FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM
Blaenau, Caerbryn, Penygroes
Festri Capel Calfaria Chapel Vestry, Penygroes

 7-2-06

COFNODION/MINUTES

Presennol
Alun Lewis (Cadeirydd), Mark Durdin, Siân Thomas, Mair Griffiths, Mark Waygood (Cyd-ygrifennydd), Marie Hughes-Jones (Cyd-ygrifennydd), Janet Evans, Lynette Reynolds, Julian Tandy (Is-gadeirydd), Peter Roberts, John Davies, Llinos Hindley, Nicola Davies, Yvonne Watkins, Rhiannon Dawson (Dolen Iechyd), Huw Evans (Menter Cwm Gwendraeth)

Ymddiheuriadau am absenoldeb
Steven Lewis
Shirley Heseltine

Cofnodion y Cyfarfod diwethaf
Cytunwyd fod cofnodion y cyfarfod yn gywir.

Materion yn codi o’r cofnodion

•    Pwysleisio pwysigrwydd y mater o gwn yn bawa yn y gymuned gan fod y mater wedi cael sylw ar dudalen flaen y bwletin. Gofynnodd y Cadeirydd i’r Is-ysgrifennydd Mark Waygood, i gysylltu â’r Guardian er mwyn iddynt anfon gohebydd i’r pentref i siarad â Llinos a Nicola.
•    Mae 500 o gopïau o’r bwletin bellach yn barod i’w dosbarthu; bydd y gweddill yn barod yfory.

Safle’r Emlyn
•    Diweddariad gan John Davies.
•    Cawsom wybod bod y llifogydd adeg y Nadolig wedi effeithio ar eiddo yr ochr arall i Stryd y Bont.
•    Roedd y Cadeirydd yn annog pobl i fynd i Gaerfyrddin a deisebu ynghylch y broblem. Byddai angen gymaint o lofnodion ag sy’n bosib.
•    Mae Phil Owen wedi gwneud llawer o waith caled ar hyd y blynyddoedd ynghylch gwenwyno posib ar y safle. Roedd y cadeirydd dan yr argraff  fod popeth wedi ei symud o’r safle, a gofynnodd os gallai Phil gynhyrchu adroddiad i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y fforwm.
•    A fydd pobl yn  barod i brynu tai os byddant yn gwybod beth sydd yn y ddaear?
•    Roedd y cadeirydd wedi cael ar ddeall fod cwmni yng Ngogledd Lloegr yn llosgi’r gwastraff gwenwynig.
•    Os bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn dweud fod popeth yn glir ar y safle, yna bydd unrhyw archwiliadau o’r safle yn dangos fod popeth yn glir.
•    Bydd y Cadeirydd yn gofyn am ymweliad â’r safle yfory.
Prosiect Ieuenctid

•    Mae’r Cadeirydd wedi llunio llythyr gan ‘Grwp Cymunedol Ieuenctid Penygroes’ yn dangos diddordeb ym mhrosiect y Pafiliwn; meant wedi gofyn am gael cyfarfod â’r Fforwm yn y Neuadd Les.
•    Nid yw’r Cadeirydd yn gweld unrhyw reswm dros gael cyfarfod â GCIP. Maent wedi cael gwahoddiad i gyfarfodydd y Fforwm, ac mae cyfarfodydd y Fforwm yn agored i bawb.
•    Dyma’r tro cyntaf i ni i glywed am y grwp hwn, ac ni ellir gwneud dim byd nes bod yr heddlu wedi gwirio popeth.
•    Mae GCIP am gael defnyddio ‘r Neuadd Les pan fod trefniant tymor hir wedi ei wneud i gynnal digwyddiadau cyson yn y neuadd.
•    Mae’r Cynghorydd Siân Thomas wedi cynhyrchu rhaglen waith sy’n rhoi manylion am y deuddeg pwynt sydd i’w cwblhau yn y pafiliwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.
•    Mae’r gwelliannau hyn er lles pawb, nid dim ond y Clwb Rygbi. Mae’n cynnwys cyfleusterau eraill y gall pawb eu defnyddio. Mae gan Fenter Cwm Gwendraeth offer y gallem ei ddefnyddio, ac yn ychwanegol at unrhyw grantiau sydd ar gael, mae gan y fforwm £2000 i wario.
•    Bydd arian ar gael ar gyfer y Prosiect Ieuenctid ond ni fydd y grwp arall yn gallu cael grantiau na chyllid. Os yw’r Prosiect Ieuenctid dan faner y Fforwm, yna rhaid i ni dalu’r costau a chymryd cyfrifoldeb.
•    Mae yna lawer o bethau i’w gwneud  cyn y gallwn fynd ymlaen, a rhaid i ni gynnig rhywbeth i’r Clwb Rygbi. Bydd y Cadeirydd yn cysylltu â’r Clwb Rygbi.
•    Rhaid i’r cyfleusterau hyn gael ei defnyddio, ac nid unwaith yr wythnos yn unig. Mae angen i ni gynnwys y bobl ifanc o ddechrau’r broses. Byddant yn llai tebygol o ddifrodi’r lle os byddwn yn ymgynghori â nhw, ac os byddant yn gweithio gyda ni.
•    Mae pobl ifanc yn dueddol o ymgynnull ger y Deml yn y nos gan nad oes unman arall ganddynt i fynd. Mae angen trefnu cyfarfod cyn gynted â phosib.
•    Mae’r Cyngor Sir wedi gwrthod cais am ganiatâd cynllunio  ar gyfer datblygu tai ar dir yr Eglwys Apostolaidd. Mae yna gyfarfod yn y neuadd yfory am 6.30 p.m
•    Mae grantiau Chwaraeon yn brin ers y penderfyniad ynghylch lleoliad y Gemau Olympaidd.
•    Mae’r Cadeirydd wedi cysylltu â Mark James ynghylch y cyd-ddigwyddiad  symud yr offer chwarae o’r parc a’r cais am ganiatâd cynllunio o’r Eglwys Apostolaidd. Roedd yr offer i weld yn iawn, a does dim yn mynd ymlaen yno nawr, ond mae’r parc yn ymddangos yn noeth.  

Clwb Cerdded

•    Gofynnwyd yn y Bwletin i drigolion os ydynt am ddechrau clwb cerdded. Bydd Mark Durdin yn trefnu’r cyfan.

•    Bydd angen nifer o bobl er mwyn trefnu’r clwb.

Gwobr Dinasyddion Da

•    Syniad y Cadeirydd yw hwn, er mwyn gwobrwyo pobl sy’n ymroi llawer i gymuned Penygroes.  
•    Bydd angen llunio plât neu blac, a bydd ffurflenni enwebu yn cael eu gadael yn y siopau lleol.  
•    Ni all Cynghorwyr fod yn rhan o’r broses hon gan eu bod wedi eu hethol.
•    Bydd gwobrwyo yn digwydd yn flynyddol. Gan ei fod yn annibynnol, bydd Huw Evans yn ymchwilio i’r posibiliadau. Mae’r amser eto i’w drefnu.

Codi arian

•    Mae yna bwyllgor arall ym Mhenygroes, sef Grwp Apêl yr Urdd. Cynhelir cyfarfod yn y Farmers ddydd Llun, Chwefror 20fed. Nid grwp ffurfiol yw hwn, a bydd cyfle i grwpiau eraill i drefnu digwyddiadau ac i godi arian.  
•    Hyd yn hyn, mae’r digwyddiadau canlynol wedi eu trefnu. Barbiciw yn y Farmers ar Fai 13eg, Diwrnod Hwyl yn y Parc a disgo yn yr hwyr - Gorffennaf 8fed, Sioe Ffasiynau - Medi 14eg, Tân Gwyllt -Tachwedd  4ydd, Ffair Nadolig - Rhagfyr 15fed . Maent hefyd yn llunio calendr. Bydd angen cadarnhau’r dyddiadau hyn er mwyn sicrhau na fyddant yn gwrthdaro â digwyddiadau lleol eraill.  
•    Mae tocynnau raffl ar werth nawr.
•    Mae angen i ni i gadw peth o’n cyllid yn ôl ar gyfer y pentref ar hyn o bryd.
•    Mae angen pobl o bob stryd arnom sydd yn barod i helpu.
•    Er na allwn gynnal carnifal, gallwn wneud pethau eraill sy’n cynnwys ymddangosiad y Majorettes.
•    Gwyl y Gwendraeth ym mis Mai, a fydd Penygroes yn dymuno gwneud rhywbeth. Mae’r wyl yn cael ei chynnal rhwng Mai 8fed a Mai 14eg.
•    Mae’r Neuadd Les ar gael ar nos Wener, efallai y gellid trefnu rhywbeth bryd hynny.
•    Y llynedd, cynhaliwyd noson gemau. Roedd y plant yn mwynhau’r twnnel peli paent. Mae yna wefan gwyddbwyll newydd sy’n cael ei chynnal gan rywun o Gaerbryn.
•    Mae’n bwysig ein bod yn annog plant i gymryd rhan yn y digwyddiadau ynghyd ag oedolion.

•    Cynigiodd yr Is-ysgrifennydd, Mark Waygood, y dylid cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian yn gyson, ffeiriau cyfryngau, ffeiriau teganau, ffeiriau teganau, a helfeydd trysor. Byddai cynnal y digwyddiadau yn yr un lleoliadau yn golygu bod rhagor o bobl yn mynychu.  
Y Clwb Garddio

•    Yr ail ddydd Mawrth ym mis Mawrth ar ôl cyfarfod y Fforwm – trefnu dyddiad y Sioe Flodau.

•    Rhoddwyd grant o £5,000 ar gyfer yr ardd gymunedol. Mae Eleri Davies yn trefnu hyn

•    Mae cwrs garddio a gynhelir dros 20 wythnos wedi dechrau yn Neuadd Caerbryn.

•    Mae Tina Grech yn parhau i geisio trefnu sesiwn ‘blasu’ ond rhaid gosod posteri yn y pentref.

Unrhyw Fater Arall

•    Mae pibell Nwy Hylif Naturiol yn mynd trwy Landybie, felly ni fydd yn effeithio ar Benygroes. Mae’r Cyngor Sir yn rhoi ystyriaeth ddwys i lwybr y bibell.
•    Mae Brian James wedi addo dod i edrych ar lwybr Cerdded Gors Ddu/Black Lion gan nad oes modd ei gerdded mwyach.

•    Mae angen i’r Fforwm i edrych ar yswiriant, 3ydd person, atebolrwydd cyhoeddus a.y.y.b gan fod angen hyn er mwyn cynnal digwyddiadau. All Huw yn ymchwilio i hyn ar ein rhan?
•    Rhaid i bob person i arwyddo ymwadiad a bod yn gyfrifol am eu hunain mewn digwyddiadau awyr agored. Mae pobl yn barod i fynd i gyfraith am y peth lleiaf.
•    Mae Siân wedid erbyn anfoneb am y goeden Nadolig a osodwyd y tu allan i’r Llyfrgell. Nid y Fforwm ofynnodd am osod y goeden yno, felly ni fyddwn yn gyfrifol am yr anfoneb. Dangosodd  Julian Tandy gopi o gofnodion cyfarfod mis Rhagfyr lle diolchwyd i’r person a rhoddodd y goeden am ei garedigrwydd.
•    A oes prawf gennym mai adeiladwyr Sutton osododd y goeden yno?  Oes – roedd bwrdd Adeiladwyr Sutton wedi ei osod o flaen y goeden. Nid yw’r Cadeirydd am i’r mater hwn i godi mewn cyfarfod eto.  

Cyfarfod nesaf- Mawrth  14eg yn Neuadd  Caerbryn am  7 p.m.