Tue 10 Oct 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM
CYFARFOD CYFFREDINOL BLYNYDDOL
Neuadd Caerbryn, 10 Hydref 2006
COFNODION
Presennol
Sal Armstrong, Kevin Kelly, Marie Hughes Jones, Howard Watkins, Yvonne Watkins, Lynnette Reynolds, John Davies, Siân Thomas, Mair Griffiths, Yvonne Kelly, Julian Tandy, Mark Waygood, Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth,
Cyfieithu: Mrs Ann Thomas
Ymddiheuriadau
Alun Lewis, Peter Roberts
Adroddiadau Blynyddol
• Dim adroddiad o’r Cadeirydd oherwydd salwch, ond mae’n trafod gwella cyfleusterau gyda’r cylch ti a fi.
• Trysorydd – Yvonne Kelly. Mae’n disgwyl datganiad o’r banc, ond gan na fu yna symudiadau ariannol. £1,987.13, yw cyfanswm yr arian, gyda £500 ohono wedi ei neilltuo ar gyfer y Prosiect Ieuenctid. Mae’r arian a godir mewn digwyddiadau’n dal i fynd tuag at Eisteddfod yr Urdd.
• Angen gweithredu – diweddaru y cyfrif banc gan fod yr wybodaeth yn hen.
Etholiad Pwyllgor:
• Ar gyfer eleni, bydd yna ddau gyd-gadeirydd, sef Alun Lewis, a enwebwyd gan Julian Tandy a eiliwyd gan Yvonne Watkins, a Julian Tandy, a enwebwyd gan Siân Thomas, ac eiliwyd gan Marie Hughes Jones. Ni chafwyd gwrthwynebiad.
• Trysorydd; cynigiwyd Yvonne Kelly gan Julian Tandy, eiliwyd gan Howard Watkins. Dim gwrthwynebiad.
• Ysgrifennydd; cynigiwyd Mark Waygood gan Kevin Kelly, fe’i eiliwyd gan Yvonne Watkins. Ni chynigiwyd neb i fod yn is-ysgrifennydd a felly gadawyd y swydd yn wag a bydd yna gais arall i’w llenwi yn y cyfarfod nesaf.
• Phil Owen ac Alun Lewis i ymddiswyddo fel cyd-arwyddwyr, Mark Waygood i gymryd eu lle.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cynigiodd Lynnette Reynolds fod y cofnodion yn gywir, eiliwyd y cynnig gan Siân Thomas.
Materion yn Codi o’r Cofnodion
Prosiect y Pafiliwn
• Mae Elwyn Roderick o’r Clwb Rygbi yn barod i gyd-fynd ag unrhyw beth rydym yn ei drefnu ar gyfer y seremoni agoriadol.
• Rhoddwyd yr allweddau i un o’r hyfforddwyr – Neil Armstrong, wythnos ddiwethaf, gan fod eu gemau’n cychwyn ar Ddydd Sadwrn
• Mark Waygood i fynychu cyfarfod (ar ran y Fforwm) gydag Elwyn a’r Prosiect Ieuenctid ar Nos Lun 16eg Hydref yn y Clwb Rygbi. A allwn ni trefnu’r agoriad i gyd-ddigwydd â gêm cartref? Dylai amserlen y gemau fod ar gael erbyn Dydd Llun nesaf.
• Dylwn geisio cael cymorth Radio Sir Gaerfyrddin a phapurau lleol i farchnata’r digwyddiad. Efallai bod modd gwahodd chwaraewr o Lanelli i agor y prosiect.
• Y Prif Weithredwr oedd yn gyfrifol am wneud yn siwr ein bod yn cael y grant.
• Mae yna bryderon y byddai gêm rygbi yn cymryd dros yr agoriad, ond rhaid i ni ei wneud yn ddigwyddiad ar y cyd. Mae hwn yn ymgyrch a digwyddiad cymunedol.
• A fyddai’n bosibl i’w drefnu o gwmpas Calan Gaeaf, neu ar Ddydd Sul, - efallai’r 5ed Tachwedd, ar ôl gêm ieuenctid? Efallai byddai modd trefnu arddangosfa dân gwyllt?
Hysbysfwrdd
• Mae Yvonne wedi derbyn llythyr gan Ysgrifennydd y Neuadd Goffa yn datgan fod ganddynt prydles 99 mlynedd o hyd ar y tir, a gellir ei gweld os oes angen prawf.
Datblygiad yr Apostolic
• Mae Dwr Cymru yn gwrthwynebu cais gan yr Eglwys Apostolaidd gan fod yna broblem o ran dwr. Eto i gyd, mae’r perchnogion wedi dweud na fyddant yn cysylltu’r tai i’r prif gyflenwad ddwr tan 2010-12. Mae Dwr Cymru’n ddigon hapus â’r cynllun, ar yr amod nad ydynt yn cysylltu unrhyw dai â’r prif gyflenwad cyn iddynt orffen y gwaith i gyd.
• Mae Siân wedi cysylltu â Jonathan Fearn, Adran Rheoli Eiddo a darllenodd e-bost manwl oddi wrtho.
• Yn fyr, mae’r Cyngor yn dal prydles 999 mlynedd ar y parc ar gyfer dibenion hamdden. Ni chytunwyd ar delerau ar gyfer gwerthu na chaniatâd hawliau dros y tir, ac nid yw’r Eglwys Apostolaidd wedi cysylltu â’r Cyngor yngly^n â gwneud hyn. Byddai’n rhaid iddynt hysbysebu am bythefnos o’r fron ac wedyn ystyried unrhyw wrthwynebiadau.
Os bydd yr Eglwys Apostolaidd yn methu â chael caniatâd cynllunio, bydd rhaid iddynt gysylltu â’r Adran Asedau. Byddai’n rhaid iddynt hysbysebu’r cais.
• Mae sôn fod gan ddatblygwr lleol ddiddordeb ym Mhant-y-Blodau a gyda datblygiad mawr, byddai angen cylchfan ar Heol Waterloo.
• Mae’r swyddog cynllunio wedi dweud y bydd yn dweud y bydd yn sôn am ddatblygiad Pant-y-Blodau wrth yr Eglwys Apostolaidd, gan y byddai’n achosi llai o drafferthion iddynt.
• Byddai gan John Protheroe Thomas wybodaeth ynglyn â wneud ‘rhodd’ o’r tir i’r Apostolics. Efallai ei fod yn aros i weld a chaiff yr Eglwys Apostolaidd ganiatâd cynllunio, er mwyn iddo ei ddefnydd er dibenion ei hun.
• Nid oes angen prawf o berchnogaeth arnoch i gyflwyno cais am gynllunio, ond mae cyfreithwyr yr Apostolics wedi penderfynu mai’r Eglwys sydd berchen y tir a bod ganddynt achos digon cryf
• Nid oes yna unrhyw sicrwydd y bydd teulu John Protheroe Thomas yn herio’r cais am cynllunio fodd bynnag.
• A fyddai modd gwneud rhywbeth â’r tir gan y Clwb Garddio, fel alotment?
• Mae Adran 106 yn dweud fod rhaid i unrhyw un, sy’n datblygu tir gan godi dros 20 o dai arwyddo Adran 106, sydd gwerth £1,000 y ty.
• Cynigiwyd arian i ddatblygu’r parciau lleol, yn cynnwys Penygroes a Gors Ddu. Mae datblygwr lleol, sydd wedi arwyddo cytundeb Adran 106 wedi cytuno i ddarparu mwy o gyfarpar ar gyfer yr ieuenctid, yn cynnwys hanner piben ar gyfer sglefrfyrddwyr.
• Bydd goleuadau’n cael eu gosod diolch i gyfraniad ariannol o Gyngor Cymuned Llandybïe.
• Nid yw’r Apostolics yn dymuno adeiladu heol trwy eu mynwent hwy, ond maent yn ddigon hapus i adeiladu heol trwy lle chwarae ein plant.
• Gallwn blannu planhigion yn parc, ond i’r cyngor wybod beth yw’r sefyllfa ynglyn â chynnal a chadw. Pam na allwn ni adael i’r Prosiect Ieuenctid greu a chadw gardd?
Hysbysfwrdd
• Nid yw’r cyngor yn berchen ar unrhyw dir ar Heol y Bryn. Byddai’n syniad petai trigolion lleol yn cysylltu â’r Swyddfa Gofrestri Tir a cheisio canfod perchennog unrhyw dir y byddai o bosibl yn addas ar gyfer hysbysfwrdd.
Diweddariad ar Safle’r Emlyn
• Nid oes dim waith wedi ei wneud ar y safle ers 3 wythnos.
• Bu yna gwynion ynglyn â’r dwr y tu ôl i Heol Norton, rhwng Rhif 60 a Rhif 100.
• Nid yw’r broblem wedi ei datrys, a’r wythnos hon, diolch i’r glaw, ni chafwyd dim ond gwynion. Mae’r glaw wedi rhoi’r system dan brawf ac mae wedi ei phrofi i fod yn ddiffygiol.
• Mae yna broblem arall ar Heol Gors Ddu, lle mae dwr wedi golchi ysgyrion allan i’r heol.
• Mae rhai pobl o’r farn y gallai’r datblygiad gael ei ohirio am 3 blynedd neu fwy. Efallai fod yna reol sy’n cyfyngu ar ba mor hir y gall ddatblygwr aros cyn gosod seiliau.
• Lleolir Penygroes ar fryn ac mae’r dwr yn rhedeg i lawr i Gorslas, Blaenau, Cwmgwili a Cross Hands. Ni ddylai’r dwr fod yn rhedeg i lawr Heol Waterloo, ond dyna yn union beth sy’n digwydd.
• Nid yw’r cynlluniau manwl ar gyfer y tai wedi eu cyflwyno hyd yn hyn, felly, ni all Dwr Cymru wneud dim ar hyn o bryd.
Baeddu Cwn
• Mae Siân wedi anfon samplau o’r baw a adawyd ar y palmant rhwng Sgwâr Penygroes a’r Neuadd.
• Mae’r Cyngor yn dweud eu bod wedi bod allan yn glanhau’r ardal.
• Mae ceffylau wedi bod yn baeddu yn yr ardal, ond mae hynny’n iawn, gan nad ydwy’n niwediol. Mae gadael baw cwn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon, gan fod yna feirysau ac afiechydol ynddo.
• Mae’r arwyddion ynglyn â baw cwn wedi eu harchebu a byddwn yn eu codi unwaith y byddant ar gael.
Digwyddiadau ar gyfer y Dyfodol
• Mae angen penderfynu ar ddyddiadau ar gyfer y Ffair Nadolig a’r Noson Chwaraeon.
• Mae yna Ffair Grefftau yn y Neuadd Goffa a10fed Tachwedd, yn cychwyn am 7 y.h. yn fwy na thebyg.
• Mae yna hefyd Gymanfa Fodern yn y Neuadd ar 29ain Hydref.
• Mae’r Ffair Grefftau’n codi arian ar gyfer yr Urdd, ond mae’r Ffair Nadolig yn codi arian ar gyfer y Fforwm.
• Nid oes ddyddiad wedi ei nodi ar gyfer Ffair Nadolig yr Ysgol, hyd yn hyn, ond bydd rhaid sicrhau nad oes yna wrthdaro amser.
• Mae Mark Waygood i adrodd yn ôl gyda dyddiad erbyn y cyfarfod nesaf.
• Angen gosod dyddiad ar gyfer y noson gemau. Byddai’n bosibl i’w chynnal ar ddiwrnod agor y pafiliwn? Efallai byddai’n well i drefnu un ar gyfer y Flwyddyn Newydd.
• Byddai’n well petai’r Noson Gemau yn fwy drefnus, gyda chystadleuthau a gwirfoddolwyr wedi eu hyfforddu er mwyn dysgu pobl sydd eisiau chwarae..
• Gwirfoddolodd Yvonne Kelly i ddysgu pobl sut i chwarae’r gemau er mwyn gwneud y Noson yn fwy drefnus.
• Mae’n debyg mai Dydd Sadwrn yw’r diwrnod gorau gan nad oes llawer yn ddigwydd pryd hynny. Efallai Sadwrn 2ail neu 9fed Rhagfyr.
• Mae angen rhwng 4 a 6 o bobl i wirfoddoli i ofalu am y gemau ar y dydd. Ni allwn adael i’r plant i chwarae ar ben eu hunain heb gyfarwyddyd.
• Cyflwynodd Mark Waygood y cerdyn gwybodaeth a chafwyd cyfle i weld enghraifft. Byddai’n bosibl i’w ddanfon i bob cartref er mwyn ei gadw er gwybodaeth ar gyfarfodydd, mudiadau, rhifau a digwyddiadau. Yn ddelfrydol, dylai’r cerdyn fod yn barod erbyn mis Ionawr.
Unrhyw Fater Arall
• Cynigiwyd gyfle I unrhyw un sy’n dymuno mynychu sesiynau hyfforddi ar sut I fod yn gadeirydd, ysgrifennydd, a.y.y.b.
• Gofynnodd Marie Hughes Jones a oes angen ail-ethol is-bwyllgor yr Emlyn. Byddai angen i aelodau’r is-bwyllgor ei hun i ddod i gytundeb arno.
• Holodd y Cadeirydd am wybodaeth ynglyn â datblygwyr Pendragon.
• Dywedodd Siân Thomas mai gyda’r cwmni hwnnw y mae’n trafod Adran 106 ynglyn â rhodd i’r parciau.
• Os ydynt yn adeiladu tai, mae’n bosibl y bydd angen tanciau carthion arnom oherwydd y problemau â’r dwr.
• Y broblem yw eu bod yn codi’r tir a fu’n amsugno’r dwr ac yn rhoi concrid yn ei le.
• Bydd Siân yn cwrdd â’r datblygwr ar Ddydd Iau, a gallai wneud cwyn ‘incognito’ ynglyn â’r dwr.
• Mae yna dwll mawr yn yr heol (sy’n cael ei drwsio’n rheolaidd) ar waelod Heol Waterloo Road, lle troir i’r chwith ar ôl Capel Hendre i gyfeiriad y Coopers. Mae Siân yn cwrdd â’r Cynghorydd lleol yfory a byddant yn trafod y mater.
• A fyddai pawb gystal â dod â’u syniadau ar gyfer digwyddiadau’r flwyddyn nesaf i’r cyfarfod nesaf. Mae yna grant gwerth hyd at 100% o gost digwyddiadau. Bydd Huw yn gofyn i rywun i ddod i’r cyfarfod nesaf i drafod y mater fforwm/ Rhaid i’r digwyddiadau fod wedi eu hanelu at y gymuned gyfan, nid un carfan yn unig.
• Awgrymwyd cynnal gwyl ganu drwy’r oesoedd.
• Rhaid cyflwyno’r cynllun erbyn diwedd mis Mawrth er mwyn ceisio am y grant. Mae sawl cymuned yn cynnal digwyddiadau â phobl enwog. Mae’r grant yn ein galluogi i gynnal digwyddiad mawr a chodi arian tuag at y Fforwm.
• Cafodd Llanddarog sioe a welodd mil o bobl yn talu £7.50 yr un, felly mae yna botensial i wneud arian ar gyfer y Fforwm.
• Nid yw’n bosibl i gynnal digwyddiad mawr iawn ym Mhenygroes, ond byddai modd cynnal digwyddiadau llai mewn gwahanol bentref. Byddai digwyddiadau mawr yn achosi problemau o ran parcio
• Mae amser yn brin ac mae angen i ni gael syniadau cyn gynted â phosibl.
• Trefnwn cyfarfod ar gyfer Nos Wener, 20fed Hydref yn y Clwb Rygbi er mwyn trafod digwyddiadau posibl.
Caewyd y cyfarfod.
Cyfarfod nesaf – Nos Fawrth 14eg Tachwedd am 7, Festri Capel Calfaria