Tue 13 Jun 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM
Blaenau, Caerbryn, Penygroes
13 June 2006-07-05
Cofnodion
Presennol
Phil Owen, Julie Owen, Cyng. Siân Thomas, Yvonne Watkins, Eleri Davies, John Davies, Stephen Lewis, Llinos Hindley, Nicola Davies, Mair Griffiths, Vicky Thomas, Julian Tandy, Marie Seymour, Peter Roberts, Yvonne Kelly (Trysorydd), Mark Waygood (Ysgrifennydd), Marie Hughes-Jones (Ysgrifennydd), Alun Lewis (Cadeirydd), Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth
Ymddiheuriadau
• Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn - ENILLYDD
• Cystadleuaeth ar gyfer trigolion Blaenau, Caerbryn a Phenygroes.
• Mae’r Cadeirydd a Mrs Linda Roberts (siop bapurau) wedi cyfri’r pleidleisiau, ac mae yna enillydd. Er bod llawer o bobl wedi eu henwebu i dderbyn y wobr hon, roedd yna un enw a oedd ar y blaen i’r gweddill. Ni fydd yr enwau a nifer y pleidleisiau yn cael eu crybwyll gan nad etholiad yw hwn, ond mae yna un person wedi ei ddewis i dderbyn y wobr.
• Mae’r enillydd yn esiampl i ni i gyd, ac mae wedi gwneud llawer o waith yn y pentref. Rydym wedi penderfynu cyflwyno cloc i Mrs Mair Griffiths fel arwydd o’n gwerthfawrogiad. Mae Mrs Griffiths yn gefnogol iawn i bopeth sydd yn digwydd yn y pentref, ac mae wir yn haeddu’r wobr hon. Diolchodd Mrs Griffiths i bawb a bleidleisiodd iddi, ac roedd yn gwerthfawrogi’r cloc yn fawr iawn. Nododd mai’r ffordd orau i’r gymuned i ddangos gwerthfawrogiad fyddai cefnogi’r gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn y pentref. Mae yna nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf, a gofynnodd i bobl i fod yn gefnogol.
• Unwaith eto, diolchodd y Cadeirydd i Mrs Griffiths, a dywedodd ei bod yn esiampl i ni i gyd.
Cofnodion y cyfarfod blaenorol
• Cytunwyd eu bod yn gywir
Prosiect Pob Ifanc – Diweddariad ar y Pafiliwn
• Rydym wedi derbyn dau lythyr (i’w darllen i bawb yn nes ymlaen).
• Cynhaliwyd cyfarfod rhwng y Cyng. Siân Thomas, Cindy ac Alana o Fenter Cwm Gwendraeth (MCG), aelodau o’r Clybiau Rygbi a’r parc. Daethpwyd i gytundeb ynghylch pa ystafelloedd y gallai pwy eu defnyddio, felly mae pethau yn symud ymlaen.
• Gan fod agoriad y pafiliwn wedi ei ohirio tan fis Medi, bydd y Mobi yn dychwelyd i Benygroes yn wythnosol hyd hynny.
• Bydd angen cyllid er mwyn prynu offer i’r Clwb Ieuenctid. Mae Sports Aid wedi addo cyfrannu £300, ond bydd angen rhagor o arian. Mae gennym un ystafell, ond mae angen celfi ar gyfer yr ystafell honno. Gan fod y Fforwm wedi codi peth arian, awgrymodd y Cadeirydd y dylid cyfrannu swm o £500 tuag at y prosiect hwn Mae £2000 o bunnoedd ar gael gennym. Cynigiwyd ac eiliwyd y swm hwn.
• Cytunwyd y byddai Eleri Davies yn gweithio ac yn cydlynu gydag Alana a Cindy ar ran y Fforwm.
• Codwyd cwestiwn yn dilyn y cyfarfod yn y Clwb Rygbi, ynghylch sefydlu grwp arall a fyddai’n ymdrin â materion yr ieuenctid. Yn y cyfarfod hwnnw, roedd y mwyafrif yn teimlo nad oedd angen sefydlu grwp arall, ac y byddai’n well sefydlu is-bwyllgor yn y Fforwm er mwyn delio â hyn.
• Yn y cyfarfod, dywedodd Mr Sutton fod ganddo £500,000 mewn amlen, ond mae’n debyg mae ffurflen gais am grant oedd ganddo, ac nid yr arian. Roedd ychydig o’r arian hwn i ddod o grant chwaraeon y loteri, ond gan fod y gronfa wedi gosod cyfyngiad o £750 neu lai ar y grantiau, byddai’n annhebygol y gallai’r swm fynd â phrosiect yr ieuenctid ymhell. Roedd Mr Sutton yn dadlau yn erbyn hyn. Roedd grwp Mr Sutton am dynnu’r pafiliwn i lawr, ond mae dros £100,000 eisoes wedi ei wario ar y parc, ac £83,000 wedi ei wario ar y pafiliwn. Cytunodd y mwyafrif o bobl nad oedd angen.
• Dywedodd y Cynghorydd Siân Thomas ei bod wedi derbyn llythyr gan Mr Sutton a oedd yn ymosod arni hi yn bersonol. Ni allai’r llythyr hwnnw gael ei ddangos gan ei fod yn awr yn nwylo cyfreithwyr y Cyngor Sir. Roedd y Cadeirydd y Fforwm hefyd wedi derbyn llythyr a eiriwyd yn gryf, ond nid oedd wedi penderfynu beth i’w wneud ag ef eto. Darllenwyd llythyr a oedd yn ymateb i’r gwahoddiad i Grwp Cymunedol Plant ac Ieuenctid Penygroes i ymuno â’r Fforwm, ar lafar gan Mark Waygood.
• Darllenwyd llythyr arall gan y Cadeirydd, a anfonwyd at Mr Sutton gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin (cc y Cyng. Thomas, Alun Lewis, Wendy Walters a.y.y.b.), yn cymeradwyo ei syniad, ond a oedd ar yr un pryd yn tanlinellu’r ffaith na fyddai modd fforddio pafiliwn newydd.
• Nododd y Cadeirydd nad oedd y Fforwm yn ymhél â gwleidyddiaeth bleidiol, ac y byddai’n gweithio â phobl o bob plaid wleidyddol er mwyn gwella ansawdd bywyd trigolion o Blaenau, Caerbyrn a Phenygroes . Roedd am gofnodi fod ganddo ef ei hun rai sylwadau ynghylch Prosiect Cymunedol Plant ac Ieuenctid Penygroes, megis ble fyddent yn cwrdd, ac os oeddent yn cynnal AGM a.y.y.b.
• Cynigiwyd y dylai’r Fforwm anfon llythyr at grwp Mr Sutton er mwyn gwrthod yn gwrtais, y cynnig i anfon unrhyw gynrychiolwyr o’r Fforwm, ond unwaith eto, yn rhoi cynnig i’w grwp yntau i ymuno â’r Fforwm mewn ymdrech ar y cyd. Mae’r Fforwm wedi ei sefydlu ers cryn amser ac yn cael ei chydnabod gan bob mudiad ac asiantaeth arall. Cytunwyd ar hyn.
Noson Gemau yn neuadd Penygroes
• Y dyddiad ar gyfer y Noson Gemau yw nos Iau, Gorffennaf 6ed rhwng 6pm - 8pm. Mae’r Clwb Bowls Mat Byr yn peidio â chynnal eu sesiwn hwy er mwyn helpu’r digwyddiad. Mae yna rhai pobl ifanc yn y tîm Bowls erbyn hyn. Roedd 3 pherson 15 oed yn y noson wobrwyo a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf.
• Gall unrhyw un sydd am gynorthwyo ar y noson (ac mae angen help arnom!) gysylltu ag Yvonne Kelly.
• Bydd te a choffi ar gael yn rhad ac am ddim unwaith eto, ond bydd ffi mynediad. Roedd y ffi yn £1 y llynedd.
• Bydd wal ddringo yno y tro hwn
• Bydd y noson gemau yn gyfle i’r bobl hyn a’r bobl iau i gymdeithasu.
Datblygiadau Adeiladu – Diweddariad
• Darllenwyd llythyr gan Protex, a oedd yn ymateb i nifer o bwyntiau a godwyd
• Mae trigolion 84-110 Heol Norton wedi cael gwybod bod Protex yn gweithio ar eu ffiniau hwy.
• Mae John Davies wedi cael deunydd ychwanegol er mwyn cefnogi hawliadau ffiniau
• Mae 84 Heol Norton wedi cael gwybod am drefniadau parcio newydd ar gyfer yr eiddo hwn.
• Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi adrodd yn ôl i Phil Owen gan ddweud fod y safle’n glir o unrhyw lygredd olew.
• Mae gweddill y Japanese knotweed yn cael ei glirio o’r safle.
• Bydd ailosod ffos y bibell ar Heol Plas Gwyn, Stryd y Bont, a Heol Waterloo yn digwydd ar Fehefin 14eg , a bydd y gwaith yn parhau am (2-3 diwrnod ).
• Mae’r Cyngor wedi dweud y bydd yn rhaid iddynt i atgyweirio’r heol, gan ei bod mewn cyflwr gwael iawn.
• Mae’r Cadeirydd yn ysgrifennu at John Taylor (yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd Cymuned) ynghylch y problemau a fydd yn codi yn sgil y gwaith ar arwyneb y safle. Pan fydd yn bwrw glaw, bydd y dwr yn rhedeg ar yr arwyneb ac yn mynd i mewn i erddi yn Heol Norton, gan nad oes unman arall iddo i fynd
• Gall Siân Thomas ysgrifennu llythyr i adran gynllunio’r Cyngor Sir er mwyn dod i wybod beth yn union sy’n digwydd ? Mae’r ffos ddwr glaw o’r gwaith concrid wedi llenwi a blocio wrth y gwaelod ger Caersalem. Mae angen gwneud dau gwyn, felly, un i’r adran Hydroleg, a’r llall i’r adran Priffyrdd. Os bydd cyfnodau helaeth o law, bydd y baw yn cael ei olchi i’r sgwâr.
• Dywedodd Phil Owen nad oedd wedi clywed gan Asiantaeth yr Amgylchedd fody safle’n glir.
• Dywedodd Peter Roberts ei fod wedi gweld llygredd olew o liw brown tywyll pan aeth heibio’r safle rai dyddiau yn ôl.
• Roedd Phil Owen wedi ei synnu fod Protex wedi cael yr hawl i gymryd y samplau eu hunain er mwyn eu profi. Hyd yn hyn, y cyfan sydd wedi digwydd y w fod yr olew wedi ei guddio.
• Mae Phil Owen wedi anfon tystiolaeth ffotograffig at Asiantaeth yr Amgylchedd, ac wedi anfon copi at Protex. Nid yw Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymateb, ond mae wedi cwrdd â Protex er mwyn dangos y llygredd.Nid yw wedi cael ymateb hyd yn hyn.
• Cyflwynwyd cwynion i Victoria King (adran swn) ynghylch y swn pan fo peiriannau symud tir trwm yn dechrau cael eu defnyddio am 7.30am. Os bydd hyn yn parhau, bydd yn dod i weld drosti hi ei hunan. Mae’r swn yn gwneud i ffenestri ddirgrynu.
• Mae Siân Thomas wedi derbyn dau gwyn, ac wedi eu hanfon ymlaen, ond yn dal i ddisgwyl am ymateb.
• Ydi hi’n wir fod ganddynt hawl i weithio rhwng 7a.m a 7p.m am 6 wythnos, a rhwng 8 ac 1 ar ddydd Sadyrnau?
• Onid oedd y cynllun gwreiddiol yn dangos atalyddion swn?
• Mae’r Cadeirydd yn teimlo y dylai fod Peiriannydd Sifil cymwys yn gyfrifol am y safle.
• Mae Siân Thomas wedi gwneud cwyn ffurfiol ynghylch Heol Gorsddu, ond mae gan yr adran Priffyrdd ôl-ddyledion o £43m in arrears.
• Awgrymodd y Cadeirydd y dylem fynd at y Cyngor Sir a phrotestio am yr amodau byw y mae’n rhaid i’r trigolion eu dioddef. Beth am gael Eifion Bowen o’r Adran Gynllunio i ateb ein cwynion.
• Rydym yn parhau i ddisgwyl i’r tanciau i gael eu gosod. Mae’n ymddangos eu bod yn gweithio y tu ôl ymlaen, ac ni allwn ddeall pam eu bod yn gwneud hyn. Y ddealltwriaeth oedd y byddent yn gwneud y gwaith draenio yn gyntaf!
• Dylem ofyn i Eifion Bowen, Mark James, a’r Adran Priffyrdd i ddod i un o’r cyfarfodydd hyn er mwyn trafod y sefyllfa a dangos iddynt nad ydym, fel pentref, yn hapus â’i swyddogion.
Clwb Garddio
Adroddiad gan Julian Tandy
• Mae crochenni blodau a phlanhigion eraill yn cael eu paratoi gan aelodau o’r Clwb Garddio ar gyfer diwrnod y te mefus.
• Mae planhigion, potiau a chompost wedi eu rhoi yn nwy ysgol y wardiau er mwyn i’r plant gael rhywbeth i’w blannu ac i dyfu arno. Gellir gosod y rhain mewn categori arbennig yn Sioe Flodau Penygroes.
• Mae cynllun plannu ar gyfer yr ardd gymunedol wedi ei gwblhau. Mae angen dyfynbrisiau arnom am y planhigion, y gwaith ‘adeiladu’, a’r gwaith tirlunio ar y safle.
• Cadarnhawyd mai Gorffennaf 22ain fydd y dyddiad y Sioe Flodau, yn y Clwb Rygbi, a gellir dod ag eitemau i’w harddangos rhwng 10am -12:30 pm.
Swyddog Datblygu
• Mae Siân Thomas yn cydweithio ag Yvonne er mwyn llunio cyllideb ac edrych ar gynllunio ariannol, ond mae’r swyddog oedd yn ein cynorthwyo yn MCG wedi gadael ei waith.
• Awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwneud hyn cyn gynted â phosib gan y gallai swyddog datblygu wneud llawer mwy ar gyfer y gymuned.
Hysbysfwrdd
• Mae Yvonne Watkins wedi bod yn siarad â MCG er mwyn gosod hysbysfwrdd y tu allan i’r neuadd, fel sydd yng Ngorslas.
• Rydym yn croesawu syniadau am yr hyn yr hoffech eu gweld, gan gynnwys hanes y Pentref a newyddion lleol a.y.y.b.
Unrhyw Fater Arall
• Ni fydd y diwrnod hwyl yn mynd yn ei flaen, ond yn hytrach, bydd diwrnod te mefus yn cael ei gynnal ar Orffennaf 8fed, gyda stondinau y tu fewn neu y tu allan i’r neuadd.
• Cafwyd barbiciw yr wythnos ddiwethaf, ac mae arian wedi dechrau dod i mewn yn araf bach.
• Mae croeso i unrhyw un sydd am ddod i’r cyfarfod codi arian yn nhafarn y Farmers ddydd Iau.
• Cwestiwn i Siân o’r llawr ynghylch y tir yn Saron ger Llandybie. Mae’r ffordd newydd wedi ei gosod, ond nid yw’r cloddiau wedi eu hail osod. A ydym ni’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen yno?
• Mae Siân wedi derbyn e-bost, ac maent ar hyn o bryd yn nwylo cyfreithwyr y cyngor a pherchnogion y tir.
• Cwestiwn o’r llawr ynghylch y clwb cerdded. Mae’n rhaid i Mark Durdin i gwblhau cwrs cyn y gallwn fynd ar daith gerdded sydd wedi ei hyswirio gan y cyngor, ac nid yw wedi derbyn manylion am y cwrs eto.
• Cadarnhaodd y Trysorydd fod gan y Fforwm ychydig dros £2,000. Bydd £500 yn cael ei roi i’r Prosiect Ieuenctid.
• Gofynnodd y Cyng. Siân Thomas i’r Fforwm i siarad â phob cymdeithas yn y Ward, a gofyn iddynt i lunio llythyr o gefnogaeth os yw Penygroes yn mynd i gyflwyno cais am swyddog datblygu.
• Dywedodd y Cadeirydd y bydd yn rhaid cydlynu hyn gan fod yna nifer o grantiau y bydd yn rhaid gwneud cais amdanynt.
• Dangosodd Marie Hughes-Jones i bawb a oedd yn bresennol, beth y mae cymunedau eraill yn ei wneud gyda’u cylchlythyron lleol. Bydd yna gostau sefydlu, ond gall busnesau lleol gefnogi. Oes cyllideb ar gyfer hyn? Mae angen casglu gwybodaeth a chysylltu â busnesau lleol er mwyn asesu diddordeb a dichonolrwydd.
• Bydd y costau yn uwch os bydd yn lliwgar, ond mae angen rhywbeth sy’n fwy ac yn haws i’w ddarllen. Os gall cwmnïau lleol fod yn rhan o hyn, gall fod yn brosiect cynaliadwy.
• Os byddwn yn gwneud cais am grant, bydd yn rhaid i ni i fod yn ofalus gan fod llawer iawn o gyfrifoldeb ynghlwm wrth y grantiau.
• Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynnal cyfarfod bach gyda phedwar neu bump o bobl er mwyn trafod y sefyllfa o ran gwneud cais am grant. Cytunodd Julian Tandy i gadeirio’r cyfarfod, a chytunodd Eleri Davies, Marie Hughes-Jones ac Yvonne Kelly i fod ar is-bwyllgor.
Daeth y cyfarfod i ben, a bydd y cyfarfod nesaf ar Orffennaf 11eg yn Neuadd Caerbryn.