Tue 9 May 2006
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM
Neuadd Caerbryn Hall, 9 Mai 2006
Presennol
Alun Lewis (Cadeirydd), Julian Tandy, Mark Waygood, Siân Thomas, John Davies, Nicola Davies, Llinos Hindley, Lynnette Reynolds, Phil Owen, Huw Evans
Ymddiheuriadau
Mark Durdin, M. Griffiths, Sal Armstrong, Yvonne Kelly, Marie Hughes-Jones, Julie Owen
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf
• Noson Gemau – Wal ddringo i’w fwcio gan y Cyngor ar gyfer diwedd mis Mai.
• Ffurflenni ar gyfer grant busnes wedi eu llenwi.
• Cylchlythyr wedi ei gwblhau, 500 copi wedi eu paratoi, bydd gwirfoddolwyr yn eu danfon.
• Baw-cwn – Rhagor o gwynion ym Maesglas. Mae yna alw am fin arbennig a mwy o arwyddion. Dylwn ddilyn y ci yn ôl i’w berchennog a rhoi tocyn iddynt. Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu ers y cyfarfod diwethaf. Bydd yr erledigaeth gyntaf yn cael ei chyhoeddi yn y papur lleol.
• Clwb Garddio – mae cyfrif banc wedi ei agor.
Prosiect Pobl Ifanc – Diweddariad ar y Pafiliwn
• Dylai’r gwaith fod ar ben ymhen 2-3 wythnos. Hyd yn hyn, gwariwyd £83,000, sef cynnydd mawr ar yr £8,000 a addawyd ddwy flynedd yn ôl.
• Mae’r Pafiliwn wedi cael dau wynebgodiad yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf; gobeithio y bydd y gwaith yn parhau’n hirach y tro hwn er mwyn galluogi mwy o ddefnydd ohono.
• Mae datblygwyr Clos y Cwm a Gilfach y Gôg wedi addo arian i brynu offer newydd ar gyfer y parc a bydd datblygwyr safle’r Emlyn yn darparu gôl pêl-droed. Bydd y symiau ychwanegol hyn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad yn golygu fod £100,000 yn mynd tuag at offer a deunydd chwarae a phobl ifanc yn y pentref.
• Bydd yna le i rieni eistedd a bydd y lle chwarae wedi ei rannu rhwng y plant iau a’r rhai hyn.
• Byddwn yn ymgynghori â’r plant ynglyn â pha offer yr hoffent ei gael yn y parc.
• Mae gan y Clwb Ieuenctid £300 yn fwy i’w wario ar adnoddau.
• Roedd yna gyfarfod cyhoeddus yn Llandeilo ar 27ain Ebrill ynglyn â datblygiad ar safle’r Eglwys Apostolaidd. Dylwn wybod beth yw’r canlyniad ymhen mis
• NI allwn oddef heol a rhagor o draffig o flaen y parc. Petai bloc toiledau’n cael eu codi yn y parc, mae yna berygl y byddai yna bryderon ynglyn â diogelwch, e.e. nodwyddau defnyddwyr cyffuriau’n cael eu taflu.
• Mae’r Fforwm wedi addo arian ar gyfer yr ieuenctid.
Diweddariad ar y Clwb Garddio
• Roedd Diwrnod Allan y Gwanwyn ar 15 Ebrill i gerddi Cwm Deri a Colby Woodland yn llwyddiannus dros ben.
• Bydd Lynnette Reynolds yn cydlynnu’r stondin yn ystod Diwrnod Hwyl Parc Penygroes. Disgwylwn werthu planhigion compost a gadael pobl i wybod ynglyn â’r gystadleuaeth basgedi crog ar 22ain Gorffennaf.
• Cysylltwyd â Mr Morgan, pennaeth Ysgol Penygroes iofyn a fyddai modd i’r plant dyfu planhigion ar gyfer y sioe flodau. Os bydd popeth yn iawn, bydd Ysgol Blaenau’n derbyn yr un cynnig.
• Cynhaliwyd cyfarfod â Grwp Mynediad I’r Anabl Sir Gaerfyrddinynglyn â chynlluniau ar gyfer yr Ardd Gymunedol. Yn gryno, bydd ond rhaid symud yr ardd ychydig troedfeddau i lawr. Mae Eleri Davies yn parhau i weithio ar y dewisiadau cyllido ac mae’r Clwb wrthi o hyd yn datblygu’r cynllun (bydd gwell amcan o’r cost erbyn canol Mai).
• Bydd y plant yn cymryd than lle bynnag bo modd, yn cynnwys y Clwb Rygbi a’r Sioe Flodau.
Datblygiadau Adeiladu – Diweddariad Cryno
• +Nid yw’r tas o sbwriel ar Heol Norton wedi ei glirio o hyd.
• Mae rhyw fath o hylif seimlyd ar wyneb y ddaear wrth gefn cartrefi ar Heol Norton. A fyddai modd i Phil Owen drafod hyn â’r Cyng. Siân Thomas i weld a dylid cysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd.
• Mae pryderon yn parhau ynglyn â chyflwr Heol Waterloo a Heol Caerbryn yn dilyn y gwaith diweddar. Mae’r pwyllgor yn teimlo fod angen sicrhad y bydd y datblygwyr yn trwsio ar eu hôl gan nad ydynt wedi trwsio Heol Gors-Ddu wedi iddynt osod llwybr cerdded cyhoeddus ar hyd safle’r Emlyn. Mae’r heol mewn cyflwr gwael iawn erbyn hyn ac yn llawn tyllau.
• Bydd angen diweddariad ar y tirlunio a’r tanciau dros-dro.
• Mae’r cynigion datblygu’n cynnwys y canlynol: Ysgol Gymunedol (a ellir ei droi’n ganolfan gymunedol y tu allan i oriau’r ysgol, tafarn/clwb, 250 o gartrefi yng ngymal meddygfa newydd, deintyddfa a chartref i’r henoed.
• Os cynigir codi ysgol newydd, mae angen ei agor cyn adeiladu’r tai newydd gan nad oes yna ddigon o le yn Ysgol Penygroes.
• 15 mlynedd yn ôl, awgrymodd Cynllun Datblygu Unedol y Cyngor Sir (dogfen gymhleth iawn) creu ardal drefol o Cross Hands i Rydaman, ond nid yw hyn yn cyfateb ag anghenion pobl leol ac mae’n debygol o roi pwysau difrifol ar yr is-adeiladedd lleol.. Mae yna dagfeydd mawr eisoes ar sgwâr Gorslas a bydd hyn yn gwaethygu os oes gan pob cartref 2/3 car (mae ond angen darparu ar gyfer 2 gar i bob ty.
• Ar hyn o bryd, mae yna le ar gyfer 700 o gartrefi ym Mhenygroes
• Yn ffodus, mae’r Cyngor Cymuned wedi cymryd safbwynt cadarn iawn yn erbyn ceisiadau cynllunio lleol, gan fod gan y materion cynllunio hyn effaith ar fywydau.
• Bydd datblygiad y safle Apostolaidd (os caniateir iddo fynd yn ei flaen) yn achosi problemau ychwanegol o gwmpas yr ysgol.
Ymgyrch i Farchnata’r Fforwm Lleol
• Mae’r Cyng. Siân Thomas wedi llunio dogfen, sy’n esbonio wrth bobl leol beth yw’r Fforwm a beth mae’n ei wneud. Bydd y rhain yn cael ei dosbarthu yn swyddfeydd post Penygroes a Blaenau ac yn cael eu gosod ar hysbysfyrddau lleol.
Cylchlythyr y Fforwm Ward – Y Ffordd Ymlaen
• Cafodd y prosiect ei awgrymu gan Marie Hughes-Jones a bydd rhaid gohirio ei drafod hyd at y cyfarfod nesaf, gan nad oedd yn medru mynychu’r cyfarfod hwn.
Unrhyw Fater Arall
• Mae llawer o lwybrau cerdded wedi eu blocio. Dylwn ni gau’r rhai a defnyddir lleiaf a chanolbwyntio ar y llwybrau gwell sy’n weddill, yn enwedig os ydynt yn arwain at safleoedd picnic? Gall y gost o glirio, neu gau llwybrau cerdded fod yn eithriadol o uchel.
• Mae Adar Ysglyfaethus wedi dechrau dychwelyd i Benygroes. Mae angen Gorchymyn Cadwriaeth ar yr unig coed aeddfed sydd ar ôl ar safle’r Annexe. Byddai angen i rywun gyflawni arolwg, a gallai hyn arwain at gwtogi ar nifer y tai. Os na wneir hyn, byddwn yn colli’r ychydig sydd ar ôl.
• Mae loriau oergell trymion yn defnyddio heolydd Waterloo a Gors-ddu> Oherwydd yr ynys traffig, mae’n anodd iddynt droi ar gyffordd heolydd Waterloo a Gorsddu gan godi cwestiwn ynglyn â diogelwch. Allwn ni ofyn i rywun ychmwilio i’r posibilrwydd o gael meserau arafu traffig ar hyd Heol Waterloo?
• Nodwyd fod llawer o geir wedi eu parcio’n wael ar hyd Heol Waterloo. Gofynnodd. Siân Thomas i gerddwyr i gadw cofnod o rifau cofrestri’r ceir sydd ar fai.
• Noson Gemau – Dewch â’ch syniadau ar gyfer gemau, cerdiau, sgitls, a.y.y.b. Daw Merched y Wawr i wneud y te a bydd Menter a gwirfoddolwyr eraill yn dod â gemau I’w chwarae y tu allan, os bydd y tywydd yn caniatáu hynny).
• Ci swnllyd yn cyfarth – Mae ci sy’n cyfarth yn cyson i’w glywed y tu ôl i rhif 12, Heol Norton.
• Arwr(es) lleol (Gwirfoddolwr(aig) y Flwyddyn Ward Penygroes) – NI ellir pleidleisio am swyddogion cyflogedig nac etholedigm e.e. Siân, Huw, pryd ar glud, a.y.y.b. Dyddiad cau yw 25ain Mai. Bydd angen cysylltu â’r papur lleol (neu anfon datganiad i’r wasg) i wahodd rhywun i ddod draw i wneud adroddiad ar y stori.
• Mae yna gyfarfod yn y Clwb Rygbi am 6.30 nos Iau, 11eg Mai ynglyn â sefydlu ail-fforwm. Gallai hyn achosi trafferthion a dad-wneud yr holl waith sydd wedi ei gyflawni. Dylai cynifer o bobl â phosibl fynychu.
Caewyd y cyfarfod
Cyfarfod Nesaf – Festri Capel Calfaria, 13eg Mehefin 2006