gan godi dros 20 o dai arwyddo Adran 106, sydd gwerth £1,000 y ty.

•    Cynigiwyd arian i ddatblygu’r parciau lleol, yn cynnwys Penygroes a Gors Ddu.  Mae datblygwr lleol, sydd wedi arwyddo cytundeb Adran 106 wedi cytuno i ddarparu mwy o gyfarpar ar gyfer yr ieuenctid, yn cynnwys hanner piben ar gyfer sglefrfyrddwyr.

•    Bydd goleuadau’n cael eu gosod diolch i gyfraniad ariannol o Gyngor Cymuned Llandybïe.

•    Nid yw’r Apostolics yn dymuno adeiladu heol trwy eu mynwent hwy, ond maent yn ddigon hapus i adeiladu heol trwy lle chwarae ein plant.

•    Gallwn blannu planhigion yn parc, ond i’r cyngor wybod beth yw’r sefyllfa ynglyn â chynnal a chadw.  Pam na allwn ni adael i’r Prosiect Ieuenctid greu a chadw gardd?

Hysbysfwrdd

•    Nid yw’r cyngor yn berchen ar unrhyw dir ar Heol y Bryn.  Byddai’n syniad petai trigolion lleol yn cysylltu â’r Swyddfa Gofrestri Tir a cheisio canfod perchennog unrhyw dir y byddai o bosibl yn addas ar gyfer hysbysfwrdd.

Diweddariad ar Safle’r Emlyn

•    Nid oes dim waith wedi ei wneud ar y safle ers 3 wythnos.

•    Bu yna gwynion ynglyn â’r dwr y tu ôl i Heol Norton, rhwng Rhif 60 a Rhif 100.

•    Nid yw’r broblem wedi ei datrys, a’r wythnos hon, diolch i’r glaw, ni chafwyd dim ond gwynion.  Mae’r glaw wedi rhoi’r system dan brawf ac mae wedi ei phrofi i fod yn ddiffygiol.

•    Mae yna broblem arall ar Heol Gors Ddu, lle mae dwr wedi golchi ysgyrion allan i’r heol.

•    Mae rhai pobl o’r farn y gallai’r datblygiad gael ei ohirio am 3 blynedd neu fwy.  Efallai fod yna reol sy’n cyfyngu ar ba mor hir y gall ddatblygwr aros cyn gosod seiliau.

•    Lleolir Penygroes ar fryn ac mae’r dwr yn rhedeg i lawr i Gorslas, Blaenau, Cwmgwili a Cross Hands. Ni ddylai’r dwr fod yn rhedeg i lawr Heol Waterloo, ond dyna yn union beth sy’n digwydd.

•    Nid yw’r cynlluniau manwl ar gyfer y tai wedi eu cyflwyno hyd yn hyn, felly, ni all Dwr Cymru wneud dim ar hyn o bryd.

Baeddu Cwn

•    Mae Siân wedi anfon samplau o’r baw a adawyd ar y palmant rhwng Sgwâr Penygroes a’r Neuadd.

•    Mae’r Cyngor yn dweud eu bod wedi bod allan yn glanhau’r ardal.

•    Mae ceffylau wedi bod yn baeddu yn yr ardal, ond mae hynny’n iawn, gan nad ydwy’n niwediol. Mae gadael baw cwn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon, gan fod yna feirysau ac afiechydol ynddo.

•    Mae’r arwyddion ynglyn â baw cwn wedi eu harchebu a byddwn yn eu codi unwaith y byddant ar gael.

Digwyddiadau ar gyfer y Dyfodol

•    Mae angen penderfynu ar ddyddiadau ar gyfer y Ffair Nadolig a’r Noson Chwaraeon.

•    Mae yna Ffair Grefftau yn y Neuadd Goffa a10fed Tachwedd, yn cychwyn am 7 y.h. yn fwy na thebyg.

•    Mae yna hefyd Gymanfa Fodern yn y Neuadd ar 29ain Hydref.

•    Mae’r Ffair Grefftau’n codi arian ar gyfer yr Urdd, ond mae’r Ffair Nadolig yn codi arian ar gyfer y Fforwm.

•    Nid oes ddyddiad wedi ei nodi ar gyfer Ffair Nadolig yr Ysgol, hyd yn hyn, ond bydd rhaid sicrhau nad oes yna wrthdaro amser.

•    Mae Mark Waygood i adrodd yn ôl gyda dyddiad erbyn y cyfarfod nesaf.

•    Angen gosod dyddiad ar gyfer y noson gemau.  Byddai’n bosibl i’w chynnal ar ddiwrnod agor y pafiliwn?  Efallai byddai’n well i drefnu un ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

•    Byddai’n well petai’r Noson Gemau yn fwy drefnus, gyda chystadleuthau a gwirfoddolwyr wedi eu hyfforddu er mwyn dysgu pobl sydd eisiau chwarae..

•    Gwirfoddolodd Yvonne Kelly i ddysgu pobl sut i chwarae’r gemau er mwyn gwneud y Noson yn fwy drefnus.

•    Mae’n debyg mai Dydd Sadwrn yw’r diwrnod gorau gan nad oes llawer yn ddigwydd pryd hynny.  Efallai Sadwrn 2ail neu 9fed Rhagfyr.

•    Mae angen rhwng 4 a 6 o bobl i wirfoddoli i ofalu am y gemau ar y dydd.  Ni allwn adael i’r plant i chwarae ar ben eu hunain heb gyfarwyddyd.

•    Cyflwynodd Mark Waygood y cerdyn gwybodaeth a chafwyd cyfle i weld enghraifft.  Byddai’n bosibl i’w ddanfon i bob cartref er mwyn ei gadw er gwybodaeth ar gyfarfodydd, mudiadau, rhifau a digwyddiadau.  Yn ddelfrydol, dylai’r cerdyn fod yn barod erbyn mis Ionawr.

Unrhyw Fater Arall

•    Cynigiwyd gyfle I unrhyw un sy’n dymuno mynychu sesiynau hyfforddi ar sut I fod yn gadeirydd, ysgrifennydd, a.y.y.b.

•    Gofynnodd Marie Hughes Jones a oes angen ail-ethol is-bwyllgor yr Emlyn.  Byddai angen i aelodau’r is-bwyllgor ei hun i ddod i gytundeb arno.

•    Holodd y Cadeirydd am wybodaeth ynglyn â datblygwyr Pendragon.

•    Dywedodd Siân Thomas mai gyda’r cwmni hwnnw y mae’n trafod Adran 106 ynglyn â rhodd i’r parciau.

•    Os ydynt yn adeiladu tai, mae’n bosibl y bydd angen tanciau carthion arnom oherwydd y problemau â’r dwr.

•    Y broblem yw eu bod yn codi’r tir a fu’n amsugno’r dwr ac yn rhoi concrid yn ei le.

•    Bydd Siân yn cwrdd â’r datblygwr ar Ddydd Iau, a gallai wneud cwyn ‘incognito’ ynglyn â’r dwr.

•    Mae yna dwll mawr yn yr heol  (sy’n cael ei drwsio’n rheolaidd) ar waelod Heol Waterloo Road, lle troir i’r chwith ar ôl Capel Hendre i gyfeiriad y Coopers.  Mae Siân yn cwrdd â’r Cynghorydd lleol yfory a byddant yn trafod y mater.

•    A fyddai pawb gystal â dod â’u syniadau ar gyfer digwyddiadau’r flwyddyn nesaf i’r cyfarfod nesaf.  Mae yna grant gwerth hyd at 100% o gost digwyddiadau.  Bydd Huw yn gofyn i rywun i ddod i’r cyfarfod nesaf i drafod y mater  fforwm/  Rhaid i’r digwyddiadau fod wedi eu hanelu at y gymuned gyfan, nid un carfan yn unig.

•    Awgrymwyd cynnal gwyl ganu drwy’r oesoedd.

•    Rhaid cyflwyno’r cynllun erbyn diwedd mis Mawrth er mwyn ceisio am y grant.  Mae sawl cymuned yn cynnal digwyddiadau â phobl enwog.  Mae’r grant yn ein galluogi i gynnal digwyddiad mawr a chodi arian tuag at y Fforwm.

•    Cafodd Llanddarog sioe a welodd mil o bobl yn talu £7.50 yr un, felly mae yna botensial i wneud arian ar gyfer y Fforwm.

•    Nid yw’n bosibl i gynnal digwyddiad mawr iawn ym Mhenygroes, ond byddai modd cynnal digwyddiadau llai mewn gwahanol bentref.  Byddai digwyddiadau mawr yn achosi problemau o ran parcio

•    Mae amser yn brin ac mae angen i ni gael syniadau cyn gynted â phosibl.

•    Trefnwn cyfarfod ar gyfer Nos Wener, 20fed Hydref yn y Clwb Rygbi er mwyn trafod digwyddiadau posibl.

Caewyd y cyfarfod.

Cyfarfod nesaf – Nos Fawrth 14eg Tachwedd am 7, Festri Capel Calfaria

Cofnodion 11 Corffennaf 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM

Blaenau, Caerbryn, Penygroes

Cyfarfod, 11 Gorffennaf 2006

Cofnodion

Presennol

Rhestr ar ffeil

Ymddiheuriadau

Alun Lewis

Marie Hughes-Jones

Julie Owen

Phil Owen

Codwyd pwynt o’r llawr yngly^n â chyrhaeddiad hwyr y cofnodion.  A fyddai modd eu hanfon ynghynt, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cyrraedd ar ddiwrnod y cyfarfod.  Cadarnhawyd fod y cofnodion wedi eu hanfon allan mewn da bryd, er bod yna bobl a oedd dal heb eu m.

Cofnodion o’r Cyfarfod diwethaf

Cytunwyd fod y cofnodion yn adlewyrchiad cywir o’r cyfarfod diwethaf.

Materion yn Codi

Diweddariad ar Bafiliwn yr Ieuenctid

•    Mae’r llythyr,.sy’n gwrthod cynnig gan grwp Mr Sutton i ymuno â hwy wedi ei ysgrifennu, ac rydym yn aros iddo gael ei lofnodi.

•    Dywedodd Eleri Davies nad oedd wedi cysylltu ag Alana & Cindy o Fenter Cwm Gwendraeth.  Gofynnwyd i Huw i siarad â hwy a dweud iddynt gysylltu ag Eleri os oes angen ei chymorth.

•    Mae agoriad y Pafiliwn  (prosiect ieuenctid) wedi ei ohirio tan fis Medi.

Y Sefyllfa yngly^n â’r Cais am Grant

•    Mynychwyd y cyfarfod gan  2 aelod o staff MCG, Eleri, Yvonne, Julian a Cyng. Thomas.  Roedd staff Menter yn barod iawn eu cymorth.

•    Mae yna bosibiliadau ar gyfer y clwb garddio; maent yn disgwyl dyfynbrisiau ar hyn o bryd.

•    Mae’r prosiect i osod hysbysfwrdd y tu allan i’r Neuadd yn symud ymlaen gan fod llythyron o gefnogaeth wedi eu derbyn

•    Mae angen 6 llythyr o gefnogaeth o fudiadau a grwpiau cymunedol eraill o fewn y pentref.

•    Mae gan y Clwb Garddio lythyron o gefnogaeth oddi wrth y Cyng. Siân Thomas.

•    Bydd grwpiau lleol yn derbyn llythyron yn fuan yn gofyn am lythyron o gefnogaeth.

Cylchlythyr

•    Rydym yn gwneud ymholiadau ynglyn â chylchlythyr cymunedol, o bosibl un lliw, maint A4 a fyddaIi’n cael ei ariannu’n rhannol gan fusnesau lleol.

•    Cyn symud ymlaen, byddwn yn cynhyrchu enghraifft drafft cyn argraffu copi llawn.  Mae’n bosibl y bydd modd dod o hyd i grant i helpu i’w ariannu.

•    Efallai byddai modd cael yr ieuenctid lleol i helpu i gynhyrchu’r cylchlythyr.

•    Ar hyn o bryd, gall gymryd rhwng 2 ddiwrnod ac wythnos i gynhyrchu ein cylchlythyr.

•    I gychwyn, rydym yn bwriadu cynhyrchu rhifyn misol, neu chwarterol, a fyddai o bosibl yn troi’n fisol, os oes yna ddigon o gefnogaeth, a.y.y.b.

•    Byddai’n ddefnyddiol i gynnwys grwpiau eraill (y Clwb Rygbi, a.y.y.b.) er mwyn ei wneud yn debycach at gylchgrawn cymunedol cyffredinol, yn hytrach na chylchlythyr y Fforwm.

Clwb Cerdded

•    Dywedodd Mark Durdin ei fod dal yn disgwyl i gwrs hyfforddi gael ei drefnu cyn y gellir cynnal unrhyw deithiau cerdded ‘swyddogol’.

•    Gellir ond cynnal teithiau cerdded anffurfiol, gan na fydd neb yn eu trrefnu nag unrhyw yswiriant.

•    Ni fyddwn yn gallu hysbysebu’r teithiau cerdded hyn gan fyddai hynny’n golygu nad yw’r daith yn anffurfiol.

Datblygiad Protex

•    Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynglyn â’r datblygiad, a fyddent gystal â ffonio aelod o’r Is-bwyllgor, neu fynd i un o’r cyfarfodydd a siarad â hwy yn uniongyrchol.  Yn nghyfarfod diwethaf y Fforwm, ni chafwyd llawer o atborth, ond dilynwyd yr adroddiad gan drafodaeth hir o’r llawr ynglyn â digwyddiadau nad oedd yr Is-bwyllgor yn ymwybodol ohonynt.

•    Mae’r Is-bwyllgor yn cwrdd yn nhy Marie ar y nos Iau cyn cyfarfod y Fforwm.

•    Bydd rhybuddion ynglyn â chyfarfodydd, a.y.y.b. yn cael eu gosod ar hysbysfyrddauer mwyn rhoi gwybod ymlaen llaw i bawb.

Noson Gemau

•    Aeth y noson yn dda iawn, er na pharhaodd yn hir iawn.  Roedd y wal ddringo yn hynod o lwyddiannus, a rhoddodd hyd yn oed Alun gynnig arni.

•    Byddai wedi bod yn well petai’r plant wedi cael eu galw allan i’r wal yn ôl eu hoedran, gan mai’r wal a denodd y ddiddordeb mwyaf.

•    Dywedodd  rhai mamau nad oedd yna ddigon ar gyfer plant bach iawn.

•    Roedd pethau’n gweithio ar eu gorau pan oedd yna rhywun i gymryd yr awennau ar gêm er mwyn dysgu ac annog y plant.

•    Awgrymwyd cael ambell i wers ar sut i chwarae’r gemau ymlaen llaw.

•    Roedd yna fwy o bobl hyn y llynedd, ond mwy o blant eleni, yn bennaf gan fod y wal ddringo wedi creu cynnwrf mawr ymlaen llaw.

•    Mae’n bosibl fod cynifer â 100 o bobl wedi mynychu.  Dywedodd sawl mam y hoffent weld nosweithiau o’r math yn cael eu trefnu’n fwy aml.

•    Roedd y bowlio’n boblogaidd iawn gyda phobl o bob oedran a mwynhaodd aelodau’r Clwb Bowlio Dan-dô ddysgu’r plant.

•    Awgrymwyd o’r llawr y dylid cynnal noson gemau arall cyn diwedd yr haf, ond roedd yna bryderon ynglyn â marchnata’r weithgaredd i blant yn ystod gwyliau’r haf.

•    Huw i wneud ymholiadau ynglyn â’r posibilrwydd o drefnu noson gemau arall (neu brynhawn Sadwrn).  Bydd angen penderfynu cyn cyhoeddi’r cylchlythyr nesaf, neu aros nes i’r plant ddychwelyd i’r ysgol.

Datblygiad y Emlyn (diweddariad byr)

•    Nid oes llawer yn digwydd ar hyn o bryd ar wahân i wastadu’r tir.

•    Ni achoswyd unrhyw broblemau gan i’r dwr lifo’n syth i mewn i’r pwll cronni.

•    Rydym yn gobeithio gwahodd John Taylor i gyfarfod nesaf yr Is-Bwyllgor.

•    Nodwyd yn y cofnodion fod y Cadeirydd fod i ysgrifennu i John Taylor, ond nid oes newyddion pellach ar hynny.

•    Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi fod y safle’n glir.

•    Anfonwyd samplau i ganolfan brofi yn Cross Hands, ond rhedir y ganolfan gan Asiantaeth yr Amgylchedd.  Mae yna ganolfan annibynnol ym Mhontypridd.

•    Mae’r offer trwm yn parhau i weithio o’r bore bach.  Roedd ganddynt gytundeb 7 wythnos o hyd, ond maent erbyn hyn yn ei 10fed  wythnos.  The heavy equipment is still operating from early in the morning.  They had a 7-week contract but are now into their 10th week.  Roedd  Victoria Keen fod i ddod i lawr os oedd y swn yn parhau.  Mae rhai trigolion yn cadw dyddiadur ar swn a llygru llwch.

•    Ni chodwyd muriau distewi gan fod hynny ond yn amodol petai yna gloddio am lo.

Clwb Garddio

•    Roedd stondin gan y Clwb Garddio yn y Diwrnod Te Mefus.  Roedd y stondin ar safle da y tu allan i’r fynedfa, a oedd yn dangos i’r bobl fod yna pethau’n digwydd yn y Neuadd.  Cynhelir y sioe flodau ar 22ain Gorffennaf yn y Clwb Rygbi.  Mae angen gwirfoddolwyr i bostio taflen hyrwyddo’r sioe drwy drysau’r pentref.

•    Bydd y basgedi crog yn cael ei beirniadu wythnos cyn y sioe.  Gosodwyd gwybodaeth ar y hysbysfyrddau.

•    Bydd yna wobrau ar gyfer y ceisiadau gorau.

Unrhyw Fater Arall

Diwrnod Te Mefus

•    Daeth nifer dda o bobl.  Cododd Pwyllgor Apêl yr Urdd bron i £600 tuag at yr Eisteddfod.

Hysbysfyrddau Pentref

•    Mae pentrefwyr Penygroes sy’n byw bron milltir i ffwrdd i lawr Heol Waterloo ac nid ydynt o fewn cyrraedd hawdd i hysbysfwrdd.

•    Oes yna unrhyw dir cymunedol i lawr yn rhan hynny’r pentref a faint fyddai gosod hysbysfwrdd yn ei gostio?

•    Ar waelod Heol Waterloo Road, heibio’r datblygiad tai newydd, ymddengys fod yna weddillion arwydd ‘Penygroes Croeso’.  A fyddai modd defnyddio’r darn hwn o dir ar gyfer hysbysfwrdd newydd?

•    Ydy’r darn hyn o dir yn eiddo i’r cyngor ac ydyw ar y ffin rhwng Benygroes a Chapel Hendre?

•    A fyddai’n well  i’w osod wrth ymyl yr arosfan bws ar Heol Spïen?  Mae mwy o bobl yn debygol o’i weld yno.

•    Mae yna arosfan bws arall ychydig ychydig nes lawr ger Bryn Glas.

•    Os oes yna arosfan concrid, gellir Os oes yna arosfan concrid, gellir osod hysbysfwrdd arno.

Hyfforddi

•    Darllenwyd lythyr oddi wrth Craig Parnell ynglyn â darparu hyfforddiant cymorth cyntaf i’r ieuenctid am £120 y sesiwn.

•    A oedd gan Alun hyn mewn golwg ar gyfer y Clwb Ieuenctid?

•    Mae hwn yn ddrud am un sesiwn; gallai Ambiwlans St Ioan wneud hyn am lai o gost?

•    Gallwn ni ddod o hyd i arian i dalu am hyn o ffynhonell arall?  Byddai angen mwy nag un sesiwn arnom.  Faint o bobl fyddai’n cael eu cynnwys yn y £120?  Ateb: Deg.

•    Byddai angen mwy nag un sesiwn hyfforddi i gwblhau’r cwrs.

•    Gallwn ni ricriwtio digon o bobl ifanc i fynd ar y cwrs.  Os nad oes yna ddigon, ni fydd yn werth ei gynnig.

•    Copi o’r llythyr hyfforddiant i Huw.

•    Efallai byddai modd i ni wahodd Ambiwlans Sant Ioan yn ôl, gan mai nhw oedd arfer cynnig hyfforddiant yma.

Cyrsiau ar gyfieithu ar y Pryd

•    Bydd y bwletinau’n cael eu gosod ar hysbysfyrddau ar gyfer unrhyw un sydd â diddorden mewn dysgu sut i wneud cyfieithu ar y pryd.

Caewyd y cyfarfod

Cyfarfod nesaf y Fforwm ar 12fed Medi 2006 yn Neuadd Caerbryn.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) 10fed Hydref 2006 yn Festri Capel Calfaria

Cofnodion 13 Mehefin 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM

Blaenau, Caerbryn, Penygroes

13 June 2006-07-05

Cofnodion

Presennol

Phil Owen, Julie Owen, Cyng. Siân Thomas, Yvonne Watkins, Eleri Davies, John Davies, Stephen Lewis, Llinos Hindley, Nicola Davies, Mair Griffiths, Vicky Thomas, Julian Tandy, Marie Seymour, Peter Roberts, Yvonne Kelly (Trysorydd), Mark Waygood (Ysgrifennydd), Marie Hughes-Jones (Ysgrifennydd), Alun Lewis (Cadeirydd), Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth

Ymddiheuriadau

•    Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn - ENILLYDD

•    Cystadleuaeth ar gyfer trigolion Blaenau, Caerbryn a Phenygroes.

•    Mae’r Cadeirydd a Mrs Linda Roberts (siop bapurau) wedi cyfri’r  pleidleisiau, ac mae yna enillydd. Er bod llawer o bobl wedi eu henwebu i dderbyn y wobr hon, roedd yna un enw a oedd ar y blaen i’r gweddill. Ni fydd yr enwau a nifer y pleidleisiau yn cael eu crybwyll gan nad etholiad yw hwn, ond mae yna un person wedi ei ddewis i dderbyn y wobr.

•    Mae’r enillydd yn esiampl i ni i gyd, ac mae wedi gwneud llawer o waith yn y pentref. Rydym wedi penderfynu cyflwyno cloc i Mrs Mair Griffiths fel arwydd o’n gwerthfawrogiad. Mae Mrs Griffiths yn gefnogol iawn i bopeth sydd yn digwydd yn y pentref, ac mae wir yn haeddu’r wobr hon. Diolchodd Mrs Griffiths i bawb a bleidleisiodd iddi, ac roedd yn gwerthfawrogi’r cloc yn fawr iawn. Nododd mai’r ffordd orau i’r gymuned i ddangos gwerthfawrogiad  fyddai cefnogi’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y pentref. Mae yna nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf, a gofynnodd i bobl i fod yn gefnogol.

•    Unwaith eto, diolchodd y Cadeirydd  i Mrs Griffiths,  a dywedodd ei bod yn esiampl i ni i gyd.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

•    Cytunwyd eu bod yn gywir

Prosiect Pob Ifanc – Diweddariad ar y Pafiliwn

•    Rydym wedi derbyn dau lythyr (i’w darllen i bawb yn nes ymlaen).

•    Cynhaliwyd cyfarfod rhwng y Cyng. Siân Thomas, Cindy ac Alana o Fenter Cwm Gwendraeth (MCG), aelodau o’r Clybiau Rygbi a’r parc. Daethpwyd i gytundeb ynghylch pa ystafelloedd y gallai pwy eu defnyddio, felly mae pethau yn symud ymlaen.

•    Gan fod agoriad y pafiliwn wedi ei ohirio tan fis Medi, bydd y Mobi yn dychwelyd i Benygroes yn wythnosol hyd hynny.

•    Bydd angen cyllid er mwyn prynu offer i’r Clwb Ieuenctid. Mae Sports Aid wedi addo cyfrannu £300, ond bydd angen rhagor o arian. Mae gennym un ystafell, ond mae angen celfi ar gyfer yr ystafell honno. Gan fod y Fforwm wedi codi peth arian, awgrymodd y Cadeirydd y dylid cyfrannu swm o £500 tuag at y prosiect hwn Mae £2000 o bunnoedd ar gael gennym. Cynigiwyd ac eiliwyd y swm hwn.

•    Cytunwyd y byddai Eleri Davies yn gweithio ac yn cydlynu gydag  Alana a Cindy ar ran y Fforwm.

•    Codwyd cwestiwn yn dilyn y cyfarfod yn y Clwb Rygbi, ynghylch sefydlu grwp arall  a fyddai’n ymdrin â materion yr ieuenctid. Yn y cyfarfod hwnnw, roedd y mwyafrif yn teimlo nad oedd angen sefydlu grwp arall, ac y byddai’n well sefydlu is-bwyllgor yn y Fforwm er mwyn delio â hyn.

•    Yn y cyfarfod, dywedodd Mr Sutton fod ganddo £500,000 mewn amlen, ond mae’n debyg mae ffurflen gais am grant oedd ganddo, ac nid yr arian. Roedd ychydig o’r arian hwn i ddod o grant chwaraeon y loteri, ond gan fod y gronfa wedi gosod cyfyngiad o £750 neu lai ar y grantiau, byddai’n annhebygol y gallai’r swm fynd â phrosiect yr ieuenctid ymhell. Roedd  Mr Sutton yn dadlau yn erbyn hyn. Roedd grwp  Mr Sutton am dynnu’r pafiliwn i lawr, ond mae dros  £100,000 eisoes wedi ei wario ar y parc, ac £83,000 wedi ei wario ar y pafiliwn. Cytunodd y mwyafrif o bobl nad oedd angen.

•    Dywedodd y Cynghorydd  Siân Thomas ei bod wedi derbyn llythyr gan Mr Sutton a oedd yn ymosod arni hi yn bersonol. Ni allai’r llythyr hwnnw gael ei ddangos gan ei fod yn awr yn nwylo cyfreithwyr y Cyngor Sir.  Roedd y Cadeirydd y Fforwm hefyd wedi derbyn llythyr a eiriwyd yn gryf, ond nid oedd wedi penderfynu beth i’w wneud ag ef eto.  Darllenwyd llythyr a oedd yn ymateb i’r gwahoddiad i Grwp Cymunedol Plant ac Ieuenctid Penygroes  i ymuno â’r Fforwm, ar lafar gan  Mark Waygood.

•    Darllenwyd llythyr arall gan y Cadeirydd, a anfonwyd at  Mr Sutton gan Brif Weithredwr Cyngor  Sir Caerfyrddin (cc y Cyng. Thomas, Alun Lewis, Wendy Walters a.y.y.b.), yn cymeradwyo ei syniad, ond a oedd ar yr un pryd yn tanlinellu’r ffaith na fyddai modd fforddio pafiliwn newydd.

•    Nododd y Cadeirydd nad oedd y Fforwm yn ymhél â gwleidyddiaeth bleidiol, ac y byddai’n gweithio â phobl o bob plaid wleidyddol er mwyn gwella ansawdd bywyd trigolion o Blaenau, Caerbyrn a Phenygroes . Roedd am gofnodi fod ganddo ef ei hun rai sylwadau ynghylch Prosiect Cymunedol Plant ac Ieuenctid Penygroes, megis ble fyddent yn cwrdd, ac os oeddent yn cynnal AGM a.y.y.b.

•    Cynigiwyd y dylai’r Fforwm  anfon llythyr at grwp Mr Sutton er mwyn gwrthod yn gwrtais, y cynnig i anfon unrhyw gynrychiolwyr o’r Fforwm, ond unwaith eto, yn rhoi cynnig i’w grwp yntau i ymuno â’r Fforwm mewn ymdrech ar y cyd. Mae’r Fforwm wedi ei sefydlu ers cryn amser ac yn cael ei chydnabod gan bob mudiad ac asiantaeth arall. Cytunwyd ar hyn.

Noson Gemau yn neuadd Penygroes

•    Y dyddiad ar gyfer y Noson Gemau yw nos Iau, Gorffennaf 6ed rhwng 6pm - 8pm. Mae’r Clwb Bowls Mat Byr yn peidio â chynnal eu sesiwn hwy er mwyn helpu’r digwyddiad. Mae yna rhai pobl ifanc yn y tîm Bowls erbyn hyn. Roedd 3 pherson 15 oed yn y noson wobrwyo a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf.

•    Gall unrhyw un sydd am gynorthwyo ar y noson  (ac mae angen help arnom!) gysylltu ag Yvonne Kelly.

•    Bydd te a choffi ar gael yn rhad ac am ddim unwaith eto, ond bydd ffi mynediad. Roedd y ffi  yn £1 y llynedd.

•    Bydd wal ddringo yno y tro hwn

•    Bydd y noson gemau yn gyfle i’r bobl hyn a’r bobl iau i gymdeithasu.

Datblygiadau Adeiladu –  Diweddariad

•    Darllenwyd llythyr gan Protex, a oedd yn ymateb i nifer o bwyntiau a godwyd

•    Mae trigolion 84-110 Heol Norton wedi cael gwybod bod Protex yn gweithio ar eu ffiniau hwy.

•    Mae John Davies wedi cael deunydd ychwanegol er mwyn cefnogi hawliadau ffiniau

•    Mae 84 Heol Norton wedi cael gwybod am drefniadau parcio newydd ar gyfer yr eiddo hwn.

•    Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi adrodd yn ôl i Phil Owen gan ddweud fod y safle’n glir o unrhyw lygredd olew.

•    Mae gweddill y Japanese knotweed  yn cael ei glirio o’r safle.

•    Bydd ailosod ffos y bibell ar Heol Plas Gwyn, Stryd y Bont, a Heol Waterloo yn digwydd ar Fehefin 14eg , a bydd y gwaith yn parhau am (2-3 diwrnod ).

•    Mae’r Cyngor wedi dweud y bydd yn rhaid iddynt i atgyweirio’r heol, gan ei bod mewn cyflwr gwael iawn.

•    Mae’r Cadeirydd  yn ysgrifennu at John Taylor (yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd Cymuned) ynghylch y problemau  a fydd yn codi yn sgil y gwaith ar arwyneb y safle. Pan fydd yn bwrw glaw, bydd y dwr yn rhedeg ar yr arwyneb ac yn mynd i mewn i erddi yn Heol Norton, gan nad oes unman arall iddo i fynd

•    Gall Siân Thomas ysgrifennu llythyr i adran gynllunio’r Cyngor Sir er mwyn dod i wybod beth yn union sy’n digwydd ? Mae’r ffos ddwr glaw  o’r gwaith concrid wedi llenwi a blocio wrth y gwaelod ger Caersalem. Mae angen gwneud dau gwyn, felly, un i’r adran Hydroleg, a’r llall i’r adran Priffyrdd. Os bydd cyfnodau helaeth o law, bydd y baw yn cael ei olchi i’r sgwâr.

•    Dywedodd Phil Owen nad oedd wedi clywed gan Asiantaeth yr Amgylchedd fody safle’n glir.

•    Dywedodd Peter Roberts ei fod wedi gweld llygredd olew o liw brown tywyll pan aeth heibio’r safle rai dyddiau yn ôl.

•    Roedd Phil Owen wedi ei synnu fod Protex wedi cael yr hawl i gymryd y samplau eu hunain er mwyn eu profi. Hyd yn hyn, y cyfan sydd wedi digwydd y w fod yr olew wedi ei guddio.

•    Mae Phil Owen wedi anfon tystiolaeth ffotograffig at Asiantaeth yr Amgylchedd, ac wedi anfon copi at Protex.  Nid yw Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymateb, ond mae wedi cwrdd â  Protex er mwyn dangos y llygredd.Nid yw wedi cael ymateb hyd yn hyn.

•    Cyflwynwyd cwynion i  Victoria King (adran swn) ynghylch y swn pan fo peiriannau symud tir trwm yn dechrau cael eu defnyddio am 7.30am. Os bydd hyn yn parhau, bydd yn dod i weld drosti hi ei hunan. Mae’r swn yn gwneud i ffenestri ddirgrynu.

•    Mae Siân Thomas wedi derbyn dau gwyn, ac wedi eu hanfon ymlaen, ond yn dal i ddisgwyl am ymateb.

•    Ydi hi’n wir fod ganddynt hawl i weithio rhwng 7a.m a 7p.m am 6 wythnos, a rhwng 8 ac 1 ar ddydd Sadyrnau?

•    Onid oedd y cynllun gwreiddiol yn dangos atalyddion swn?

•    Mae’r Cadeirydd yn teimlo y dylai fod Peiriannydd Sifil  cymwys yn gyfrifol am y safle.

•    Mae Siân Thomas wedi gwneud cwyn ffurfiol ynghylch Heol Gorsddu, ond mae  gan yr adran Priffyrdd ôl-ddyledion o £43m in arrears.

•    Awgrymodd y Cadeirydd y dylem fynd at y Cyngor Sir a phrotestio am yr amodau byw y mae’n rhaid i’r trigolion eu dioddef. Beth am gael Eifion Bowen o’r Adran Gynllunio i ateb ein cwynion.

•    Rydym yn parhau i ddisgwyl i’r tanciau i gael eu gosod. Mae’n ymddangos eu bod yn gweithio y tu ôl ymlaen, ac ni allwn ddeall pam eu bod yn gwneud hyn. Y ddealltwriaeth oedd y byddent yn gwneud y gwaith draenio yn gyntaf!

•    Dylem ofyn i Eifion Bowen, Mark James, a’r Adran Priffyrdd i ddod i un o’r cyfarfodydd hyn er mwyn trafod y sefyllfa a dangos iddynt nad ydym, fel pentref, yn hapus â’i swyddogion.

Clwb Garddio

Adroddiad gan Julian Tandy

•    Mae crochenni blodau a phlanhigion eraill yn cael eu paratoi gan aelodau o’r Clwb Garddio  ar gyfer diwrnod y te mefus.

•    Mae planhigion, potiau a chompost wedi eu rhoi yn nwy ysgol y wardiau er mwyn i’r plant gael rhywbeth i’w blannu ac i dyfu arno. Gellir gosod y rhain mewn categori arbennig yn Sioe Flodau Penygroes.

•    Mae cynllun plannu ar gyfer yr ardd gymunedol wedi ei gwblhau. Mae angen dyfynbrisiau arnom am y planhigion, y gwaith ‘adeiladu’, a’r gwaith tirlunio ar y safle.

•    Cadarnhawyd mai Gorffennaf 22ain fydd y dyddiad y Sioe Flodau, yn y Clwb Rygbi, a gellir dod ag eitemau i’w harddangos rhwng 10am -12:30 pm.

Swyddog Datblygu

•    Mae Siân Thomas yn cydweithio ag Yvonne er mwyn llunio cyllideb ac edrych ar gynllunio ariannol, ond mae’r swyddog oedd yn ein cynorthwyo yn MCG wedi gadael ei waith.

•    Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwneud hyn cyn gynted â phosib gan y gallai swyddog datblygu wneud llawer mwy ar gyfer y gymuned.

Hysbysfwrdd

•    Mae Yvonne Watkins wedi bod yn siarad â MCG er mwyn gosod hysbysfwrdd y tu allan i’r neuadd, fel sydd yng Ngorslas.

•    Rydym yn croesawu syniadau am yr hyn yr hoffech eu gweld, gan gynnwys hanes y Pentref a newyddion lleol a.y.y.b.

Unrhyw Fater Arall

•    Ni fydd y diwrnod hwyl yn mynd yn ei flaen, ond yn hytrach, bydd diwrnod te mefus yn cael ei gynnal ar Orffennaf 8fed, gyda stondinau y tu fewn neu y tu allan i’r neuadd.

•    Cafwyd barbiciw yr wythnos ddiwethaf, ac mae arian wedi dechrau dod i mewn yn araf bach.

•    Mae croeso i unrhyw un sydd am ddod i’r cyfarfod codi arian yn nhafarn y Farmers ddydd Iau.

•    Cwestiwn i Siân o’r llawr ynghylch y tir yn Saron ger Llandybie. Mae’r ffordd newydd wedi ei gosod, ond nid yw’r cloddiau wedi eu hail osod. A ydym ni’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen yno?

•    Mae Siân wedi derbyn e-bost, ac maent ar hyn o bryd yn nwylo cyfreithwyr y cyngor a pherchnogion y tir.

•    Cwestiwn o’r llawr ynghylch y clwb cerdded. Mae’n rhaid i Mark Durdin i gwblhau cwrs cyn y gallwn fynd ar daith gerdded sydd wedi ei hyswirio gan y cyngor, ac nid yw wedi derbyn manylion am y cwrs eto.

•    Cadarnhaodd y Trysorydd fod gan y Fforwm ychydig dros £2,000.  Bydd £500 yn cael ei roi i’r Prosiect Ieuenctid.

•    Gofynnodd y Cyng. Siân Thomas i’r Fforwm i siarad â phob cymdeithas yn y Ward, a gofyn iddynt i lunio llythyr o gefnogaeth os yw Penygroes yn mynd i gyflwyno cais am swyddog datblygu.

•    Dywedodd y Cadeirydd y bydd yn rhaid cydlynu hyn gan fod yna nifer o grantiau y bydd yn rhaid gwneud cais amdanynt.

•    Dangosodd Marie Hughes-Jones i bawb a oedd yn bresennol, beth y mae cymunedau eraill yn ei wneud gyda’u cylchlythyron lleol. Bydd yna gostau sefydlu, ond gall busnesau lleol gefnogi. Oes cyllideb ar gyfer hyn? Mae angen casglu gwybodaeth a chysylltu â busnesau lleol er mwyn asesu diddordeb a dichonolrwydd.

•    Bydd y costau yn uwch os bydd yn lliwgar, ond mae angen rhywbeth sy’n fwy ac yn haws i’w ddarllen. Os gall cwmnïau lleol fod yn rhan o hyn, gall fod yn brosiect cynaliadwy.

•    Os byddwn yn gwneud cais am grant, bydd yn rhaid i ni i fod yn ofalus gan fod llawer iawn o gyfrifoldeb ynghlwm wrth y grantiau.

•    Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnal cyfarfod bach gyda phedwar neu bump o bobl er mwyn trafod y sefyllfa o ran gwneud cais am grant. Cytunodd  Julian Tandy i gadeirio’r cyfarfod, a chytunodd Eleri Davies, Marie Hughes-Jones ac Yvonne Kelly i fod ar is-bwyllgor.

Daeth y cyfarfod i ben, a bydd y cyfarfod nesaf ar Orffennaf 11eg  yn Neuadd Caerbryn.

Cofnodion 09 Mai 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM

Neuadd Caerbryn Hall, 9 Mai 2006

Presennol

Alun Lewis (Cadeirydd), Julian Tandy, Mark Waygood, Siân Thomas, John Davies, Nicola Davies, Llinos Hindley, Lynnette Reynolds, Phil Owen, Huw Evans

Ymddiheuriadau

Mark Durdin, M. Griffiths, Sal Armstrong, Yvonne Kelly, Marie Hughes-Jones, Julie Owen

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf

•    Noson Gemau – Wal ddringo i’w fwcio  gan y Cyngor ar gyfer diwedd mis Mai.

•    Ffurflenni ar gyfer grant busnes wedi eu llenwi.

•    Cylchlythyr wedi ei gwblhau, 500 copi wedi eu paratoi, bydd gwirfoddolwyr yn eu danfon.

•    Baw-cwn – Rhagor o gwynion ym Maesglas.  Mae yna alw am fin arbennig a mwy o arwyddion.  Dylwn ddilyn y ci yn ôl i’w berchennog a rhoi tocyn iddynt.  Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ers y cyfarfod diwethaf.  Bydd yr erledigaeth gyntaf yn cael ei chyhoeddi yn y papur lleol.

•    Clwb Garddio – mae cyfrif banc wedi ei agor.

Prosiect Pobl Ifanc – Diweddariad ar y Pafiliwn

•    Dylai’r gwaith fod ar ben ymhen 2-3 wythnos.  Hyd yn hyn, gwariwyd £83,000, sef cynnydd mawr ar yr £8,000 a addawyd ddwy flynedd yn ôl.

•    Mae’r Pafiliwn wedi cael dau wynebgodiad yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf; gobeithio y bydd y gwaith yn parhau’n hirach y tro hwn er mwyn galluogi mwy o ddefnydd ohono.

•    Mae datblygwyr Clos y Cwm a Gilfach y Gôg wedi addo arian i brynu offer newydd ar gyfer y parc a bydd datblygwyr safle’r Emlyn  yn darparu gôl pêl-droed.  Bydd y symiau ychwanegol hyn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad yn golygu fod £100,000 yn mynd tuag at offer a deunydd chwarae a phobl ifanc yn y pentref.

•    Bydd yna le i rieni eistedd a bydd y lle chwarae wedi ei rannu rhwng  y plant iau a’r rhai hyn.

•    Byddwn yn ymgynghori â’r plant ynglyn â pha  offer yr hoffent ei gael yn y parc.

•    Mae gan y Clwb Ieuenctid £300 yn fwy i’w wario ar adnoddau.

•    Roedd yna gyfarfod cyhoeddus yn Llandeilo ar 27ain Ebrill ynglyn â datblygiad ar safle’r Eglwys Apostolaidd.  Dylwn wybod beth yw’r canlyniad ymhen mis

•    NI allwn oddef  heol a rhagor o draffig o flaen y parc.  Petai bloc toiledau’n cael eu codi yn y parc, mae yna berygl y byddai yna bryderon ynglyn â diogelwch, e.e. nodwyddau defnyddwyr cyffuriau’n cael eu taflu.

•    Mae’r Fforwm wedi addo arian ar gyfer yr ieuenctid.

Diweddariad ar y Clwb Garddio

•    Roedd Diwrnod Allan y Gwanwyn ar 15 Ebrill i gerddi Cwm Deri a Colby Woodland yn llwyddiannus dros ben.

•    Bydd Lynnette Reynolds yn cydlynnu’r stondin yn ystod Diwrnod Hwyl Parc Penygroes.   Disgwylwn werthu planhigion compost a gadael pobl i wybod ynglyn â’r gystadleuaeth basgedi crog ar 22ain Gorffennaf.

•    Cysylltwyd â Mr Morgan, pennaeth Ysgol Penygroes iofyn a fyddai modd i’r plant dyfu planhigion ar gyfer y sioe flodau.  Os bydd popeth yn iawn, bydd Ysgol Blaenau’n derbyn yr un cynnig.

•    Cynhaliwyd cyfarfod â Grwp Mynediad I’r Anabl Sir Gaerfyrddinynglyn â chynlluniau ar gyfer yr Ardd Gymunedol.  Yn gryno, bydd ond rhaid symud yr ardd ychydig troedfeddau i lawr.  Mae Eleri Davies yn parhau i weithio ar y dewisiadau cyllido ac mae’r Clwb wrthi o hyd yn datblygu’r cynllun (bydd gwell amcan o’r cost erbyn canol Mai).

•    Bydd y plant yn cymryd than lle bynnag bo modd, yn cynnwys y Clwb Rygbi a’r Sioe Flodau.

Datblygiadau Adeiladu – Diweddariad Cryno

•    +Nid yw’r tas o sbwriel ar Heol Norton wedi ei glirio o hyd.

•    Mae rhyw fath o hylif seimlyd ar wyneb y ddaear wrth gefn cartrefi ar Heol Norton.  A fyddai modd i Phil Owen drafod hyn â’r Cyng. Siân Thomas i weld a dylid cysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd.

•    Mae pryderon yn parhau ynglyn â chyflwr Heol Waterloo a Heol Caerbryn yn dilyn y gwaith diweddar.  Mae’r pwyllgor yn teimlo fod angen sicrhad y bydd y datblygwyr yn trwsio ar eu hôl gan nad ydynt wedi trwsio Heol Gors-Ddu wedi iddynt osod llwybr cerdded cyhoeddus ar hyd safle’r Emlyn.  Mae’r heol mewn cyflwr gwael iawn erbyn hyn ac yn llawn tyllau.

•    Bydd angen diweddariad ar y tirlunio a’r tanciau dros-dro.

•    Mae’r cynigion datblygu’n cynnwys y canlynol: Ysgol Gymunedol (a ellir ei droi’n ganolfan gymunedol y tu allan i oriau’r ysgol, tafarn/clwb, 250 o gartrefi yng ngymal meddygfa newydd, deintyddfa a chartref i’r henoed.

•    Os cynigir codi ysgol newydd, mae angen ei agor cyn adeiladu’r tai newydd gan nad oes yna ddigon o le yn Ysgol Penygroes.

•    15 mlynedd yn ôl, awgrymodd Cynllun Datblygu Unedol y Cyngor Sir (dogfen gymhleth iawn) creu ardal drefol o Cross Hands i Rydaman, ond nid yw hyn yn cyfateb ag anghenion pobl leol ac mae’n debygol o roi pwysau difrifol ar yr is-adeiladedd lleol..  Mae yna dagfeydd mawr eisoes ar sgwâr Gorslas a bydd hyn yn gwaethygu os oes gan pob cartref 2/3 car (mae ond angen darparu ar gyfer 2 gar i bob ty.

•    Ar hyn o bryd, mae yna le ar gyfer 700 o gartrefi ym Mhenygroes

•    Yn ffodus, mae’r Cyngor Cymuned wedi cymryd safbwynt cadarn iawn yn erbyn ceisiadau cynllunio lleol, gan fod gan y materion cynllunio hyn effaith ar fywydau.

•    Bydd datblygiad y safle Apostolaidd (os caniateir iddo fynd yn ei flaen) yn achosi problemau ychwanegol o gwmpas yr ysgol.

Ymgyrch i Farchnata’r Fforwm Lleol

•    Mae’r Cyng. Siân Thomas wedi llunio dogfen, sy’n esbonio wrth bobl leol beth yw’r Fforwm a beth mae’n ei wneud.  Bydd y rhain yn cael ei dosbarthu yn swyddfeydd post Penygroes a Blaenau ac yn cael eu gosod ar hysbysfyrddau lleol.

Cylchlythyr y Fforwm Ward – Y Ffordd Ymlaen

•    Cafodd y prosiect ei awgrymu gan Marie Hughes-Jones a bydd rhaid gohirio ei drafod hyd at y cyfarfod nesaf, gan nad oedd yn medru mynychu’r cyfarfod hwn.

Unrhyw Fater Arall

•    Mae llawer o lwybrau cerdded wedi eu blocio.  Dylwn ni gau’r rhai a defnyddir lleiaf a chanolbwyntio ar y llwybrau gwell sy’n weddill, yn enwedig os ydynt yn arwain at safleoedd picnic? Gall y gost o glirio, neu gau llwybrau cerdded fod yn eithriadol o uchel.

•    Mae Adar Ysglyfaethus wedi dechrau dychwelyd i Benygroes.  Mae angen Gorchymyn Cadwriaeth ar yr unig coed aeddfed sydd ar ôl ar safle’r Annexe.  Byddai angen i rywun gyflawni arolwg, a gallai hyn arwain at gwtogi ar nifer y tai. Os na wneir hyn, byddwn yn colli’r ychydig sydd ar ôl.

•    Mae loriau oergell trymion yn defnyddio heolydd Waterloo a Gors-ddu>  Oherwydd yr ynys traffig, mae’n anodd iddynt droi ar gyffordd heolydd Waterloo a Gorsddu gan godi cwestiwn ynglyn â diogelwch.  Allwn ni ofyn i rywun ychmwilio i’r posibilrwydd o gael meserau arafu traffig ar hyd Heol Waterloo?

•    Nodwyd fod llawer o geir wedi eu parcio’n wael ar hyd Heol Waterloo.  Gofynnodd. Siân Thomas i gerddwyr i gadw cofnod o rifau cofrestri’r ceir sydd ar fai.

•    Noson Gemau – Dewch â’ch syniadau ar gyfer gemau, cerdiau, sgitls, a.y.y.b. Daw Merched y Wawr i wneud y te a bydd Menter a gwirfoddolwyr eraill yn dod â gemau I’w chwarae y tu allan, os bydd y tywydd yn caniatáu hynny).

•    Ci swnllyd yn cyfarth – Mae ci sy’n cyfarth yn cyson i’w glywed y tu ôl i rhif 12, Heol Norton.

•    Arwr(es) lleol (Gwirfoddolwr(aig) y Flwyddyn  Ward Penygroes)  – NI ellir pleidleisio am swyddogion cyflogedig nac etholedigm e.e. Siân, Huw, pryd ar glud, a.y.y.b.  Dyddiad cau yw 25ain Mai.   Bydd angen cysylltu â’r papur lleol (neu anfon datganiad i’r wasg) i wahodd rhywun i ddod draw i wneud adroddiad ar y stori.

•    Mae yna gyfarfod yn y Clwb Rygbi am 6.30 nos Iau, 11eg Mai ynglyn â sefydlu ail-fforwm.  Gallai hyn achosi trafferthion a dad-wneud yr holl waith sydd wedi ei gyflawni.  Dylai cynifer o bobl â phosibl fynychu.

Caewyd y cyfarfod

Cyfarfod Nesaf – Festri Capel Calfaria, 13eg Mehefin 2006

Cofnodion 12 Ebrill 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM

Festri Capel Calfaria

Dydd Mawrth, Ebrill 12 2006

Yn bresennol

Alun Lewis (Cadeirydd), Mark Waygood (Cyd-ysgrifennydd), Marie Hughes-Jones (Cyd-ysgrifennydd), Yvonne Kelly (Trysorydd), Kevin Kelly, Julian Tandy, LR Reynolds, B Atkinson, Yvonne Watkins, Mair Griffiths, Nicola Davies, Llinos Hindley, Peter Roberts, Emma Armstrong, Nicola Davies, Cyng. Siân Thomas, J Evans, L Evans, Marion Jones, Julie Owen, Vicky Thomas, Richard Sutton, Lisa Mahoney, Alana Davies, Huw Evans (Menter Cwm Gwendraeth)

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Phil Owen, Steven Lewis, Edania Davies, Mark Durdin

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

•    Noson Gemau - Mae’r union ddyddiadau eto i’w cadarnhau.  Bydd pob math o gemau ar gael, ac rydym yn gobeithio cael noson lwyddiannus arall fel y llynedd.

•    Swyddog Datblygu - Rydym wedi siarad â Chyngor Cymuned Llandybie am yr 20% sydd ei angen, ac meant wedi cytuno mewn egwyddor. Mae angen rhagor o fanylion ar Fenter Cwm Gwendraeth a Chyngor Cymuned Llandybie. Ni chawsom lawer o lwc y tro diwethaf, ac eithrio’r Clwb Bowls a Neuadd Caerbyrn. Y tro hwn, bydd angen i ni  i osod tasgau newydd ar gyfer y gweithiwr.

•    Taith Gerdded - Nid oedd Mark Durdin yn bresennol, ond bydd yn mynychu cwrs cerdded wedi ei drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Cynigiwyd cynnal cyfarfod yn Nhafarn y Farmers er mwyn penderfynu pa fathau o deithiau yr ydym eu heisiau.

•    Codi arian - Gwobr pentref y flwyddyn - Alun a Marie i gwrdd a thrafod.

Cystadleuaeth Gwirfoddolwr y Flwyddyn. Dim ond trigolion Blaenau, Caebryn a Phenygroes sydd ynn gymwys i dderbyn y wobr hon. Bydd posteri a ffurflenni enwebu yn cael eu dosbarthu. Mae’n bwysig sicrhau na chaiff unrhyw berson bleidleision iddo ef ei hun. Bydd   Protex yn helpu i dalu am y wobr, ac mae’r fformat eto i’w drefnu.

•    Cylchlythyr - Bydd Huw yn ymchwilio i’r sefyllfa hon  a bydd  is-bwyllgor yn cael ei sefydlu gan na fydd hi’n hawdd cael hyd i nawdd i helpu i dalu am y cylchlythyr.

•    Baw Cwn– Mae’r sefyllfa wedi gwella ychydig ar y priffyrdd. Mae’n ymddangos fod yr erthygl wedi gweithio. Efallai y dylid cynnwys y neges yn y cylchlythyr bob chwe mis (i’w adolygu).

AGENDA

Y diweddaraf am safle’r Emlyn

•    Unwaith bydd y gwaith o osod y pibellau wedi ei gwblhau, bydd yr heolydd yn cael eu hadfer yn gyfan gwbl. Rhaid gwneud hyn yn ôl y gyfraith.

•    Mae Protex bellach yn berchen ar Rif 1, Heol Waterloo. Yn ôl John Taylor, dyma lle bydd ei staff yn aros. Ydyn nhw am ddefnyddio’r tir ar gyfer heol? Mae’n bosib y bydd yna rai problemau y tu cefn i’r neuadd; mae’r safle yn llawn siafftiau.

•    Cylchlythyr

Mae angen eitemau ar gyfer y cylchlythyr cyn gynted ag sy’n bosib.

Codi arian

•    Hyd yn hyn, mae £1,200 gennym yn y banc.

•    Byddwn yn cynnal BBQ ar 13/5 yn Nhafarn y Farmers

•    Bydd y cyfarfod  codi arian wythnosol yn cael ei gynnal yn nhafarn y Farmers yfory (Dydd Mercher 13/4).

•    Rydym ar y ffordd i godi £3,500 ar gyfer prosiectau ieuenctid eraill.

•    Mae Cymuned Ieuenctid Penygroes wedi gohirio’r ‘Diwrnod Hwyl yn y Parc’. Mae ein Diwrnod Hwyl ni yn mynd yn ei flaen.

•    Beth am arwerthiant cist car? Gallwn ofyn i werthwyr am dalu am gael stondin, ond gallant gad unrhyw elw?

•    Rhaid talu yswiriant , felly gallwn ofyn am gyfraniad  gan yn stondinau.

•    Mae llawer o bethau wedi eu trefnu er mwyn helpu i godi arian ar gyfer y Fforwm.

Clwb Garddio

•    Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf fis diwethaf.

•    Bydd y sioe flodau yn cael ei chynnal ar 22/7. (Llynedd, roedd y sioe ar 9/7)

•    Mae yna wobr am y fasged flodau orau (gerddi blaen yn unig). Bydd y beirniaid yn cerdded o gwmpas yr ardal wythnos cyn y sioe.

•    Mae cyfrif banc wedi ei agor ar gyfer y clwb.

•    Taith Wanwyn y Clwb Garddio i Winllan Cymderri ac Ymddiriedolaeth Genedllaethol Colbys. Dim ond aelodau’r Clwb Garddio all ddod ar y daith.

•    Mae ymaelodi â’r clwb yn costio £2 yn unig, ac mae’n cynnwys gostyngiad o 10% yng Nghanolfan Arddio  Caerbryn a.y.yb. Mae’r dosbarthiadau garddio yn rhad ac am ddim i bawb.

•    Gardd Gymunedol - Mae cyfarfod wedi ei drefnu gyda Mervin Morgan.  Oherwydd bod yna alw am well mynediad ar gyfer pobl ag anableddau, nid yw llwybr y Llyfrgell yn bodloni’r rheolau.  Bydd effaith ar yr ardd gymunedol gan ei bod yn debygol y bydd y llwybr yn dilyn patrwm igam ogam, a bydd hyn yn mynd â llawer o’r lle a fwriadwyd ar gyfer yr ardd gymunedol. Efallai  y bydd yn rhaid ail edrych ar y cynlluniau, ond  gall hyn fod o fantais i’r Clwb Garddio.

•    Byddwn yn cyflwyno cais am grant o fwyafswm o £5,000.  Mae Eleri Davies yn cynorthwyo’r Clwb Garddio i gael y grant, ac rydym yn eithaf hyderus y byddwn yn llwyddiannus, ond nid yw’r cynlluniau wedi eu cwblhau eto.

Y parc

•    Mae’r Cynghorydd Siân Thomas wedi siarad â Phennaeth yr Adran Barciau, ac mae’n edrych yn debyg fod gennym ddigon o arian i brynu offer chwarae ar gyfer y parc.

•    Rydym wedi rhoi caniatâd i blannu ar safle’r hen faes bowls, cyn belle â’i fod yn cael ei gynnal a’i gadw.

•    Gallem gael coed neu feinciau, a gellid rhoi cyllid drwy’r Fforwm.

•    Ystyriwyd y plot gyferbyn â llain y pentref fel safle ar gyfer yr Ardd  Gymunedol 12 mis yn ôl, ond dywedwyd ei fod yn rhy fawr yr adeg honno. Roedd y llyfrgell yn ddewis gwell gan ei fod yn haws i’w weld, a byddai’n chwarae rhan fawr yn y gwelliannau i ymddangosiad y pentref yn gyffredinol. Efallai y gallai’r plant ysgol ddechrau ar brosiect e.e cysylltu â’r cynllun Eco ysgolion.

•    Dangoswyd cyflwyniad fideo i bawb a oedd yn bresennol gan Brosiect Ieuenctid M.C.G.

•    Diolchwyd i’r Cyng. Siân Thomas am lobio’r Cyngor Sir i dalu am adnewyddu’r Pafiliwn.

•    Dylai’r clwb ieuenctid fod yn barod mewn deufis.

•    Mae rhai unigolion wedi mynegi pryderon am gyflwr y Pafiliwn.

•    Mae Tîm Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth wedi ymgynghori llawer â Ieuenctid Penygroes. Maent wedi bod yn annog y bobl ifanc i gymryd rhan er mwyn ennyn ymdeimlad o berchnogaeth.  Yn sgil hyn, byddant yn llai tebygol o ddifrodi’r cyfleusterau sy’n cael eu darparu ar eu cyfer

•    Awgrymwyd y dylid cynnal gweithdai unwaith yr wythnos yn y neuadd i drafod Camddefnyddio Cyffuriau, Iechyd Rhywiol., Bwlio a.y.y.b.

•    Mae profiad yn dangos nad yw neuaddau yn gweithio’n dda fel lleoliadau ar gyfer clybiau ieuenctid.

•    Bwriedir cynnal y Cwb Ieuenctid ar nos Lun. Mae’n bosib y gallwn gael gwirfoddolwyr o’r clwb ei hunan.

•    Rhaid i bob gwirfoddolwr gael Archwiliad o Gofnodion Troseddol. Mae clwb yn Nrefach sy’n cael ei gynnal gan ddau wirfoddolwr.

•    I ddechrau, bydd Gweithwyr Ieuenctid menter Cwm Gwendraeth yn cynnal y clwb ieuenctid nes y gallwn hyfforddi gwirfoddolwyr a.y.yb.

•    Codwyd cwestiwn ynghylch cynnal clwb ieuenctid. Cadarnhawyd y byddai yna broblemau o bryd i’w gilydd (yn naturiol), felly gellid rhannu’r noson, y grwp 11-14 rhwng 5 - 7p.m, er enghraifft.

•    Cadarnhawyd y byddai’r arian yn parhau i gael ei godi, ac y gellid troi at y Fforwm os bydd angen cymorth.

•    Mae rhagor o gyfarfodydd gyda’r ieuenctid lleol wedi eu trefnu.

•    Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Prosiect Pobl Ifanc.

•    Awgrymiadau ar gyfer helpu’r prosiect.  Anfon llythyrau at rieni a threfnu cyfarfod er mwyn mynegi pryderon. Mae ambell riant wedi dangos diddordeb mewn trefnu gweithgareddau ar gyfer plant oedran ysgol gynradd.

DAETH Y CYFARFOD I BEN– CYFARFOD NESAF AR Fai 9fed  YN NEUADD  CAERBRYN

Cofnodion Fforwm Ward Penygroes 07 Chwefror 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM

Blaenau, Caerbryn, Penygroes

Festri Capel Calfaria Chapel Vestry, Penygroes

7-2-06

COFNODION/MINUTES

Presennol

Alun Lewis (Cadeirydd), Mark Durdin, Siân Thomas, Mair Griffiths, Mark Waygood (Cyd-ygrifennydd), Marie Hughes-Jones (Cyd-ygrifennydd), Janet Evans, Lynette Reynolds, Julian Tandy (Is-gadeirydd), Peter Roberts, John Davies, Llinos Hindley, Nicola Davies, Yvonne Watkins, Rhiannon Dawson (Dolen Iechyd), Huw Evans (Menter Cwm Gwendraeth)

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Steven Lewis

Shirley Heseltine

Cofnodion y Cyfarfod diwethaf

Cytunwyd fod cofnodion y cyfarfod yn gywir.

Materion yn codi o’r cofnodion

•    Pwysleisio pwysigrwydd y mater o gwn yn bawa yn y gymuned gan fod y mater wedi cael sylw ar dudalen flaen y bwletin. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Is-ysgrifennydd Mark Waygood, i gysylltu â’r Guardian er mwyn iddynt anfon gohebydd i’r pentref i siarad â Llinos a Nicola.

•    Mae 500 o gopïau o’r bwletin bellach yn barod i’w dosbarthu; bydd y gweddill yn barod yfory.

Safle’r Emlyn

•    Diweddariad gan John Davies.

•    Cawsom wybod bod y llifogydd adeg y Nadolig wedi effeithio ar eiddo yr ochr arall i Stryd y Bont.

•    Roedd y Cadeirydd yn annog pobl i fynd i Gaerfyrddin a deisebu ynghylch y broblem. Byddai angen gymaint o lofnodion ag sy’n bosib.

•    Mae Phil Owen wedi gwneud llawer o waith caled ar hyd y blynyddoedd ynghylch gwenwyno posib ar y safle. Roedd y cadeirydd dan yr argraff  fod popeth wedi ei symud o’r safle, a gofynnodd os gallai Phil gynhyrchu adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y fforwm.

•    A fydd pobl yn  barod i brynu tai os byddant yn gwybod beth sydd yn y ddaear?

•    Roedd y cadeirydd wedi cael ar ddeall fod cwmni yng Ngogledd Lloegr yn llosgi’r gwastraff gwenwynig.

•    Os bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud fod popeth yn glir ar y safle, yna bydd unrhyw archwiliadau o’r safle yn dangos fod popeth yn glir.

•    Bydd y Cadeirydd yn gofyn am ymweliad â’r safle yfory.

Prosiect Ieuenctid

•    Mae’r Cadeirydd wedi llunio llythyr gan ‘Grwp Cymunedol Ieuenctid Penygroes’ yn dangos diddordeb ym mhrosiect y Pafiliwn; meant wedi gofyn am gael cyfarfod â’r Fforwm yn y Neuadd Les.

•    Nid yw’r Cadeirydd yn gweld unrhyw reswm dros gael cyfarfod â GCIP. Maent wedi cael gwahoddiad i gyfarfodydd y Fforwm, ac mae cyfarfodydd y Fforwm yn agored i bawb.

•    Dyma’r tro cyntaf i ni i glywed am y grwp hwn, ac ni ellir gwneud dim byd nes bod yr heddlu wedi gwirio popeth.

•    Mae GCIP am gael defnyddio ‘r Neuadd Les pan fod trefniant tymor hir wedi ei wneud i gynnal digwyddiadau cyson yn y neuadd.

•    Mae’r Cynghorydd Siân Thomas wedi cynhyrchu rhaglen waith sy’n rhoi manylion am y deuddeg pwynt sydd i’w cwblhau yn y pafiliwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.

•    Mae’r gwelliannau hyn er lles pawb, nid dim ond y Clwb Rygbi. Mae’n cynnwys cyfleusterau eraill y gall pawb eu defnyddio. Mae gan Fenter Cwm Gwendraeth offer y gallem ei ddefnyddio, ac yn ychwanegol at unrhyw grantiau sydd ar gael, mae gan y fforwm £2000 i wario.

•    Bydd arian ar gael ar gyfer y Prosiect Ieuenctid ond ni fydd y grwp arall yn gallu cael grantiau na chyllid. Os yw’r Prosiect Ieuenctid dan faner y Fforwm, yna rhaid i ni dalu’r costau a chymryd cyfrifoldeb.

•    Mae yna lawer o bethau i’w gwneud  cyn y gallwn fynd ymlaen, a rhaid i ni gynnig rhywbeth i’r Clwb Rygbi. Bydd y Cadeirydd yn cysylltu â’r Clwb Rygbi.

•    Rhaid i’r cyfleusterau hyn gael ei defnyddio, ac nid unwaith yr wythnos yn unig. Mae angen i ni gynnwys y bobl ifanc o ddechrau’r broses. Byddant yn llai tebygol o ddifrodi’r lle os byddwn yn ymgynghori â nhw, ac os byddant yn gweithio gyda ni.

•    Mae pobl ifanc yn dueddol o ymgynnull ger y Deml yn y nos gan nad oes unman arall ganddynt i fynd. Mae angen trefnu cyfarfod cyn gynted â phosib.

•    Mae’r Cyngor Sir wedi gwrthod cais am ganiatâd cynllunio  ar gyfer datblygu tai ar dir yr Eglwys Apostolaidd. Mae yna gyfarfod yn y neuadd yfory am 6.30 p.m

•    Mae grantiau Chwaraeon yn brin ers y penderfyniad ynghylch lleoliad y Gemau Olympaidd.

•    Mae’r Cadeirydd wedi cysylltu â Mark James ynghylch y cyd-ddigwyddiad  symud yr offer chwarae o’r parc a’r cais am ganiatâd cynllunio o’r Eglwys Apostolaidd. Roedd yr offer i weld yn iawn, a does dim yn mynd ymlaen yno nawr, ond mae’r parc yn ymddangos yn noeth.

Clwb Cerdded

•    Gofynnwyd yn y Bwletin i drigolion os ydynt am ddechrau clwb cerdded. Bydd Mark Durdin yn trefnu’r cyfan.

•    Bydd angen nifer o bobl er mwyn trefnu’r clwb.

Gwobr Dinasyddion Da

•    Syniad y Cadeirydd yw hwn, er mwyn gwobrwyo pobl sy’n ymroi llawer i gymuned Penygroes.

•    Bydd angen llunio plât neu blac, a bydd ffurflenni enwebu yn cael eu gadael yn y siopau lleol.

•    Ni all Cynghorwyr fod yn rhan o’r broses hon gan eu bod wedi eu hethol.

•    Bydd gwobrwyo yn digwydd yn flynyddol. Gan ei fod yn annibynnol, bydd Huw Evans yn ymchwilio i’r posibiliadau. Mae’r amser eto i’w drefnu.

Codi arian

•    Mae yna bwyllgor arall ym Mhenygroes, sef Grwp Apêl yr Urdd. Cynhelir cyfarfod yn y Farmers ddydd Llun, Chwefror 20fed. Nid grwp ffurfiol yw hwn, a bydd cyfle i grwpiau eraill i drefnu digwyddiadau ac i godi arian.

•    Hyd yn hyn, mae’r digwyddiadau canlynol wedi eu trefnu. Barbiciw yn y Farmers ar Fai 13eg, Diwrnod Hwyl yn y Parc a disgo yn yr hwyr - Gorffennaf 8fed, Sioe Ffasiynau - Medi 14eg, Tân Gwyllt -Tachwedd  4ydd, Ffair Nadolig - Rhagfyr 15fed . Maent hefyd yn llunio calendr. Bydd angen cadarnhau’r dyddiadau hyn er mwyn sicrhau na fyddant yn gwrthdaro â digwyddiadau lleol eraill.

•    Mae tocynnau raffl ar werth nawr.

•    Mae angen i ni i gadw peth o’n cyllid yn ôl ar gyfer y pentref ar hyn o bryd.

•    Mae angen pobl o bob stryd arnom sydd yn barod i helpu.

•    Er na allwn gynnal carnifal, gallwn wneud pethau eraill sy’n cynnwys ymddangosiad y Majorettes.

•    Gwyl y Gwendraeth ym mis Mai, a fydd Penygroes yn dymuno gwneud rhywbeth. Mae’r wyl yn cael ei chynnal rhwng Mai 8fed a Mai 14eg.

•    Mae’r Neuadd Les ar gael ar nos Wener, efallai y gellid trefnu rhywbeth bryd hynny.

•    Y llynedd, cynhaliwyd noson gemau. Roedd y plant yn mwynhau’r twnnel peli paent. Mae yna wefan gwyddbwyll newydd sy’n cael ei chynnal gan rywun o Gaerbryn.

•    Mae’n bwysig ein bod yn annog plant i gymryd rhan yn y digwyddiadau ynghyd ag oedolion.

•    Cynigiodd yr Is-ysgrifennydd, Mark Waygood, y dylid cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian yn gyson, ffeiriau cyfryngau, ffeiriau teganau, ffeiriau teganau, a helfeydd trysor. Byddai cynnal y digwyddiadau yn yr un lleoliadau yn golygu bod rhagor o bobl yn mynychu.

Y Clwb Garddio

•    Yr ail ddydd Mawrth ym mis Mawrth ar ôl cyfarfod y Fforwm – trefnu dyddiad y Sioe Flodau.

•    Rhoddwyd grant o £5,000 ar gyfer yr ardd gymunedol. Mae Eleri Davies yn trefnu hyn

•    Mae cwrs garddio a gynhelir dros 20 wythnos wedi dechrau yn Neuadd Caerbryn.

•    Mae Tina Grech yn parhau i geisio trefnu sesiwn ‘blasu’ ond rhaid gosod posteri yn y pentref.

Unrhyw Fater Arall

•    Mae pibell Nwy Hylif Naturiol yn mynd trwy Landybie, felly ni fydd yn effeithio ar Benygroes. Mae’r Cyngor Sir yn rhoi ystyriaeth ddwys i lwybr y bibell.

•    Mae Brian James wedi addo dod i edrych ar lwybr Cerdded Gors Ddu/Black Lion gan nad oes modd ei gerdded mwyach.

•    Mae angen i’r Fforwm i edrych ar yswiriant, 3ydd person, atebolrwydd cyhoeddus a.y.y.b gan fod angen hyn er mwyn cynnal digwyddiadau. All Huw yn ymchwilio i hyn ar ein rhan?

•    Rhaid i bob person i arwyddo ymwadiad a bod yn gyfrifol am eu hunain mewn digwyddiadau awyr agored. Mae pobl yn barod i fynd i gyfraith am y peth lleiaf.

•    Mae Siân wedid erbyn anfoneb am y goeden Nadolig a osodwyd y tu allan i’r Llyfrgell. Nid y Fforwm ofynnodd am osod y goeden yno, felly ni fyddwn yn gyfrifol am yr anfoneb. Dangosodd  Julian Tandy gopi o gofnodion cyfarfod mis Rhagfyr lle diolchwyd i’r person a rhoddodd y goeden am ei garedigrwydd.

•    A oes prawf gennym mai adeiladwyr Sutton osododd y goeden yno?  Oes – roedd bwrdd Adeiladwyr Sutton wedi ei osod o flaen y goeden. Nid yw’r Cadeirydd am i’r mater hwn i godi mewn cyfarfod eto.

Cyfarfod nesaf- Mawrth  14eg yn Neuadd  Caerbryn am  7 p.m.

Cofnodion Fforwm Ward Penygroes 17 Ionawr 2006
Fforum Ward Penygroes Ward Forum

Festri Capel Calfaria Chapel Vestry

Nos Fawrth/Tuesday 17-1-2006

Cofnodion/Minutes

Presennol

Nia Cole Jones, Malcolm Rees, Colyn W*******, P Gully, Llinos Lindley, Nicola Davies, A Howells, M Durdin, Janet Evans, Edania Davies, Yvonne Watkins, Mair Griffiths, B Atkinson. V Davies, John Davies, Phil Owen, Yvonne Kelly (Treasurer), Marie Hughes Jones (Ysgrifenydd), Mark Waygood (Is-ysgrifenydd), Alun Lewis (Cadeirydd), Rhian Dawson, Dolen Iechyd/Healthlink, Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Siân Thomas, Julie Tandy, Julie Owen, Eleri Davies

Siaradwr Gwadd

Cyflwynodd y Cadeirydd Rhian Dawson o’r Prosiect Dolen Iechyd.

Ei swydd yw cysylltu â chymunedau lleol (60 o grwpiau ar hyn o bryd, rhai cenedlaethol a rhai gwirfoddol) a gweithredu fel cyswllt rhwng y grwpiau hyn a’r Awdurdod Iechyd. Hwn yw’r prosiect cyntaf o’i fath yn y D.U.

Amcanion

Gwella iechyd a lles mewn cymunedau lleol drwy ddechrau rhaglenni er mwyn darparu addysg (i bobl o bob oed) am bwysigrwydd ymarfer corf, bwyta’n iach, a byw yn iach.

Testunau Pryder arbennig

•    M.S.

•    Camddefnyddio sylweddau

•    Canser y Ceilliau a phroblemau â’r fron.  (Pobl 16-25 oed sy’n cael eu heffeithio fwyaf)

•    Pobl ifanc sy’n ysmygu (marched yn enwedig)

•    Pobl sydd wedi bod allan o waith am gyfnod hir.  Mae budd-daliadau analluedd ac anabledd yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.

•    Merched yn eu harddegau yn beichiogi. Ar hyn o bryd, mae yna bedwar ‘babi rhithwir’ ar gael i’w defnyddio.

Grwpiau Lleol all fod o gymorth

•    Gweithwyr Ieuenctid

•    Meddygon Teulu

•    Cleifion Arbenigol (cefnogaeth ar gyfer pobl sy’n dioddef o afiechyd tymor hir

•    Ymwelwyr Iechyd

•    Cymdeithasau Trigolion a.y.y.b.

Y ffordd Ymlaen

•    Ailhyfforddi (troseddwyr, pobl sy’n camddefnyddio sylweddau a.y.y.b)

•    Campau Gwyrdd (clybiau garddio, clybiau cerdded a.y.y.b) gan fod tir ar gael.

•    Hysbysu am brosiectau sydd ar gael (bu problemau cyfathrebu yn y gorffennol.)

Mae hwn yn brosiect tair blynedd, ac mae Rhian am sefydlu perthynas dda â’r gymuned, ond bydd angen rhestr arni, o’r holl grwpiau y gall hi gysylltu â nhw (bydd Alun a Marie yn darparu’r rhestr hon).

Materion yn codi o gofnodion cyfarfod mis diwethaf

Ffair Nadolig

•    Codwyd £249.89, ac roeddem yn eithaf hapus â nifer y bobl a ddaeth i’r noswaith gan ystyried fod yna ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal hefyd.

Hyfforddiant

•    Nid oes unrhyw newyddion ar y funud. Nifer gyfyngedig o liniaduron sydd ar gael felly mae cyrsiau gyda’r hwyr yn lletchwith. Bydd yn rhaid i ni i geisio cynnal cyrsiau yn y bore.

Datblygiadau ar Safle’r Emlyn

•    Bydd adroddiad arall yn cael ei gyflwyno gan Is-bwyllgor safle’r Emlyn

Prosiect Ieuenctid.

•    Yn dilyn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, bydd plant hyd at 11 oed yn gallu defnyddio’r neuadd tan 7p.m bob nos.

•    Mae digon o blant am fynd, ond bydd yna broblemau staffio. Erbyn hyn, rhaid cael yr heddlu i wirio  pob tasg. Mae’r gwiriadau hyn i gyd yn costio arian, ac mae yna gostau arall hefyd (yswiriant cyhoeddus a chostau cyfreithwyr ac yn y blaen.)

•    Mae yna lawer o bobl nad ydynt am i’r heddlu eu gwirio.

•    Ni fydd gwaith yn cael ei wneud yn y parc nes y bydd yr apêl wedi ei gwblhau.

•    Bydd y pafiliwn yn ddelfrydol, ond bydd angen i ni i siarad â’r Clwb Rygbi a’r Clwb Criced, yn ogystal â’r Cyngor Sir.

•    Mae Siân Thomas yn gwybod pa grantiau sydd ar gael ar gyfer y prosiectau hyn, ond nid yw yn aelod o’r grwp. Ni ddylai Tenis Bwrdd a dartiau achosi unrhyw broblem gan fod £2000 yn y banc.

•    Pobl ifanc sy’n cael blaenoriaeth. Mae Sports Aid wedi rhoi arian i eraill. Cynigiwyd bwrdd pwl eisoes.

•    Mae yna gryn bryder am y difrod y gallai 33 o blant ei achosi, gan nad y neuadd yw’r lle gorau i gynnal clwb mae’n debyg.

•    Mae yna chwech o gyfrifiaduron  y gellid eu hanfon i’r pafiliwn er mwyn i’r plant i chwarae gemau arnynt.

•    Mae’n ymddangos fod rhai o aelodau’r clwb rygbi yn awyddus i helpu, ond mae’n dibynnu ar bwy y siaradwch gan fod y stori yn newid.

•    Tra bod y tymor rygbi yn parhau, bydd yna le i’r plant i fynd i ymarfer gan fod y golau ymlaen, ac mae’n well fod y plant yn cael u cadw oddi ar y strydoedd.

Clwb Cerdded

•    Roedd y daith Gerdded Gwyl San Steffan i Gaerbryn ac i Garmel ac yn ôl yn llwyddiant ysgubol. Roedd 25 o bobl yn cymryd rhan (pobl ifanc a phobl hyn), ac fe gymerodd  2 awr (gyda sawl egwyl).

•    Cafwyd sawl cais am gynnal gweithgaredd fel hwn yn amlach, a chrybwyllwyd y dylid cynnal un oddeutu adeg y Pasg (2-3 awr). Bydd neges am hyn yn y cylchlythyr nesaf.

•    Mae yna glybiau eraill, ond nid ydym am ddatblygu i fod yn ddim byd tebyg i Gymdeithas y Cerddwyr.

•    Gadewch i John Davies, all drefnu. Gellir mynd â char fel y gellir ei stopio ar hyd y ffordd.

•    Gallwn drefnu picnic yn yr haf. Mae’n well fod plant allan yn yr awyr agored yn cymdeithasu ac yn dysgu am fyd nature yn hytrach nag eistedd adref yn gwneud dim.

Codi arian

•    Rydym yn parhau i fod angen syniadau am sut mae codi arian. Mae’r arian yn cael ei godi er lles y gymuned. Yn y diwrnod hwyl diwethaf, codwyd £800.

•    A ydym am gynnal Diwrnod Hwyl arall yn y Parc?. Bydd angen gadael i’r ‘Cadeirydd’ i wybod.

•    Bu pobl yn chwerthin am ben y syniad gwreiddiol o gynnal Sioe Flodau, ond mewn gwirionedd, bu’r digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

•    Syniadau - Cystadlaethau i blant, Ffair, band Majorettes, parti Caws a Gwin.

•    Gellir cynnwys darpariaeth gwin ym mhris y tocyn. Gellir ei ddefnyddio ar eich cyfer eich hunan, ond ni ellir ei roi i unrhyw un arall. Mae angen cael eglurhad ar hyn gan fod pobl yn disgwyl darpariaeth alcohol mewn digwyddiadau o’r fath, ac mae’n bosib na fydd rhai pobl yn dod os na fydd alcohol ar gael yno

Unrhyw Fater Arall

•    Allai’r fforwm anfon llythyr ar ran  y pentref i ymateb i’r newyddion a ddaeth o Ysgol Tregib i ddweud na fydd y pwll nofio yn cael ei adeiladu. Cofiwch fod pwll nofio yn anghenraid, ac nid er moethusrwydd yn unig.

•    Codwyd £3,000 y tro diwethaf, ond fe’n sicrhawyd gan y prifathro fod codi arian yn angenrheidiol. Bydd  yn fuddiol i blant Penygroes. Codwyd £12,000 at yr achos hwn yn Llandybie.

•    Awgrymodd y Cadeirydd y dylid galw am gyfarfod cyhoeddus, ond dywedodd na fyddai ef yn cadeirio’r cyfarfod hwnnw.

•    Mae baw cwn yn fater difrifol yn y pentref. Mewn rhai ardaloedd, rhaid i chi gerdded ar yr heol os ydych yn gwthio pram.

•    Awgrymwyd y dylid tynnu lluniau o berchnogion sy’n gadael baw eu cwn, ac erlyn un person fel rhybudd i eraill. Dylid gosod posteri/arwyddion hefyd.

•    Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Menter Cwm Gwendraeth am 7pm ar Chwefror  1af yn Neuadd y Tymbl, a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Diwedd y cyfarfod

NODER - Cyfarfod nesaf – Chwefror 7fed 2006 – FESTRI CAPEL CALFARIA

Cyfarfod Is-bwyllgor yr Emlyn – Chwefror  2il 2006