Wed 4 Apr 2007
Fforwm Ward Penygroes Ward Forum
Meeting Cyfarfod April 4 Ebrill 2007
Pafiliwn Cymunedol Penygroes Community Pavilion
COFNODION
Yn bresennol
Julian Tandy (Cadeirydd), Eleri Davies (Is-Ygrifenyddes), Phil Owen, Mair Griffiths, Siân Thomas, John Davies, Julie Owen, Les Devaney, Sarah Davies, Vicky Thomas, Yvonne Kelly, Huw Evans, Menter Cwm Gwendraeth, Martin Davies, Cyfieithydd
Ymddiheuriadau
Mark Waygood, Derrick Rouke
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Derbyniwyd y cofnodion fel rhai cywir o’r cyfarfod. Cynigiwyd gan Julie Owen ac eiliwyd gan John Davies
Materion yn Codi
Nid oes gan Yvonne Kelly y wybodaeth am gyllid ar gyfer swydd swyddog datblygu.
Prynwyd y pedair bord newydd ac maent yn y pafiliwn cymunedol.
Mae angen trefnu cyfarfod gyda’r Clwb Rygbi i drafod y defnydd ar y cyd o’r pafiliwn cymunedol.
Gweithredu: Phil Owen i drefnu cyfarfod.
Cyflwyno’r Swyddog Datblygu Cymunedol newydd
Cyfwelodd y Cynghorydd Siân Thomas, Julian Tandy a Peter Roberts 6 ymgeisydd ar gyfer y swydd 11 mis. Roedd y safon yn uchel iawn a rhoddwyd y swydd i Phil Owen.
Cyflwynodd Phil Owen, a gychwynnodd yn y swydd ar 2il Ebrill 2007, ei hunan. Mae’n byw ym Mhenygroes, mae’n drysorydd ac yn ddiacon yng Nghapel Calfaria, mae wedi bod ynghlwm wrth y Fforwm a bu’n ysgrifennydd am rai blynyddoedd. Mae wedi gweithio’n flaenorol i Dwr Cymru ac Ynni Adnewyddol.
Yn ei ddiwrnodau cyntaf mewn swydd mae wedi bod yn edrych am ofod i sefydlu swyddfa a bydd yn cwrdd â pherchennog Banc Lloyd sydd hefyd yn berchen eiddo arall a thir yn yr ardal er mwyn trafod dewisiadau posib. Mae e hefyd wedi cwrdd â swyddogion y fforwm ac wedi mynychu cyfarfod datblyugu’r parc yn gynt heddiw. Yn yr ychydig ddiwrnodau nesaf fe fydd yn cwrdd â’r swyddogion ieuenctid a rhai o’r bobl ifanc eu hunain.
Nod Phil yw cael trwydded fydd yn caniatáu iddo yrru bws mini. Gellir llogi bws mini cymunedol drwy Fenter Cwm Gwendraeth am dâl rhesymol.
Ei flaenoriaethau tymor byr yw:
• Datblygu taflen yn hyrwyddo teithiau cerdded a hawliau tramwy cyhoeddus o fewn y ward
• Llunio dyddiadur o’r digwyddiadau sy’n ‘mynd ymlaen’ yn y gymuned
• Clustnodi holl leoliadau’r gymuned a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial
• Adnabod y bobl sydd â chrefft yn y ward a’u hannog i redeg cyrsiau
• Helpu gyda threfnu digwyddiadau
• Codi arian drwy grantiau ac edrych ar gyfleoedd i gynnal y swydd y tu hwnt i’r nawdd cyfredol
• Cylchlythyr cymunedol yn gweithio gyda’r ieuenctid
Cyfarfod y Parc Hamdden
Cynhaliwyd cyfarfod yn gynt yn y dydd i drafod datblygiad llwybr gweithgarwch o gwmpas perimedr y caeau rygbi ac ardal chwarae/gweithgareddau/ campfa awyr agored wedi’i fwriadu ar gyfer oedolion ac ieuenctid hyn. Mae £45,000 ar gael drwy gytundeb Adran 106 ar gyfer datblygiad Pendragon. Mae gweddill yr arian yn rhwym wrth gais Sportslot.
Cynhelir diwrnod ymgynghori ar gyfer y gymuned ar 17 Ebrill 2007 yn y neuadd gymuned o12 ganol dydd tan 7 o’r gloch. Mae Menter Cwm Gwendraeth yn trefnu’r cyhoeddusrwydd ac fe ofynnir i’r bobl ifanc ddosbarthu hysbysiadau o gwmpas y pentref. Fe fydd Mr Sutton a Menter Cwm Gwendraeth yn datblygu holiadur ar gyfer y diwrnod.
Gofynnwyd i aelodau’r fforwm fod yn bresennol. Paratoir pamffled byr yn hyrwyddo cynlluniau presennol y Fforwm a’r cynlluniau i’r dyfodol.
Gweithredu: Julian Tandy a Mark Waygood i baratoi’r pamffledi.
Gofynnir i Mark Waygood barhau fel cynrychiolydd y fforwm ar grwp datblygu’r prosiect.
Mae nifer o ddatblygiadau eraill o fewn Penygroes sydd hefyd yn rhwym wrth gytundebau Adran 106 allai gyfrannu at ddatblygiadau i’r dyfodol mewn un o’r pum parc arall o fewn y ward. Eto nid oes datblygiadau wedi’u cynllunio fyddai’n rhwym wrth ddatblygiad Adran 106 ym Mlaenau a Chae’r Bryn.
Gardd Gymunedol
Ni fu unrhyw waith ar y safle o ganlyniad i’r tywydd. Mae angen 2 wythnos o dywydd da ar y contractwr i gyflawni’r holl waith. Dylai’r gwaith fod wedi’i orffen erbyn diwedd Ebrill 2007.
Mae aelodau’r Clwb Garddio wedi trefnu’u gwibdaith wanwynol i Sioe Malvern ar Fai 12fed 2007.
Noson Gemau
Bwriedir cynnal y noson gemau ar Fai 4ydd 2007 yn Neuadd Penygroes fel rhan o Wyl y Gwendraeth. Mae Menter Cwm Gwendraeth yn trefnu bod Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor Sir yn dod â naill ai’r ffrâm ddringo neu’r gêm pledu paent. Awgrymwyd eu bod hefyd yn dod â rhywbeth ar gyfer plant iau. Syniadau eraill ar gyfer y gemau yw:
• Y Clwb Bowlio i redeg gemau bowlio mat byr
• Tiddlywinks
• Gemau Cardiau
• Tipit
• Ludo a Frustration
• Snakes and Ladders
• Bingo, gallai cyfarpar fod ar gael yn Neuadd y Gât.
• Gwthio dimai a sgitls o’r Farmers
Cytunodd Mair Griffiths i gymryd gofal o’r lluniaeth. Darperir te, coffi, llaeth a bisgedi gan Fenter Cwm Gwendraeth. Bydd staff o Fenter Cwm Gwendraeth a swyddogion ifainc yn bresennol yn y digwyddiad.
Y tâl mynediad fydd 50c i oedolion ac 20c i blant.
Cynhelir cyfarfod yn dilyn y Fforwm nesaf ar Fai 2il 2007 i gwblhau’r trefniadau.
Y newyddion diweddaraf yn gryno
Datblygiad Apostolaidd
Mae’r materion yn ymwneud â’r tir yn dal dan ystyriaeth gan Adran Gyfreithiol yr Awdurdod Lleol.
Mae cais cynllunio am ddatblygiad arall rhwng Awelon a Gerynant ar Heol Caerbryn sydd gyferbyn â’r datblygiad Apostolaidd arall ar safle’r hen faes carafanau. Nid oes manylion ar gael hyd yn hyn. Ni roddwyd ystyriaeth i’r cais Apostolaidd gan y pwyllgor cynllunio gan ei bod yn ofynnol i’r adran briffyrdd ymgymryd ag ymchwiliad yn dilyn lefel uchel o wrthwynebiadau.
Safle’r Emlyn
Mae’r datblygwyr yn dal i aros i glywed oddi wrth y perchenogion tai ynghylch y lôn gefn. Fodd bynnag mae’r perchenogion wedi gwneud cais am gyfarfod gyda’r datblygwyr. Ymddengys mai Rhif 48 yn unig sydd â hawl gyfreithiol i’r tir.
Awgrymwyd bod Phil Owen yn cael ei gynnwys mewn trafodaethau.
Baw Ci
Mae Llinos Hindley a’r Cynghorydd Siân Thomas wedi llwyddo i gael erthyglau am y broblem barhaus hon yn y South Wales Guardian, Carmarthen Journal a’r Gwendraeth Star.
Bu newid yn y gyfraith sy’n caniatáu i berchenogion y cwn gaiff eu dal yn bawa gael eu dirwyo yn y fan a’r lle. Ni chaniateir cwn mewn ardaloedd chwarae nac ar feysydd chwarae ond nid oedd y Cynghorydd Thomas yn siwr a oedd caniatâd iddynt ar barcdir agored.
Mae nifer sylweddol o bobl yn defnyddio’r caeau rygbi ar fore Sadwrn i ymarfer eu cwn. Os cofnodir rhifau ceir gall y perchenogion gael eu holrhain drwy gyfrwng y DVLA
Unrhyw Fater Arall
8. Mae Menter Cwm Gwendraeth yn trefnu wythnos o weithgarwch glanhau’n cymunedau ar draws y cwm yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn ar Orffennaf 9fed 2007. Dyma brosiect partneriaeth rhwng Menter Cwm Gwendraeth, Cadwch Gymru’n Daclus ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Bydd amnest sbwriel yn Y Tymbl. Gofynnwyd i’r fforwm glustnodi prosiectau posib fyddai’n gwella’r ardal yn weledol ac yn cymell mwy o falchder yn yr ardal.
Yr awgrymiadau oedd;
• Glanhau ochrau’r nant ar Heol Caerbryn
• Cymryd agwedd fwy cadarnhaol i fod yn gysylltiedig â’r gystadleuaeth basgedi crog a’r Sioe Arddio
Gweithredu: Phil Owen i glustnodi 3 lleoliad ar draws y ward fyddai ar eu hennill o gael ymgyrch-lanhau ac adrodd nôl i’r cyfarfod.
9. Gofynnodd Yvonne Kelly am awgrymiadau ar gyfer prosiect er mwyn iddi allu ei roi gerbron Cyngor Cymuned Llandybie i’w ystyried yr wythnos nesaf. Mae arian ar gael oddi wrth ddatblygwyr y llinell bibell nwy.
Y syniadau a awgrymwyd oedd;
• Agor y llwybrau ger y nant ar Heol Caerbryn. Mae materion yn ymwneud â pherchenogaeth tir
• Yr Ardal Bicnic yn y coetir oddi ar Heol Maesgwyn. Nid yw hwn yn briodol am ei fod yn nwylo preifat
• Cysgodfan bws yng Ngorsddu ac ar Heol Waterloo. Mae’r rhain eisoes wedi cael eu rhoi gerbron am gysgodfannau yn eu lle
• Cyfrifiadur ac argraffydd ym mhob neuadd
• Yr ieuenctid i wneud cais am gyllid i ddatblygu’r pafiliwn
• Nawdd ar gyfer y pamffled teithiau cerdded a hawliau tramwy
Gweithredu: Cynhelir cyfarfod yn y Farmers ar Ebrill 10fed 2007 i drafod syniadau.
10. Cododd Julian Tandy broblem yn ymwneud â hawl tramwy na ellir ei defnyddio, a dynnodd i sylw’r Fforwm dros flwyddyn yn ôl. Mae rhan ganol yr hawl tramwy o waelod Heol Waterloo i Saron yn dal yn gaeedig o ganlyniad i nifer o ffensys weiren.
Gweithredu: Julian Tandy i gwrdd ag Yvonne Kelly i ddynodi rhif y llwybr a hysbysu’r Cyngor Cymuned a’r Cynghorydd Sian Thomas all ysgogi hysbysiad gorfodi
11. Daeth i sylw’r Fforwm fod meddygfa Meddygon Penygroes ar gyfnodau prysur yn gweithredu system lle mae meddygon yn rhoi galwad ffôn i gleifion fu mewn cysylltiad er mwyn trafod eu symptomau a’u cynghori ar y cwrs gweithredu mwyaf priodol ac a oes angen gwirioneddol iddynt ymweld â’r feddygfa.
Os nad yw cleifion yn teimlo bod y system hon yn gweithredu’n llwyddiannus dylent gwyno i’r Bwrdd Iechyd Lleol, Heol Cropin, Dafen, Llanelli.
12. Hysbysodd Julian Tandy yr aelodau y cynhelir protest yn erbyn y Ganolfan Pledu Paent, drws nesaf i Ysgol Farchogaeth Dinefwr, yn Llandeilo ar 5 Ebrill 2007.
13. Cynhelir diwrnodau ymgynghori y Bwrdd Iechyd Lleol ynghylch Gofal yn y Gymuned ym Mhontiets ar 17eg Ebrill 2007, 6pm i 8pm a 24ain Ebrill 2007, 2pm to 5pm. Cynhelir cyfarfod arall ar Fai 11eg a’r lleoliad i’w gadarnhau. Mae croeso i unrhyw un fynychu.
14. Mae Menter Cwm Gwendraeth yn trefnu ymweliad â Llandysul a Phontweli. Ymlaen am Landysul i ymweld â’r dref a dysgu am y gwaith gyflawnwyd yno dros y 10 mlynedd diwethaf. Maent wedi sefydlu nifer o wahanol brosiectau o fewn y dref. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb ymuno yn yr ymweliad gysylltu â Huw Evans ym Menter Cwm Gwendraeth.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Neuadd Gymuned Penygroes ar Fai 2il 2007 am 7pm.