Wed 2 May 2007
FFORWM WARD PENYGROES WARD FORUM
Pafiliwn Parc Penygroes Park Pavillion
Nos Fercher Wednesday
2 Mai May 2 2007
COFNODION
Presennol
Mark Waygood, Eleri Davies, Vicky Thomas, Peter Roberts, Lynnette Reynolds, Nicola Davies, Llinos Hindley, Amanda Davies, Les Devaney, Yvonne Kelly, Phil Owen, Mair Griffiths, Julie Owen, Huw Evans (Menter Cwm Gwendraeth)
Croeso
Esboniodd Mark Waygood nad oedd Julian Tandy yn gallu mynychu’r cyfarfod a’i fod wedi cytuno i gymryd y gadair yn ystod cyfnod ei absenoldeb.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cynigiwyd fod y cofnodion yn gywir gan Mair Griffiths; eiliwyd y cynnig gan Les Devaney.
Materion yn codi
Ni chodwyd unrhyw fater.
Adroddiad gan y Swyddog Datblygu
Rhoddodd Phil Owen adroddiad ar bedair wythnos gynhyrchiol iawn. Mae wedi sefydlu swyddfa yn ystafell gyfrifiaduron yn y neuadd gymunedol. Gellir canu cloch wrth y drws os ydyw ar glo ac arwydd i nodi pan fo Phil yn y swyddfa. Bydd llinell ffôn a band-eang yn cael ei gosod. Mae Phil hefyd wedi gosod dyddiadur ar-lein er mwyn i bobl gadw golwg ar yr hyn y mae yn ei wneud, ac ar ben hyn, ac mae wrthi’n sefydlu dyddiadur ar gyfer lleoliadau cymunedol a’r gweithgareddau a rhedir ym mhob un. Mae hefyd wedi;
• ceisio am arian o B&Q ar gyfer twbeiau blodau ar gyfer y 3 phentref
• cynorthwyo’r Eglwys Apostolaidd i ddod o hyd i arian i gyhoeddi llyfr ryseitiau
• helpu busnes cymdeithasol i ddod o hyd i gartref newydd er mwyn ei alluogi i ehangu
• cefnogi datblygiadau yn y parc
• helpu grwp pensiynwyr i wneud cais am arian
• gwneud ymholiadau yngly^n â’r posibilrwydd o adeiladu a chyllido estyniad i neuadd Penygroes.
• Ymholi I’r syniad o adeiladu cyfleuster rhyngrwyd galw-i-mewn o bosibl yn hen adeilad Banc Lloyds ar y sgwâr.
Hysbysfwrdd ar-lein
Mae Mark Waygood wedi datblygu hysbysfwrdd ar-lein yn hytrach na chylchlythyr ar bapur. Fe’i lluniwyd i fod yn gwbl ryngweithiol. Gall unrhyw un sydd wedi ymaelodi’n ychwanegu gwybodaeth am ddigwyddiadau, lluniau, a.y.y.b i’r safle. Arlwythwyd copïau o gofnodion o bob cyfarfod a gynhaliwyd yn 2006 i’r wefan ac mae yna adran ar gyfer digwyddiadau’r dyfodol. Ymhlith yr eitemau eraill, bydd disgrifiad swydd y Swyddog Datblygu Cymunedol.
Unwaith y bydd y wefan wedi ei chwblhau, bydd fersiwn Cymraeg yn cael ei lansio. £180 y flwyddyn yw’r gost o’i chynnal.
Y cyfeiriad yw www.crosshandslife.co.uk/penygroescommunitynews/
Mae’r wefan hefyd yn cynnig mynediad i ddyddiadur y Swyddog Datblygu a dyddiadur y lleoliadau cymunedol.
Diwrnod Ymgynghorol Parc Penygroes
Cynhaliwyd digwyddiad ymgynghorol llwyddiannus iawn i drafod cynlluniau posibl ar gyfer y parc. Ymatebodd 200 o bobl. Mae Menter Cwm Gwendraeth wrthi ar hyn o bryd yn coledu’r ymatebion ac yn paratoi adroddiad yn seiliedig ar y canlyniadau. Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal i gyhoeddi’r canfyddiadau.
Noson Gemau Traddodiadol
Cynhelir y noson gemau ar noson 4 Mai 2007 yn Neuadd Penygroes rhwng 5.30 ac 8. Dylai unrhyw un sydd angen hyfforddiant ar un o’r gemau gyrraedd am 5 o’r gloch. Mae posteri wedi eu dosbarthu.
Unrhyw Fater Arall
Gofynnodd Huw Evans o Menter Cwm Gwendraeth i’r Fforwm i adnabod prosiect posibl fel rhan o wythnos amgylcheddol ‘Wi’n Caru Cwm Gwendraeth’ sy’n dechrau ar 9fed o Orffennaf.
Mae ymweliad i weld menter gymunedol Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen yn ar 24 Mai, gyda’r bws mini yn gadael Pontyberem am 10 y.b. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod gysylltu â swyddfa’r Fenter.
Gwelwyd oedi ar waith ar yr ardd gymunedol tra i’r swyddogion ddatrys problemau ynglyn â thaliadau. Disgwylwyd i’r planhigion a’r hadau gyrraedd yn ystod yr wythnos nesaf.
Mae’r Clwb Garddio yn trefnu taith i Sioe Flodau Malvern ar 12fed Gorffennaf 2007. Mae yna ychydig o seddau ar gael o hyd.
Bydd y Sioe Flodau flynyddol yn cael ei chynnal ar 21ain Gorffennaf yn y Clwb Rygbi. Bydd yna gystadleuaeth ar gyfer y fasged grog, a blwyddyn nesaf bydd yna un ar gyfer yr ardd flaen orau.
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 6ed Mehefin 2007.