FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM
Cyfarfod 14 Chwefror 2007
Pafiliwn Cymunedol Parc Penygroes

COFNODION

Presennol
Julian Tandy (Cadeirydd), Mark Waygood (Ysgrifennydd), Yvonne Kelly (Trysorydd), Llinos Hindley, Nicola Davies, Kevin Kelly, John Davies, Les Samuel, Roger Evans, Siân Thomas, Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth

Ymddiheuriadau
Marie Hughes-Jones, Lynette Reynolds, Alun Lewis, Mair Griffiths, Eleri Davies

Cofnodion o’r Cyfarfod Diwethaf

Cywiriad i gofnodion y cyfarfod diwethaf; roedd yna bump ennillydd i Gystadleuaeth y Golau Nadolig Gorau, sef teuluoedd Garrity, Heol Caerbryn, Morgan – Maesglas, Richards – Heol Waterloo, Smart – Blaen Emlyn, Smith – Pant-y-Blodau, Blaenau.

Cynigiwyd fod cofnodion y cyfarfod diwethaf  yn gywir gan Lliinos Hindley, eiliwyd gan Nicola Davies.

Materion yn codi
•    Oherwydd y tywydd gwael yn ddiweddar, bydd Julian yn cwrdd â Marie Anne Jones (Prosiect Cerdded i Iechyd) ar Ddydd Iau, 15fed Chwefror.

Cofnodion
Datblygiad yr tir yr Eglwys Apostolaidd
•    Mae yna ddau gais datblygu.  Daeth Peter Roberts o hyd i ddogfennau sy’n datgan mai at ddefnydd hamdden yn unig mae’r Parc.
•    Mae’r achos nawr yn cael ei ystyried gan Adran Ddatblygu’r Cyngor Sir, ond ychydig iawn o rybudd cawn ni os oes yna ymholiad cyhoeddus.
•    Mae yna hefyd gais i godi 31 ty ar Heol Caerbryn, er efallai y bydd rhaid iddynt ail-gyflwyno cais gyda llai o dai.  Cafwyd ymateb da gan drigolion Heol Caerbryn.
•    Efallai bydd rhaid cynnal cyfarfod cyhoeddus, ond cawn ond ychydig o rybudd i drefnu hyn.
•    Mae’r Fforwm yn gwrthwynebu’r datblygiad hwn, ac mae Siân yn ystyried hwn fel mandad cyhoeddus.

Diweddariad ar Safle’r Emlyn
•    Mynychodd Roger Evans y cyfarfod i gywiro ambell i ffaith yr oedd yn credu fod y Fforwm wedi ei gael yn anghywir.  Gwrthododd bron pob un o’r honiadau a oedd wedi eu gwneud yn erbyn datblygiad Protex.  Gweler cofnodion blaenorol am ddisgriad manylach o’r rhain.
•    Yn fyr, gwneithpwyd y sylwadau NEWYDD hyn:
1.    Nid oes angen tir i gael mynediad oddi wrth Capel Calfaria na’r Neuadd Goffa ac nid oes yna unrhyw fwriad i brynu’r Neuadd Les.
2.    Hyd yn hyn, mae £9 miliwn wedi ei wario ar y safle.
3.    Bydd yna Neuadd Chwaraeon y tu ôl i’r Clwb Rygbi.
4.    Awgrymwyd y gallai Menter Cwm Gwendraeth helpu i gynnal asesiad datblygiad safle’r Emlyn ar y Gymraeg gyda chynifer o bobl newydd yn dod i fyw yn y pentref yn sgil hynny.
5.    Nid yw Cymal 106 wedi ei gytuno ar gyfer safle Protex, gan y daeth i’r rym yn hwyrach.  Byddai’r cam cyntaf yn cynnwys ysgol.
6.    Mae rhwng £5/6 yn dod mewn grantiau i’r gymuned.
7.    Bydd tai fforddadwy yn cael eu codi ar gyfer pobl leol.  Holwyd pa mor lleol fyddai ‘lleol’’. Mae angen mwy o eglurhad ar hyn.
8.    Bwriedir cynnal arddangosfa.  Efallai byddai’r manylion yn barod erbyn y cyfarfod nesaf.
9.    Bydd tai newydd yn cronni dwr glaw.  Mae’r cyngor wedi cytuno i bedwar tanc cronni, ond mae Dwr Cymru ond wedi cytuno i un.
10.    Palwyd ffosydd o amgylch y safle’r Emlyn i gronni dwr oddi ar yr wyneb.  Erbyn hyn mae  85% of yn cael ei ddraenio’n llwyddiannus.
11.    Gwahoddwyd Roger i gyfarfodydd yr is-bwyllgor a dywedodd y dylai’r gymuned fynd ato ef os oes gan unrhyw un bryderon.

•    Dywedwyd fod Newyddion y Gymuned wedi dweud bod ysgol newydd  wedi ei chynllunio ar gyfer Penygroes yn ystod 2008/09 oherwydd cynnydd yn y nifer y tai ym Mhenygroes, Gorslas. Caerbryn a Blaenau.  Os bydd Ysgol Penygroes yn cael ei gadael yn wag, mae’n bosibl y bydd yn dylanwadu ar ddatblygiad y tir Apostolaidd.  Disgwylir i boblogaeth y cylch ddyblu mewn maint.

Baw Cwn
•    Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu unwaith yn rhagor, ac mae glanhawyr y strydoedd wedi gwrthod eu glanhau.  Gofynnwyd iddynt riportio’r broblem.
•    Rydym yn parhau i aros am arwyddion er eu bod wedi ei haddo ers sawl mis bellach.
•    Angen i’r gymuned ddarparu enwau / lluniau o’r troseddwyr.  Siân i wneud cwyn arall.
•    Gofyn swyddogion cymunedol yr heddlu i gadw golwg.  Bydd y Gwardeiniaid yn gweithio oriau hwyrach os ydynt yn gwybod ar bwy dylent gadw golwg.

Swyddog Datblygu Cymunedol
•    Mae’r grant ar gyfer y swydd hon wedi ei gymeradwyo a bydd y person sy’n cael ei benodi  yn gweithio o’r Neuadd Goffa unwaith y bydd yr offer swyddfa yn eu lle.
•    Bydd yn rhaid hysbysebu’r y swydd  mewn cynifer o lefydd â phosibl. Mae dau berson lleol eisoes wedi dangos diddordeb.  Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau  fydd hanner dydd 16eg Mawrth 2007.  
•    Cynhelir y cyfweliadau mor fuan â phosibl ar ôl hynny.  Rhaid cael y dyddiad cau mor agos â phosibl i’r 1af Ebrill gan mai swydd ar gyfer blwyddyn yn unig ydyw.
•    Huw Evans i drefnu Manyleb Swydd sy’n ffafrio ymgeisydd dwyieithog.
•    Cyfwelwyr posibl:- Siân Thomas, Robert Quick, Huw Evans, Alun Lewis
•    Awgrymwyd creu Is-bwyllgor i oruchwilio’r Swyddog Datblygu Cymunedol.

Gardd Gymunedol
•    Mae’r grant ar gyfer y prosiect hwn hefyd wedi ei gymeradwyo.  Bydd yr aelodau yn cwrdd y mis hwn er mwyn lansio’r prosiect.  Bwriedir cynnal cyfarfod arall  rhai sy’n gyfrifol am roi’r grant.
•    Angen ysgrifennu hanes a lluniau o aelodau’r Clwb Garddio ar gyfer y wasg leol .
•    Mae yna grant arall o Gyngor Cymuned Llandybie ar gyfer yr ardd hon.

Asesiad Impact ar Iechyd

•    Gwnaethpwyd y cyswllt cyntaf a gobeithir y bydd yna ragor o fanylion i’w hadrodd yn ôl erbyn y cyfarfod nesaf.

Unrhyw Fater Arall
•    Mae angen gweld a oes modd i ni ddefnyddio festri leol arall ar gyfer cyfarfodydd y Fforwm ym Mhenygroes.
•    Cynhelir y cyfarfod nesaf i drafod ail-ddatblygu Parc Penygroes ar 27ain Chwefror yn y Pafiliwn.
•    Mae John Taylor wedi cynnig adeilad cymunedol  y gallai’r ieuenctid lleol ei ddefnyddio.
•    Archebwyd byrddau ar gyfer y Fforwm.

Cyfarfod nesaf y Fforwm, Dydd Mercher 7ed Mawrth

Caewyd y cyfarfod.
Noder: oherwydd y problemau a gafwyd yngly^n â’r offer cyfieithu, mae’n bosibl nad yw pob pwynt wedi ei esbonio’n llawn.–