Tue 11 Jul 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM
Blaenau, Caerbryn, Penygroes
Cyfarfod, 11 Gorffennaf 2006
Cofnodion
Presennol
Rhestr ar ffeil
Ymddiheuriadau
Alun Lewis
Marie Hughes-Jones
Julie Owen
Phil Owen
Codwyd pwynt o’r llawr yngly^n â chyrhaeddiad hwyr y cofnodion. A fyddai modd eu hanfon ynghynt, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cyrraedd ar ddiwrnod y cyfarfod. Cadarnhawyd fod y cofnodion wedi eu hanfon allan mewn da bryd, er bod yna bobl a oedd dal heb eu m.
Cofnodion o’r Cyfarfod diwethaf
Cytunwyd fod y cofnodion yn adlewyrchiad cywir o’r cyfarfod diwethaf.
Materion yn Codi
Diweddariad ar Bafiliwn yr Ieuenctid
• Mae’r llythyr,.sy’n gwrthod cynnig gan grwp Mr Sutton i ymuno â hwy wedi ei ysgrifennu, ac rydym yn aros iddo gael ei lofnodi.
• Dywedodd Eleri Davies nad oedd wedi cysylltu ag Alana & Cindy o Fenter Cwm Gwendraeth. Gofynnwyd i Huw i siarad â hwy a dweud iddynt gysylltu ag Eleri os oes angen ei chymorth.
• Mae agoriad y Pafiliwn (prosiect ieuenctid) wedi ei ohirio tan fis Medi.
Y Sefyllfa yngly^n â’r Cais am Grant
• Mynychwyd y cyfarfod gan 2 aelod o staff MCG, Eleri, Yvonne, Julian a Cyng. Thomas. Roedd staff Menter yn barod iawn eu cymorth.
• Mae yna bosibiliadau ar gyfer y clwb garddio; maent yn disgwyl dyfynbrisiau ar hyn o bryd.
• Mae’r prosiect i osod hysbysfwrdd y tu allan i’r Neuadd yn symud ymlaen gan fod llythyron o gefnogaeth wedi eu derbyn
• Mae angen 6 llythyr o gefnogaeth o fudiadau a grwpiau cymunedol eraill o fewn y pentref.
• Mae gan y Clwb Garddio lythyron o gefnogaeth oddi wrth y Cyng. Siân Thomas.
• Bydd grwpiau lleol yn derbyn llythyron yn fuan yn gofyn am lythyron o gefnogaeth.
Cylchlythyr
• Rydym yn gwneud ymholiadau ynglyn â chylchlythyr cymunedol, o bosibl un lliw, maint A4 a fyddaIi’n cael ei ariannu’n rhannol gan fusnesau lleol.
• Cyn symud ymlaen, byddwn yn cynhyrchu enghraifft drafft cyn argraffu copi llawn. Mae’n bosibl y bydd modd dod o hyd i grant i helpu i’w ariannu.
• Efallai byddai modd cael yr ieuenctid lleol i helpu i gynhyrchu’r cylchlythyr.
• Ar hyn o bryd, gall gymryd rhwng 2 ddiwrnod ac wythnos i gynhyrchu ein cylchlythyr.
• I gychwyn, rydym yn bwriadu cynhyrchu rhifyn misol, neu chwarterol, a fyddai o bosibl yn troi’n fisol, os oes yna ddigon o gefnogaeth, a.y.y.b.
• Byddai’n ddefnyddiol i gynnwys grwpiau eraill (y Clwb Rygbi, a.y.y.b.) er mwyn ei wneud yn debycach at gylchgrawn cymunedol cyffredinol, yn hytrach na chylchlythyr y Fforwm.
Clwb Cerdded
• Dywedodd Mark Durdin ei fod dal yn disgwyl i gwrs hyfforddi gael ei drefnu cyn y gellir cynnal unrhyw deithiau cerdded ‘swyddogol’.
• Gellir ond cynnal teithiau cerdded anffurfiol, gan na fydd neb yn eu trrefnu nag unrhyw yswiriant.
• Ni fyddwn yn gallu hysbysebu’r teithiau cerdded hyn gan fyddai hynny’n golygu nad yw’r daith yn anffurfiol.
Datblygiad Protex
• Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynglyn â’r datblygiad, a fyddent gystal â ffonio aelod o’r Is-bwyllgor, neu fynd i un o’r cyfarfodydd a siarad â hwy yn uniongyrchol. Yn nghyfarfod diwethaf y Fforwm, ni chafwyd llawer o atborth, ond dilynwyd yr adroddiad gan drafodaeth hir o’r llawr ynglyn â digwyddiadau nad oedd yr Is-bwyllgor yn ymwybodol ohonynt.
• Mae’r Is-bwyllgor yn cwrdd yn nhy Marie ar y nos Iau cyn cyfarfod y Fforwm.
• Bydd rhybuddion ynglyn â chyfarfodydd, a.y.y.b. yn cael eu gosod ar hysbysfyrddauer mwyn rhoi gwybod ymlaen llaw i bawb.
Noson Gemau
• Aeth y noson yn dda iawn, er na pharhaodd yn hir iawn. Roedd y wal ddringo yn hynod o lwyddiannus, a rhoddodd hyd yn oed Alun gynnig arni.
• Byddai wedi bod yn well petai’r plant wedi cael eu galw allan i’r wal yn ôl eu hoedran, gan mai’r wal a denodd y ddiddordeb mwyaf.
• Dywedodd rhai mamau nad oedd yna ddigon ar gyfer plant bach iawn.
• Roedd pethau’n gweithio ar eu gorau pan oedd yna rhywun i gymryd yr awennau ar gêm er mwyn dysgu ac annog y plant.
• Awgrymwyd cael ambell i wers ar sut i chwarae’r gemau ymlaen llaw.
• Roedd yna fwy o bobl hyn y llynedd, ond mwy o blant eleni, yn bennaf gan fod y wal ddringo wedi creu cynnwrf mawr ymlaen llaw.
• Mae’n bosibl fod cynifer â 100 o bobl wedi mynychu. Dywedodd sawl mam y hoffent weld nosweithiau o’r math yn cael eu trefnu’n fwy aml.
• Roedd y bowlio’n boblogaidd iawn gyda phobl o bob oedran a mwynhaodd aelodau’r Clwb Bowlio Dan-dô ddysgu’r plant.
• Awgrymwyd o’r llawr y dylid cynnal noson gemau arall cyn diwedd yr haf, ond roedd yna bryderon ynglyn â marchnata’r weithgaredd i blant yn ystod gwyliau’r haf.
• Huw i wneud ymholiadau ynglyn â’r posibilrwydd o drefnu noson gemau arall (neu brynhawn Sadwrn). Bydd angen penderfynu cyn cyhoeddi’r cylchlythyr nesaf, neu aros nes i’r plant ddychwelyd i’r ysgol.
Datblygiad y Emlyn (diweddariad byr)
• Nid oes llawer yn digwydd ar hyn o bryd ar wahân i wastadu’r tir.
• Ni achoswyd unrhyw broblemau gan i’r dwr lifo’n syth i mewn i’r pwll cronni.
• Rydym yn gobeithio gwahodd John Taylor i gyfarfod nesaf yr Is-Bwyllgor.
• Nodwyd yn y cofnodion fod y Cadeirydd fod i ysgrifennu i John Taylor, ond nid oes newyddion pellach ar hynny.
• Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi fod y safle’n glir.
• Anfonwyd samplau i ganolfan brofi yn Cross Hands, ond rhedir y ganolfan gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae yna ganolfan annibynnol ym Mhontypridd.
• Mae’r offer trwm yn parhau i weithio o’r bore bach. Roedd ganddynt gytundeb 7 wythnos o hyd, ond maent erbyn hyn yn ei 10fed wythnos. The heavy equipment is still operating from early in the morning. They had a 7-week contract but are now into their 10th week. Roedd Victoria Keen fod i ddod i lawr os oedd y swn yn parhau. Mae rhai trigolion yn cadw dyddiadur ar swn a llygru llwch.
• Ni chodwyd muriau distewi gan fod hynny ond yn amodol petai yna gloddio am lo.
Clwb Garddio
• Roedd stondin gan y Clwb Garddio yn y Diwrnod Te Mefus. Roedd y stondin ar safle da y tu allan i’r fynedfa, a oedd yn dangos i’r bobl fod yna pethau’n digwydd yn y Neuadd. Cynhelir y sioe flodau ar 22ain Gorffennaf yn y Clwb Rygbi. Mae angen gwirfoddolwyr i bostio taflen hyrwyddo’r sioe drwy drysau’r pentref.
• Bydd y basgedi crog yn cael ei beirniadu wythnos cyn y sioe. Gosodwyd gwybodaeth ar y hysbysfyrddau.
• Bydd yna wobrau ar gyfer y ceisiadau gorau.
Unrhyw Fater Arall
Diwrnod Te Mefus
• Daeth nifer dda o bobl. Cododd Pwyllgor Apêl yr Urdd bron i £600 tuag at yr Eisteddfod.
Hysbysfyrddau Pentref
• Mae pentrefwyr Penygroes sy’n byw bron milltir i ffwrdd i lawr Heol Waterloo ac nid ydynt o fewn cyrraedd hawdd i hysbysfwrdd.
• Oes yna unrhyw dir cymunedol i lawr yn rhan hynny’r pentref a faint fyddai gosod hysbysfwrdd yn ei gostio?
• Ar waelod Heol Waterloo Road, heibio’r datblygiad tai newydd, ymddengys fod yna weddillion arwydd ‘Penygroes Croeso’. A fyddai modd defnyddio’r darn hwn o dir ar gyfer hysbysfwrdd newydd?
• Ydy’r darn hyn o dir yn eiddo i’r cyngor ac ydyw ar y ffin rhwng Benygroes a Chapel Hendre?
• A fyddai’n well i’w osod wrth ymyl yr arosfan bws ar Heol Spïen? Mae mwy o bobl yn debygol o’i weld yno.
• Mae yna arosfan bws arall ychydig ychydig nes lawr ger Bryn Glas.
• Os oes yna arosfan concrid, gellir Os oes yna arosfan concrid, gellir osod hysbysfwrdd arno.
Hyfforddi
• Darllenwyd lythyr oddi wrth Craig Parnell ynglyn â darparu hyfforddiant cymorth cyntaf i’r ieuenctid am £120 y sesiwn.
• A oedd gan Alun hyn mewn golwg ar gyfer y Clwb Ieuenctid?
• Mae hwn yn ddrud am un sesiwn; gallai Ambiwlans St Ioan wneud hyn am lai o gost?
• Gallwn ni ddod o hyd i arian i dalu am hyn o ffynhonell arall? Byddai angen mwy nag un sesiwn arnom. Faint o bobl fyddai’n cael eu cynnwys yn y £120? Ateb: Deg.
• Byddai angen mwy nag un sesiwn hyfforddi i gwblhau’r cwrs.
• Gallwn ni ricriwtio digon o bobl ifanc i fynd ar y cwrs. Os nad oes yna ddigon, ni fydd yn werth ei gynnig.
• Copi o’r llythyr hyfforddiant i Huw.
• Efallai byddai modd i ni wahodd Ambiwlans Sant Ioan yn ôl, gan mai nhw oedd arfer cynnig hyfforddiant yma.
Cyrsiau ar gyfieithu ar y Pryd
• Bydd y bwletinau’n cael eu gosod ar hysbysfyrddau ar gyfer unrhyw un sydd â diddorden mewn dysgu sut i wneud cyfieithu ar y pryd.
Caewyd y cyfarfod
Cyfarfod nesaf y Fforwm ar 12fed Medi 2006 yn Neuadd Caerbryn.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) 10fed Hydref 2006 yn Festri Capel Calfaria